Skip to main content

Adeiladau'r campws

Datblygiad proffesiynol ar gyfer CSconnected

28 Medi 2023

 

Mae partneriaid yn y diwydiant lled-ddargludyddion yn mwynhau cyflwyniad ymarferol i gyrsiau DPP newydd Prifysgol Caerdydd. Esboniodd Kate Sunderland, Rheolwr Prosiect DPP (CSconnected)…

“Mae gweithwyr proffesiynol o bob rhan o glwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd De Cymru, CSconnected, wedi dod ynghyd i brofi dau gwrs DPP newydd ym Mhrifysgol Caerdydd, a rhoi adborth gwerthfawr arnynt: Cyflwyniad i Electroneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, a Chyflwyniad i Ffotoneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.

Nod y cyrsiau hyn, a ddatblygwyd gan academyddion o Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Caerdydd, yw darparu neu wella gwybodaeth am electroneg lled-ddargludyddion cyfansawdd a thechnoleg ffotoneg a’u cymwysiadau. Maent yn cyflwyno’r wyddoniaeth y tu ôl i’r technolegau hyn ac yn edrych ar sut maent yn cyfrannu at gymdeithas, yn ogystal â helpu i fynd i’r afael â heriau’r byd modern, fel y rhai sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd a’r agenda sero net.

Mae’r hyfforddiant yn cael ei ddatblygu i wella sgiliau’r rhai sydd eisoes yn gweithio yn y clwstwr, a helpu rhoi sgiliau newydd i gweithwyr proffesiynol sy’n ystyried newid gyrfa i’r sector deinamig hwn sy’n ehangu. Gallai hefyd fod yn fuddiol iawn i’r rheiny sy’n cefnogi’r diwydiant lled-ddargludyddion, megis partneriaid y gadwyn gyflenwi a gweithwyr yn y sector cyhoeddus sydd am chwalu’r mythau ynghylch lled-ddargludyddion cyfansawdd.

Yn ystod y cynllun peilot Cyflwyniad i Electroneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, gweithiodd y rheiny a gymerodd ran mewn timau bach yn frwd, ar weithgareddau a oedd â’r nod o ddod â’r wyddoniaeth y tu ôl i electroneg lled-ddargludyddion yn fyw. Roedd y gweithgareddau hyn yn cynnwys deall sut mae picseli ar ein ffonau yn cynhyrchu lliw trwy ficro-bicseli, ac archwilio maint dot ar ddarn arian 10c i ddeall graddfa fach y transistorau modern!

Yn ystod cynllun peilot y cwrs Cyflwyniad i Ffotoneg Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, estynnodd y rheiny a gymerodd ran am eu ffonau unwaith eto, y tro hwn i gymryd rhan mewn arolygon rhyngweithiol a chwisiau i helpu i brofi eu dealltwriaeth o ffotoneg. Roedd hyn yn cynnwys beth yw ffotoneg, ble mae i’w gael yn ein bywydau bob dydd, ac (mewn termau cymharol syml) sut mae technoleg sglodion ffotonig yn gweithio.

Daeth nifer fawr o bobl i’r ddau ddigwyddiad ac roedd yr adborth ganddynt yn dda. Yn ôl un o’r bobl a gymerodd ran ar y cwrs Ffotoneg sy’n Uwch Beiriannydd Proses yn KLA: ‘It really reignited my want to learn!!

Yn dilyn adborth ar y cynlluniau peilot a ddaeth i law, mae’r ddau gwrs bellach yn cael eu diweddaru. Byddant yn cael eu cynnig yn weithgareddau cyfunol (h.y. cymysgedd o ddysgu ar-lein a dysgu wyneb yn wyneb) a bydd modd cadw lle arnyn nhw ar dudalennau gwe DPP Caerdydd o’r hydref hwn.

Mae’r cyrsiau hyn yn rhan o gyfres o weithgareddau DPP sy’n cael eu datblygu gan ddefnyddio cyllid UKRI drwy Gronfa Cryfder mewn Lleoedd CSconnected (SIPF). Mae SIPF yn galluogi cyrsiau i gael eu datblygu mewn meysydd sy’n benodol i’r sector lled-ddargludyddion cyfansawdd a lle mae diffygion yn y ddarpariaeth ar hyn o bryd. Ei nod yw mynd i’r afael â’r angen i gynyddu gallu sgiliau ym maes lled-ddargludyddion. Mae’r cwrs cyntaf, Protocolau Ystafell Lân, eisoes wedi’i lansio. Mae cyrsiau eraill sy’n cael eu datblygu yn ymdrin â chyflwyniad i theori ysgythru (- proses saernïo microsglodyn), cyflwyniad i theori bondio gwifren (- proses pecynnu microsglodyn), a dealltwriaeth o gadwyn gyflenwi lled-ddargludyddion.”

I gael rhagor o fanylion am y gweithgareddau DPP, cysylltwch â Kate Sunderland, Rheolwr Prosiect DPP (CSconnected): sunderlandk@cardiff.ac.uk

Mae SiPF CSconnected yn brosiect 55 mis o hyd sy’n werth cyfanswm o £43 miliwn. Mae’n cael ei gefnogi gan gyllid gwerth £25 miliwn gan Lywodraeth y DU drwy gronfa SiPF flaenllaw UKRI.