Skip to main content

Adeiladau'r campwsSefydliad Arloesedd Niwrowyddoniaeth ac Iechyd MeddwlSefydliadau Arloesedd ac Ymchwil y Brifysgol

Fy nhaith clefyd Parkinson – stori Lara.

11 Ebrill 2023

 

Bob awr, bydd dau berson yn y DU yn cael gwybod fod ganddynt glefyd Parkinson, sy’n troi eu bywydau wyneb i waered. Tra bod y mwyafrif o bobl yn datblygu symptomau ar ôl 65 oed, mae’r cyflwr yn effeithio ar filoedd o bobl o oedran gweithio hefyd.

Mae Lara yn fam i ddau fachgen ifanc sy’n gweithio ac yn byw yn Ne Cymru gyda’i gŵr. Cafodd wybod bod ganddi Glefyd Parkinson saith mlynedd yn ôl, yn 33 oed. Yma, mae hi’n rhannu hanes byw gyda’r cyflwr â ni.

Dechreuodd yr holl beth pan ddechreuodd fy llaw dde grynu. Mae gen i swydd sy’n peri llawer o straen yn y GIG. Sylwais pan ro’n i dan bwysau fod fy llaw yn crynu. Byddai fy llawysgrifen yn dod yn llai ac yn anoddach ei darllen. Gan fy mod i’n feichiog gyda’m mab hynaf ar y pryd, dywedodd y meddyg teulu mai syndrom twnnel carpal oedd yn achosi’r symptomau – cyflwr cyffredin yn ystod beichiogrwydd. Ond wrth i’r beichiogrwydd fynd rhagddo, ni welais unrhyw welliant yn fy symptomau. Roedden nhw’n waeth hyd yn oed, fel nad oeddwn i’n gallu ysgrifennu bron gyda’m llaw dde. Yn y pen draw, cyfeiriodd fy meddyg teulu fi at niwrolegydd, a ddywedodd wrthyf, yn fy apwyntiad cyntaf, ei fod yn amau fy mod yn dangos symptomau cynnar Clefyd Parkinson. Sut mae ymateb i newyddion felly? Cyn belled ag y gwyddwn i, clefyd Parkinson yn rhywbeth i “hen bobl” – dim ond 33 o’n i. Roedd yn teimlo’n anhygoel o annheg. Roedd gen i fywyd cyfan o’m blaen, ac nawr, roedd yn llawn ansicrwydd. Roedd yn anodd peidio â theimlo’n unig dros ben.

 

Mae pob mam newydd yn ei chael hi’n anodd, ond nid fel hyn

Unwaith y cafodd fy mab ei eni, roeddwn i’n gallu cael sgan cludo dopamin (sgan DaT) i gadarnhau’r diagnosis. Mae bod yn rhiant newydd yn anodd i unrhyw un, ond wrth fyw gyda chlefyd Parkinson, gall hyd yn oed y dasg symlaf ddod yn amhosibl. Roedd yn gas gen i feddwl am unrhyw apwyntiad lle roedd angen i mi ddadwisgo neu wisgo’r babi, neu newid clwt o flaen unrhyw un, oherwydd ro’n i’n gorfod gwneud hyn â’m llaw chwith. Ro’n i’n gweld y tabiau ar glytiau bach a’r botymau ar ddillad babis yn anodd iawn. Roedd yn gyfuniad cyson o rwystredigaeth a thristwch am y sefyllfa, yn bennaf gan fy mod yn cymharu fy hun i famau eraill yn y grwpiau babis, a oedd i weld yn ei chael hi’n hawdd iawn.

Dechreuais gymryd rhywfaint o feddyginiaeth, a helpodd fi i symud yn well. Ond, o ganlyniad, cefais wybod y byddai angen defnyddio fformiwla i fwydo fy mab, oherwydd doedden nhw’m yn siŵr beth allai gael ei drosglwyddo i’r babi trwy laeth fy mron. Er mai hwn oedd y dewis iawn i mi, gan fod cymryd y feddyginiaeth wedi fy helpu i allu gwneud cymaint mwy o’r pethau ymarferol sy’n gysylltiedig â gofalu am fabi, ro’n i’n poeni’n ofnadwy am y peth ar y dechrau. Pan mae’n ymddangos mai’r cyfan rydych chi’n ei weld o’ch cwmpas mewn grwpiau babanod yw mamau sy’n bwydo ar y fron, ac mai’r ‘fron sydd orau’, mae’n anodd peidio â theimlo eich bod chi’n methu; hyd yn oed pan fyddwch chi’n gwneud eich gorau glas.

