Skip to main content

Adeiladau'r campws

CASPER Shield – seiberddiogelwch ‘canfod ac amddiffyn’ mewn Cartrefi Clyfar

1 Mawrth 2023

Cyflwyno cynnyrch arloesi Prifysgol Caerdydd yn y gyfres ‘Arloesi Seiber’

Cyflwynwyd system seiberddiogelwch sy’n helpu i amddiffyn cartrefi clyfar rhag ymosodiadau seiber yn nigwyddiad ‘dragon’s den’ Llywodraeth y DU.

Mae CASPER Shield yn defnyddio data seiber a ffisegol uniongyrchol i ganfod ac amddiffyn cartrefi. Mae’r system, a ddatblygwyd gan wyddonwyr cyfrifiadurol a pheirianwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, yn defnyddio data uniongyrchol o bob rhan o’r cartref i ganfod digwyddiadau afreolaidd, yn hytrach na dibynnu ar ddata seiber neu rwydwaith ail-law a drosglwyddir yn anniogel ac y gellir cael gafael arno a’i newid yn rhwydd.

Mae’n defnyddio algorithmau sy’n seiliedig ar Ddeallusrwydd Artiffisial i ddod o hyd i anghysondebau mewn amser real, a hynny’n seiliedig ar ymddygiad dyfeisiau a deiliaid mewn ffordd gyfannol.

Dywedodd arweinydd y prosiect, Dr Charith Perera – Arweinydd a Phrif Swyddog Gweithredol y Prosiect, cymrawd gwytnwch cenedlaethol y GCHQ, fod y dull deuol hwn o gyflwyno seiberddiogelwch i gartrefi clyfar yn well o lawer na’r systemau diogelwch traddodiadol.

“Mae gan gartrefi clyfar ddyfeisiau electronig rhaglenadwy sy’n golygu bod awtomeiddio a rhyng-gysylltedd yn y cartref. Fodd bynnag, yn sgîl hyn daw rhagor o ymosodiadau, ac mae hyn yn golygu bod cartrefi clyfar yn darged deniadol i droseddwyr. Mae systemau confensiynol diogelwch yn y cartref neu systemau diogelu’r rhwydwaith ond yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau seiber neu ffisegol, yn hytrach na’r ffordd gyfunol, sy’n golygu eu bod yn methu â chanfod rhai achosion o ymyrryd â’r system.

Roedd CASPER yn un o 15 a gyrhaeddodd rownd derfynol Diwrnod ‘Cyber ASAP Demo’ UKRI, ac aethon nhw ati i gyflwyno a gwerthu eu technoleg arloesol i ddangos y Prawf o Gysyniad.

Ychwanegodd Charith: “Roedd yn ddigwyddiad cyffrous, ac yn hynod werth chweil. Cyflwynon ni’r dechnoleg am bum munud, gan gwrdd wedyn â’r rheini a wahoddwyd i’r chweched arddangosfa flynyddol, felly roedden ni’n gallu siarad â phobl a oedd wedi cymryd rhan yn y Diwrnodau ‘Cyber ASAP Demo’ cyn hyn, gan sgwrsio hefyd â darpar fuddsoddwyr ac ymgynghorwyr busnes.

“Gan fod ystadegau diweddar yn dangos bod mwy na 200 miliwn o gartrefi clyfar sydd hwyrach yn agored i niwed, mae angen cynyddol i amddiffyn cartrefi clyfar rhag y mathau hyn o ymosodiadau. Mae systemau diogelwch traddodiadol naill ai ynghlwm wrth rwydwaith (e.e. Systemau Canfod Ymyraethau) neu’n rhai ffisegol (e.e. systemau diogelwch larwm clyfar). Mae CASPER Shield yn cynnig datrysiad seiber-ffisegol cyfunol a’i nod yw rhoi ail linell amddiffynnol os bydd y datrysiadau rheng flaen traddodiadol yn methu.”

Yn sgîl ymchwil helaeth i’r farchnad, daeth tîm CASPER i’r casgliad nad oedd darparwyr eraill yn cynnig datrysiad cyfunol.

Dyma a ddywedodd Yasar Majib, Prif Swyddog Technoleg, myfyriwr PhD sydd â mwy na 15 mlynedd o brofiad ym maes diogelwch y cyhoedd, systemau lloeren, y gwyddorau cyfrifiadurol a diogelwch gwybodaeth: “Os bydd systemau diogelwch rheng flaen yn methu, roedden ni’n gwybod y byddai cartrefi clyfar yn agored i ymosodiadau, felly aethon ni ati i greu datrysiad mwy gwydn sy’n offeryn wrth gefn ac yn cyd-fynd â systemau o’r fath er mwyn diogelu’r system graidd.”

Dyma a ddywedodd Hakan Kayan – Prif Swyddog Gwyddonol a chyn-beiriannydd prosiectau a pheiriannydd Ymchwil a Datblygu: “Nod system newydd CASPER yw eich diogelu chi a’r pethau yn eich cartref sy’n gysylltiedig â’r rhwydwaith rhag troseddwyr fel y bydd lleoedd byw clyfar yn fwy diogel. Mae’r dull newydd yn seiliedig ar gyfrifiadura blaenllaw i sicrhau diogelwch data a phreifatrwydd y defnyddiwr terfynol, a hynny’n hyderus.”

Ychwanegodd Charith: “Er mai perchnogion cartrefi clyfar yw’r defnyddwyr terfynol, ein gobaith yw gweithio gyda darparwyr gwasanaeth rhyngrwyd (ISP) a darparwyr Hybiau Cartref Clyfar Rhyngrwyd y Pethau (IoT), gan ddefnyddio’r dechnoleg yn eu llwybryddion Wi-Fi neu eu hybiau cartref clyfar. Ein nod yn yr hirdymor yw cyfuno seiberddiogelwch a diogelwch ffisegol, a defnyddio’r un dechnoleg i gynnig datrysiadau diogelwch i adeiladau dibreswyl.”

CyberASAP (Rhaglen Gyflymu Cychwyn Busnesau Academaidd ym maes Seiberddiogelwch) yw’r unig raglen gyflymu cyn-sbarduno ym maes seiber sy’n rhoi arbenigedd, gwybodaeth a chymorth i droi ymchwil academaidd yn gynnyrch a gwasanaethau masnachol.

Ariennir CyberASAP gan
yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS)
yn Llywodraeth y DU, mewn partneriaeth ag Innovate UK ac Innovate UK KTN