Lleoliad Dewisol yn Ysbyty Great Ormond Street, Llundain
28 Mawrth 2023Yn ystod y mis diwethaf rwyf wedi bod ar fy lleoliad dewisol yn Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain. Mae’r lleoliad dewisol yn leoliad rydyn ni’n gwblhau ym mlwyddyn 5 o’r cwrs Meddygaeth yng Nghaerdydd ac mae modd mynd i unrhyw le yn y byd er mwyn cwblhau’r lleoliad. Yn draddodiadiol, mae nifer fawr o fyfyrwyr meddygol yn cwblhau eu lleoliad dewisol dramor ond mi wnaeth COVID-19 agor nifer o lygaid i’r cyfleodd sydd ar gael ym Mhrydain, i ni sy’n astudio yng Nghaerdydd mae’n gyfle unigryw i gwblhau lleoliad yn Lloegr, er enghraifft.
Os ydych chi wedi darllen rhai o fy mlogiau eraill efallai byddwch yn gwybod mai fy niddordeb o fewn Meddygaeth yw cardioleg paediatrig (hynny yw trin clefydau o’r galon mewn plant). Ers yr ail flwyddyn o’r cwrs Meddygaeth rwyf wedi cwblhau nifer o brosiectau yn yr adran cardioleg paediatrig yn Ysbyty Arch Noa yng Nghaerdydd. Ym mlwyddyn 2 mi wnes i gwblhau lleoliad wythnos o hyd yn yr adran, yn ystod fy ngradd ymsang mewn ffarmacoleg mi wnes i gwblhau fy mhrosiect ymchwil yn yr adran ac mi wnes i fy nghydran dewisol ym mlwyddyn 4 yno. Felly pan yn penderfynu ble i wneud fy lleoliad dewisol roedd yn bwysig i mi fy mod i’n gallu cwblhau’r lleoliad yn y maes yma ond hefyd fy mod i’n gallu cael profiadau nad oedd yn bosib yng Nghaerdydd. Mae Ysbyty Great Ormond Street yn ysbyty plant arbenigol iawn ac felly maent yn trin plant gyda chyflyrau cymleth ac anghyffredin ond mae nhw hefyd yn cynnal gwasanaeth cardioleg paediatrig trydyddol i blant sy’n byw yn ardal Llundain (yn debyg i Gaerdydd ar gyfer plant De Cymru).
Rwyf wedi cael amryw o brofiadau yn ystod y 4 wythnos o leoliad ac mi wnai fynd trwy’r mathau gwahanol o sesiynau rwyf wedi eu mynychu yn y paragraffau i ddilyn.
Teithiau Ward
Roedd un ward arferol cardioleg yn yr ysbyty gyda taith ward pob bore. Mi wnes i gychwyn fy lleoliad trwy fynychu’r taith ward yma ar y bore cyntaf. Roedd yn braidd o sioc cael fy nhaflu i mewn yn syth i ddilyn y taith ward a chyfarfod nifer o blant gyda chyflyrau cardiaidd cymleth oedd wedi cael amryw o fathau gwahanol o lawdriniaeth. Roeddwn i’n ceisio gwrando ar y sgyrsiau rhwng y meddygon er mwyn ceisio deall beth oedd yn mynd ymlaen ac mi wnes i sylweddoli’n sydyn mai un o’r prif flaenoriaethau oedd bwydo’r plant: mae problemau cardiaidd yn gallu ei gwneud yn anodd i fwyta trwy’r ceg oherwydd bod y plant yn blino ond mae’n rhaid iddynt gael maeth er mwyn tyfu i faint ble gellir wneud llawdriniaeth. Roedd y taith ward hefyd yn gyfle gwych i wrando ar galonau’r cleifion ac roedd gan nifer ohonynt rwgnach i’w glywed. Trwy barhau i fynychu’r taith ward boreuol cwpl o weithiau yr wythnos a mynychu sesiynau eraill roeddwn i’n dod i ddeall mwy a mwy o beth oedd yn mynd ymlaen.
Mae yna nifer o dimau is-arbenigol yn adran cardioleg paediatrig Great Ormond Street, yn cynnwys tîm ffwythiant y galon a thrawsblaniadau. Mae’r tîm yma yn gynnal eu taith ward eu hunain gan gychwyn ar yr Uned Gofal Dwys Cardiaidd ac yna mynd draw i’r ward arferol er mwyn gweld unrhyw gleifion sydd o dan eu gofal yno. Mi wnes i fynychu’r taith ward yma dau ddiwrnod yn olynol ar fy ail wythnos. Roedd hyn yn gyfle i ddysgu am drawsblaniadau yn cynnwys y dyfeisiau cymorth fentrigl sy’n cael eu defnyddio i roi cymorth cylchredol i gleifion sy’n disgwyl am drawsblaniad.
