Rhowch hwb i’ch gyrfa ymchwil drwy Crwsibl Cymru
3 Chwefror 2023
Cyflwynwch gais i ddilyn Crwsibl Cymru 2023 nawr – dim ond pythefnos sydd ar ôl gennych!
Rhaglen ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau neu ar ganol eu gyrfaoedd yw Crwsibl Cymru sy’n datblygu sgiliau personol, proffesiynol ac arwain.
A hithau yn ei 13eg flwyddyn erbyn hyn, mae’r rhaglen yn hwyluso ac yn hyrwyddo arloesedd a ysbrydolir gan ymchwil a chydweithio rhyngddisgyblaethol yng Nghymru.
Mae galw mawr am leoedd ar Grwsibl Cymru gan ymchwilwyr sy’n dechrau dangos rhagoriaeth yn eu meysydd. Mae’r rhaglen yn cael ei hariannu gan gonsortiwm o brifysgolion yng Nghymru, mewn partneriaeth â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Dywedodd Dr Rhiannon Robinson, Rheolwr Rhaglen Crwsibl Cymru: “Bob blwyddyn, mae’r ymchwilwyr a ddewiswyd yn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai preswyl. Yn ystod y gweithdai hyn, maent yn archwilio sut y gallant elwa ar weithio gydag ymchwilwyr o ddisgyblaethau eraill, sut i gynyddu effaith eu gwaith ymchwil, a sut i ddilyn gyrfaoedd ymchwil rhyngwladol yng Nghymru.
“Rydym yn gwahodd ceisiadau o bob un o’r chwe sefydliad addysg uwch sy’n bartner i ni, ond hefyd o’r sector cyhoeddus a’r diwydiant yng Nghymru: yn y bôn, croesewir ceisiadau gan unrhyw ymchwilwyr ar ddechrau neu ar ganol eu gyrfaoedd sy’n gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd.”
Gwahoddir ceisiadau gan staff sydd ag o leiaf dair blynedd o brofiad o wneud ymchwil ôl-ddoethurol (neu brofiad cyfatebol) mewn unrhyw ddisgyblaeth. Mae angen cyflwyno unrhyw geisiadau erbyn hanner nos ddydd Gwener, 17 Chwefror 2022.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais, gan gynnwys darllen straeon llwyddiant rhai unigolion sydd wedi dilyn Crwsibl Cymru, gallwch fynd i https://welshcrucible.org.uk/cy/home-hafan-cymraeg/, ein dilyn ar Twitter @welshcrucible neu ebostio WelshCrucible@caerdydd.ac.uk.