Galw arbenigwyr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd y dyfodol
7 Mawrth 2023Mae’r diwydiant Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn angori dwsinau o gwmnïau a miloedd o swyddi yn ne Cymru.
Mae gyrfaoedd yn y diwydiant Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn cynnig cyfle i recriwtiaid dawnus weithio ar dechnolegau sglodion cenhedlaeth nesaf, gan helpu i ddatblygu cynhyrchion a phrosesau diwydiannol y dyfodol sy’n gyrru newidiadau’r byd go iawn, o systemau llywio lloeren mwy effeithiol i gerbydau trydan mwy effeithlon.
Sefydlwyd Canolfan EPSRC ar gyfer Hyfforddiant Doethurol mewn Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd bedair blynedd yn ôl er mwyn recriwtio a hyfforddi’r myfyrwyr gorau, gan helpu i fynd i’r afael â phrinder sylweddol o bobl â sgiliau lefel uchel yn y diwydiant.
Mae’r Ganolfan Hyfforddiant Doethurol (CDT), partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd, Coleg Prifysgol Llundain a phrifysgolion Sheffield a Manceinion, yn recriwtio tua 14 o fyfyrwyr Doethurol bob blwyddyn sy’n gweithio ar eu hymchwil PhD ochr yn ochr â phartner diwydiant i gyflawni newid sylweddol mewn gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.
Cynigir ysgoloriaeth ymchwil lawn i fyfyrwyr CDT am bedair blynedd, gan gynnwys MSc integredig mewn Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ym Mhrifysgol Caerdydd yn rhan o’r rhaglen hyfforddi.
Mae’r ysgoloriaeth yn cynnwys cyflog llawn (£19,668 ar hyn o bryd), sydd £2,000 yn uwch na chyfradd gyflog safonol UKRI, ffioedd dysgu am bob un o’r pedair blynedd, pwysoliad Llundain ar gyfer y rhai sy’n mynd i wneud eu PhD yn UCL, a grant hael o £15,000 i gefnogi ymchwil unigol a hyfforddiant personol y myfyrwyr.
Dywedodd yr Athro Peter Smowton, Cyfarwyddwr y Ganolfan: “Yn ystod eu PhD, mae ein myfyrwyr yn cael rhaglen lawn o hyfforddiant a gweithgareddau carfan sy’n sicrhau bod ganddynt ystod eang o wybodaeth o’r holl broses weithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn ogystal ag arbenigedd mewn un cam o leiaf. Rydym yn credu bod y dull hwn yn allweddol wrth ddatblygu myfyrwyr yn arweinwyr gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd y dyfodol, p’un a fyddant yn dewis dilyn gyrfa yn y diwydiant, gyrfa academig, neu’r ddau.
Mae’r CDT bellach yn recriwtio Carfan 5, eu pumed carfan a’r garfan olaf o’r CDT yn ei fersiwn gyfredol. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 3 Ebrill.
Os oes gennych chi radd (neu ar fin graddio) mewn ffiseg, peirianneg electronig neu unrhyw bwnc STEM cysylltiedig a bod gennych ddiddordeb mewn ymuno â’u tîm o ymchwilwyr, a rhoi hwb i’ch gyrfa mewn gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd, edrychwch ar dudalen we CDTi gael manylion y broses ymgeisio.