Sicrhau’r gefnogaeth gywir

Fe wnaeth fy niwrolegydd fy nghyfeirio at Dr Kathryn Peall yn Sefydliad Arloesedd Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd, arbenigwr mewn cefnogi pobl iau ag anhwylderau symud. Gwelais hi am y tro cyntaf ychydig fisoedd ar ôl i fy mab gael ei eni. Gallaf ei chofio yn fy asesu am y tro cyntaf, yn fy recordio yn cerdded ac yn symud fy nwylo a’m breichiau. Roedd graddfa fy nirywiad yn amlwg, ond roeddwn yn hapus iawn i fod o dan ofal Dr Peall ac roeddwn yn gwerthfawrogi ei hagwedd gadarnhaol a’i natur agored am yr opsiynau sydd ar gael.

Fodd bynnag, fel llawer o bobl ledled Cymru, rwy’n byw mewn ardal bwrdd iechyd lle mae darpariaeth cymorth clefyd Parkinson am ddim yn canolbwyntio ar ofal yr henoed. Roedd mynd i apwyntiadau gyda nyrs Parkinson a ffisiotherapydd yn y Ganolfan Ddydd yn ddigalon ac yn peri gofid, gan nad oeddent yn gallu diwallu fy anghenion fel person iau â’r cyflwr. Yn y pen draw cefais fy nghyfeirio at nyrs clefyd Parkinson wych mewn ardal gyfagos, a rhyngddi hi a Dr Peall roeddwn yn teimlo bod fy ngofal mewn dwylo diogel. Ro’n i’n gwybod fy mod eisiau cael babi arall, felly cefais brofion genetig wnaeth gadarnhau nad oedd gen i unrhyw un o’r genynnau hysbys sy’n gysylltiedig â chlefyd Parkinson. Roedd hyn yn rhyddhad enfawr, a gyda chefnogaeth lawn fy nhîm gofal croesewais fy ail fab yn 2019. Yn ystod y cyfnod hwn, cymerais ran hefyd mewn rhai astudiaethau ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, ac roedd yn deimlad da rhoi rhywbeth yn ôl i’r rhai a oedd wedi rhoi cymaint o gefnogaeth i mi.

Delio â’r baich meddyliol a chorfforol cynyddol

Mae clefyd Parkinson yn gyflwr cynyddol, ac erbyn dechrau 2021, daeth i’r amlwg ei fod yn effeithio fwyfwy ar fy mywyd o ddydd i ddydd. Er gwaethaf cymryd nifer o wahanol feddyginiaethau, roeddwn yn cael cyfnodau yn y dydd lle roedd fy meddyginiaethau yn stopio gweithio cyn y byddai’r dos nesaf yn dod i rym. Roeddwn hefyd yn profi llawer o symudiadau anwirfoddol ychwanegol fel sgîl-effaith y feddyginiaeth a chrampiau poenus cyhyrau yn fy nhroed chwith ac i fyny fy nghoes, yn enwedig gyda’r nos. Dechreuodd fy iechyd meddwl ddirywio. Ro’n i’n ei chael hi’n anodd dal ati gyda phwysau yn y gwaith a gartref, ac roeddwn wedi colli hyder wrth yrru unrhyw beth heblaw pellteroedd byr.

Penderfynais fod angen i mi wneud rhai newidiadau. Dechreuais wirfoddoli gyda Parkinson’s UK, a mwynheais helpu eraill a oedd newydd gael diagnosis. Oherwydd y diffyg gofal GIG oedd ar gael, dechreuais weld ffisiotherapydd arbenigol preifat a dechreuais fynychu dosbarthiadau ‘Warrior’ preifat ar gyfer Clefyd Parkinson bob wythnos, yn ogystal â rhoi cynnig ar y gwahanol raglenni ymarfer corff clefyd Parkinson sydd ar gael yn breifat ar-lein. Roedd ymarfer corff o fudd mawr a sylwais fod fy symptomau a’m lles meddyliol wedi gwella o ganlyniad. Dechreuais gwrdd â rhai grwpiau cyfoedion hefyd – menywod ifanc lleol eraill sy’n byw gyda chlefyd Parkinson. Maent wedi bod yn gymaint o anogaeth i mi oherwydd gall fod mor anodd esbonio sut beth all bywyd gyda chlefyd Parkinson fod i’r rhai nad ydynt yn byw gydag ef. Maen nhw wedi fy nysgu sut i chwerthin ar fy mhen fy hun eto.

