Ydy basnau alltraeth yng Nghymru’n allweddol i leihau allyriadau carbon?
20 Medi 2023
Mae allyriadau carbon deuocsid (CO2) ar hyd a lled y byd yn cynyddu, ac mae heriau dal a storio’r nwy tŷ gwydr hwn yn ddiogel i’w gweld ar lawer o agendâu cenedlaethol. Yn y blog hwn, mae Dr Roberto Loza o’r Sefydliad Arloesi Sero Net ac Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd ym Mhrifysgol Caerdydd yn sôn wrthyn ni am ei ymchwil i atebion storio CO2 newydd ar gyfer Cymru.
Yn y DU yn unig, amcangyfrifir bod 331 miliwn o dunelli o CO2 yn cael eu rhyddhau i’r atmosffer bob blwyddyn. Dyma swm mawr sy’n effeithio llawer iawn ar newid yn yr hinsawdd. Er mwyn rhoi cyd-destun i’r sefyllfa, mae 1 miliwn tunnell o CO2 yn yr atmosffer yn cyfateb i betryal sydd yr un mor uchel ag adeilad The Shard ac arwynebedd sydd yr un maint bron â Pharc Hyde yn Llundain (Ffigur 1). Mae angen storio CO2 yn barhaol mewn ystorfeydd daearegol dwfn er mwyn lleihau lefel y CO2 yn yr atmosffer a chyrraedd targed sero net erbyn 2050. Mae’n broses debyg i sut mae olew a nwy wedi’u dal yn naturiol ers miliynau o flynyddoedd, ar ddyfnderoedd o fwy na 800m, sy’n ei gwneud yn arbennig o ddiogel.
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y DU yn canolbwyntio’n bennaf ar ddatblygu Môr y Gogledd i storio CO2, gan fod seilwaith eisoes sy’n hwyluso’r gwaith o weithredu’r broses hon yn y tymor byr. Fodd bynnag, ar gyfer Clwstwr Diwydiannol De Cymru, sef allyrrydd CO2 mwyaf ond un y DU, mae storio CO2 ym Môr y Gogledd yn heriol yn logistaidd. Mae i hyn oblygiadau ariannol ac amgylcheddol mawr, hefyd. Y cynllun presennol yw anfon y CO2 sy’n cael ei ddal yn Ne Cymru i hwb diwydiannol fel Humber (1,150km i ffwrdd) yn Lloegr neu St Fergus (1,300km i ffwrdd) yn yr Alban. O’r hybiau hyn, bwriedir i’r CO2 gael ei gludo drwy biblinellau newydd i’w storfa alltraeth hirdymor o dan y ddaear yng nghronfeydd Môr y Gogledd. Cost ariannol gwneud hyn yw £10-12 y dunnell o CO2 ar gyfer anfon, yn ogystal â £5-10 y dunnell o CO2 ar gyfer cludo drwy’r piblinellau. Mae’r gost amgylcheddol yn gysylltiedig â llosgi tanwydd, sy’n rhyddhau cyfran gyfatebol o’r CO2 sy’n cael ei gludo. Gall hyn amrywio o 2% i 8%, gan ddibynnu ar faint y llong a’r pellter. Mae’r costau uchel hyn yn ei gwneud yn anodd i’r dechnoleg hon fod yn gynaliadwy yn Ne Cymru. Felly, mae dod o hyd i safleoedd storio CO2 sy’n agosach yn allweddol i leihau costau a gwneud y dechnoleg yn gynaliadwy yn y tymor hir.
Rwy’n gwneud ymchwil i safleoedd storio CO2 alltraeth sy’n agosach, fel Bae Ceredigion, Môr Iwerddon a’r Môr Celtaidd (Ffigur 2). Mae’r basnau hyn wedi’u diystyru oherwydd diffyg cronfeydd nwy ac olew yn hanesyddol. Er hynny, ar gyfer storio CO2, mae dyfrhaenau heli dwfn sy’n cynnwys creigiau mandyllog trwchus yn gronfa naturiol o dan greigiau anhydraidd trwchus sy’n creu sêl. Mae hynny’n drap delfrydol ar gyfer storio CO2 yn barhaol. Yn gyffredinol, mae tri math o drap: (1) caefa strwythurol gromennog, (2) trap ffawt, a (3) trap stratigraffig (Ffigur 3). Nid oes ymchwil wedi’i gwneud eto i drapiau ffawt a thrapiau stratigraffig mewn dyfrhaenau heli alltraeth yng Nghymru, a nod fy ymchwil yw darganfod eu potensial.
Nid yw’r trapiau cronfa hyn wedi’u harchwilio’n llawn, ac mae’r data sydd ar gael yn hen. Mae ymchwil newydd ar y cyd, gan gynnwys arloesedd yn y byd academaidd, buddsoddiad gan y diwydiant a mentrau gan y llywodraeth, yn allweddol i wireddu hyn. Rwy’n cydweithio â’r diwydiant, sy’n barod i gefnogi’r prosiect ymchwil arloesol hwn, ac wrthi’n cael trafodaethau ynghylch cydweithio â Chlwstwr Diwydiannol De Cymru.
Mae angen i agenda’r DU ar gyfer yr hinsawdd ganolbwyntio ar y maes hwn yn un i fuddsoddi rhagor ynddo, gan y byddai dod o hyd i storfeydd mawr alltraeth yng Nghymru’n chwyldroi sut mae carbon yn cael ei ddal a’i storio yn y DU, a hynny drwy wella potensial storio cyffredinol y DU a’i gwneud yn bosibl iddi gyflawni ei huchelgais i allu storio hyd at 180 miliwn o dunelli o CO2 erbyn 2050. I Gymru, gall hyn gynyddu faint sy’n cael ei fuddsoddi yn y wlad yn esbonyddol a chreu diwylliant hollol newydd, gan greu swyddi newydd a denu gweithwyr proffesiynol medrus. Byddai manteision economaidd i hyn, a byddai’n ailfywiogi’r cymunedau yng Nghymru a oedd yn ffynnu pan fu llawer o alw am lo. Ar lefel y llywodraeth, mae’n rhaid i ni gael trafodaethau gydag Iwerddon, gan ei bod yn debygol y byddai cronfeydd mawr ar gyfer storio CO2 yn croesi ffiniau gwleidyddol (er enghraifft, ym Masn Môr Canol Iwerddon), sy’n golygu y byddai buddsoddi ar y cyd yn bosibl. Dyma adeg gyffrous i fod yn rhan o ateb i gyrraedd sero net.