Clinigau
Roedd y rhan fwyaf o fy amser ar y lleoliad yn cael ei dreulio mewn clinigau cleifion allanol ac roedd amryw o glinigau gwahanol. Y clinig cyntaf es i iddo oedd y clinig cardiomyopathi (hynny yw clefydau sy’n effeithio cyhur y galon, y cyflwr mwyaf cyffredin yn y clinig oedd un sy’n achosi i’r cyhur fod yn fwy trwchus na’r arferol). Roedd hwn yn glinig oedd yn cael ei redeg gan y tîm Cyflyrau Cardiaidd Etifeddol ac felly roedd yna lawer o gysidriad o’r teulu cyfan a geneteg. Mi es i hefyd i glinig Cyflyrau Curiad y Galon Etifeddol, maes rydw i’n ei ffendio’n diddorol dros ben. Clefydau yw rhain ble mae mwtaniad yn y genyn sy’n codio am un o’r sianeli sy’n gadael ionau i mewn neu allan o’r galon yn achosi newid yn eu ffwythiant sy’n arwain at guriad calon afreolaidd.
Mi wnes i hefyd dreulio amser yng nghlinigau’r tîm ffwythiant calon a thrawsblaniad a chwrdd â chleifion oedd unai yn disgwyl am drawsblaniad, wedi cael trawsblaniad neu yn dioddef o gyflwr sy’n gallu effeithio ar ffwythiant y galon ond ble doedd y cyflwr ddim yn ddigon difrifol i fod angen trawsblaniad.
Roedd y clinigau cardioleg cyffredinol yn ymdrin â chlefydau cynhenid o’r galon yn bennaf, yn cynnwys tyllau yn y galon, cyflyrau sy’n ymwneud a’r falfau a chleifion oedd yn cyflwyno gyda symtomau oedd o bosib oherwydd problem a’r galon. Roedd y clinigau yma yn gyfleoedd da i wrando ar galonau’r cleifion gan fod gan nifer ohonynt rwgnach.
Y math olaf o glinig es i iddo oedd y clinig electroffisioleg. Dyma’r clinig sydd yn ymdrin â chyflurau curiad calon afreolaidd ble nad ydynt yn gallu cael eu hetifeddu. Roedd yna hefyd glinig electroffisioleg penodol i gleifion oedd â rheolydd calon ble roedd y rheolyddion yn cael ei gwirio yn ystod prawf rheolydd calon cyn i’r cleifion gael eu gweld gan y meddyg.
Yn ogystal ag arsylwi ar yr apwyntiadau yn y clinigau yma, yn aml roedd y meddygon oedd yn rhedeg y clinigau yn cymryd amser rhwng apwyntiadau i addysgu am themâu gwahanol. Yn arbennig roedd y clinigiau yn gyfle da i edrych ar lawer o electriocardiogramau (recordiad o’r trydan sy’n teithio trwy’r galon) ac echocardiogramau (sgan uwch-sain o’r galon).
Labordy Cathetr
Roedd cyfle i arsylwi gweithdrefnau yn y labordy cathetr. Yn ystod y 4 wythnos mi wnes i arsylwi triniaeth i gau pibell waed sy’n cysylltu’r ddwy brif rydwelien ac biopsi o’r galon mewn claf ar ôl trawsblaniad. Yn ogystal, mi wnes i arsylwi gweithdrefnau electroffisiolegol yn y labordy cathetr sef rhoi diffibriliwr mewnblanadwy mewn claf a phrofion electrophysiolegol (ble mae gwifren yn cael ei ddefnyddio er mwyn ceisio ail-greu curiad calon afreolaidd er mwyn ei weld yn fwy manwl er mwyn ei drin).
Crynodeb
Mi ges i amser gwych yn ystod y lleoliad ac mi wnes i ddysgu llwyth mewn amser byr. Byddwn i’n bendant yn argymell lleoliad o’r fath i unrhyw un sydd â diddordeb. Efallai mae’r pwynt mwy pwysig i’w wneud yma yw i bwysleisio pwysigrwydd cymryd y cyfleoedd i gwblhau lleoliadau unigryw sy’n siwr o fod yn brofiad da er mwyn gyrfa ond hefyd fel cymorth er mwyn penderfynu ar faes penodol. Os oes ganddoch chi unrhyw gwestiynau am fy lleoliad neu am sut i drefnu lleoliad dewisol tebyg, gallwch gysylltu â fi trwy Unibuddy.
- Advice for Students
- After University
- Ail flwyddyn
- Application Process
- Application Process
- Applying to University
- Arian
- Aros gartref
- Aros mewn
- Astudio
- Byw oddi cartref
- Cardiff University Experiences
- Chwaraeon
- Clearing
- Clybiau a chymdeithasau
- Cooking
- Cyd-letywyr
- Cymraeg
- Darlithoedd
- Dim ond yng Nghaerdydd
- Exams
- Global Opportunities
- Guest posts
- Heb ei gategoreiddio
- Medic Tips
- Mynd allan
- Neuaddau Preswyl
- Open Day
- Opportunities
- Postgraduate Study
- Rhentu tŷ
- Student Heroes
- Student Life
- Studying Online
- Swyddi a phrofiad gwaith
- Teithio
- Things to do in Cardiff
- Top Tips
- Trydedd flwyddyn
- UCAS Application
- Why University?
- Ymgartrefu