Ymgeisydd am lawdriniaeth 

Gydag anogaeth Dr Peall, cytunais i gael fy nghyfeirio at dîm Ysgogi’r Ymennydd Dwfn (DBS) ym Mryste i ystyried a allai hyn fod yn opsiwn i mi. Cefais fy apwyntiad cyntaf gyda’r tîm DBS ym mis Ionawr 2022. Roeddent yn dda iawn am esbonio’r weithdrefn asesu, sut beth fyddai’r ddyfais, a beth oedd y manteision a’r anfanteision posibl. Cynhaliwyd yr asesiad ym mis Medi 2022, a dyma’r rhan anoddaf o’r broses DBS oherwydd bu’n rhaid i mi roi’r gorau i gymryd fy meddyginiaeth a chael fy nerbyn i Ysbyty Southmead dros nos. Daeth fy holl symptomau yn ôl yn gyflym iawn, ac roedd popeth yn teimlo’n echrydus. Ond roedd yn werth y boen, oherwydd ar ôl cael fy asesu i ffwrdd ac ar fy meddyginiaeth, dywedwyd wrthyf fy mod yn ymgeisydd ar gyfer DBS. Roedd y penderfyniad i gael y lawdriniaeth yn un hawdd. Roedd yn ymddangos fel yr unig ffordd i wella ansawdd fy mywyd ac osgoi gorfod, unwaith eto, cynyddu fy meddyginiaeth a fyddai’n arwain at sgîl-effeithiau cysylltiedig. Roedd meddwl am gael llawdriniaeth ar fy ymennydd yn codi ofn, ond roedd y manteision posibl yn fwy nag unrhyw nerfau roeddwn i’n teimlo.

Dechrau cael gobaith

Cefais y llawdriniaeth i osod y system DBS ym mis Rhagfyr 2022, ac yna chwe wythnos o orffwys a gwella ar ôl llawdriniaeth.  Roedd yr apwyntiad ‘cynnau’ wedi’i drefnu ar gyfer diwedd mis Ionawr 2023. Nes i’m cysgu o gwbl y noson cyn yr apwyntiad oherwydd roedd yn rhaid imi stopio cymryd fy meddyginiaeth. Achosodd hyn grampiau cyhyrol poenus yn fy mreichiau, fy nghoesau a gwddf. Roedd yn anodd gwisgo a bwyta oherwydd diffyg ystwythder fy nghyhyrau. Roedd hyd yn oed eistedd yn yr ystafell aros yn anghyfforddus. Yna, daeth yr adeg roeddwn i wedi bod yn aros amdani. Trodd y nyrsys yr electrodau ymlaen un ar y tro a sylwais welliant ar unwaith – diflannodd y crampiau cyhyrol poenus a oedd wedi bod yn fy effeithio am flynyddoedd ar unwaith. Roedd yn deimlad rhyfeddol yn llawn rhyddhad pur.

Mae gosod y DBS yn cymryd sawl apwyntiad ysbyty dros fisoedd lawer, gan gynyddu’r ysgogiad a roddir gan y mewnblaniad a lleihau’r meddyginiaethau. Gall canlyniadau llawdriniaeth DBS fod yn amrywiol, ond dros y ddau fis diwethaf rwyf wedi sylwi ar welliant enfawr yn fy symptomau ac yn teimlo’n debycaf i mi fy hun eto. Rwy’n cymryd llai o feddyginiaethau, sydd wedi lleihau’r symudiadau ychwanegol yr oeddwn wedi bod yn eu cael fel sgîl-effaith. Rwyf hefyd yn cysgu’n well, ac mae ffrindiau wedi dweud bod gen i fynegiadau’r wyneb mwy naturiol eto. Rwy’n gyffrous i weld sut bydd pethau’n symud ymlaen wrth i addasiadau pellach gael eu gwneud.

Mae cael diagnosis o Glefyd Parkinson mor ifanc wedi bod yn ffordd anodd, ac yn aml yn unig, i’w hwynebu, ond rwy’n hynod ddiolchgar fy mod wedi cael fy nghyfeirio am y DBS ac am y gefnogaeth a gefais gan bawb sy’n ymwneud â’m gofal; yn enwedig Dr Peall. Gyda’r ymchwil anhygoel i driniaethau newydd sydd ar waith ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mewn mannau eraill, mae gen i obeithion mawr ar gyfer dyfodol fy mywyd gyda chlefyd Parkinson.