Arloesi yn ystod dirywiad: y cymorth sydd ar gael i fusnesau bach a chanolig
23 Chwefror 2023Mae disgwyl i’r DU lithro i ddirwasgiad eleni, fydd yn effeithio ar fusnesau o bob maint a sector. Ymhlith yr heriau posibl sydd o’n blaenau mae llai o alw, problemau gyda’r gadwyn gyflenwi, llai o elw a gallu i gadw gweithwyr.
Gyda busnesau bach a chanolig yn cyfrif am 51.9% o’r sector preifat (2020) a 53.6% o holl swyddi’r sector preifat yn y DU, bydd ‘gwydnwch ac ystwythder’ busnesau bach a chanolig (Sage, 2023) yn hanfodol i ailadeiladu economi’r DU.
Mae Adroddiad Cyflwr y Berthynas 2022 gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Prifysgolion a Busnes (NCUB) a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dadansoddi’r tueddiadau allweddol mewn cydweithredu rhwng prifysgolion a busnesau. Mae’r canfyddiadau’n datgelu, er gwaethaf yr ansicrwydd allanol a’r pwysau ariannol a wynebir gan y sector addysg uwch a busnes, bod cydweithredu yn allweddol i alluogi busnesau bach a chanolig i dyfu ac arloesi.
Mae Prifysgol Caerdydd yn gweithio gyda busnesau bach a chanolig ledled y DU, gan annog, cefnogi a datblygu arloesedd. Rydym yn helpu sefydliadau i ddatblygu syniadau arloesol a datrys problemau busnes sy’n arwain at fanteision ac allbynnau sylweddol. Mae ein hymchwilwyr yn ymwneud ag ystod amrywiol o gydweithrediadau ymchwil a gefnogir gan raglenni a ariennir fel Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth. Mae ein Campws Arloesedd yn rhoi’r cyfleusterau, yr adnoddau a’r cymorth i sefydliadau annog arloesi a thwf. Mae hyn yn cynnwys Cardiff Innovations – man creadigol ar gyfer busnesau newydd, cwmnïau deillio a busnesau bach a chanolig sy’n helpu i droi syniadau gwych yn dwf ledled Cymru a thu hwnt. Wedi’i leoli yn adeilad sbarc I spark, mae’r gofod deor busnes wedi’i wasgaru ar draws 4 llawr ac mae’n ganolbwynt ar gyfer meithrin a datblygu partneriaethau diwydiant.
Ddydd Mercher 8 Mawrth byddwn yn archwilio’r amrywiaeth o ffyrdd y gall BBaChau weithio gyda Phrifysgol Caerdydd, i gyflwyno arloesedd a thwf, yn ystod y dirywiad economaidd presennol.
Dan gadeiryddiaeth yr Athro Rob Rolley, Cynghorydd KT Cymru, mae gennym raglen anhygoel o siaradwyr a fydd ill dau yn rhoi cipolwg a gwybodaeth ar y pwnc hwn. Rydym yn falch iawn o gael cwmni Fariba Soetan, Arweinydd Polisi, Ymchwil ac Arloesi, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Prifysgolion a Busnes, Pete Sueref, Cyd-sylfaenydd a CTO Empirisys ynghyd â’r Athro Luigi De Luca, Deon Cyswllt ac Athro Marchnata ac Arloesedd, Ysgol Busnes Caerdydd â’r Yr Athro Jane Lynch, Cyfarwyddwr – Canolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus, Prifysg Ysgol Busnes Caerdydd.
Yn dilyn cyfres o sgyrsiau cynhelir trafodaeth banel holi ac ateb, gyda chwestiynau yn cael eu cymryd gan y gynulleidfa.
Manylion:
Digwyddiad Rhwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd, 8 Mawrth, 10am-12pm
Dyddiad: Dydd Mercher 8 Mawrth 2023
Amser: 10:00yb – canol dydd
Lleoliad: sbarc|spark, Heol Maendy, Prifysgol Caerdydd