Denu effaith
1 Tachwedd 2022
‘Yn ystod y degawd diwethaf, mae Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi sawl adroddiad byr a rheolaidd sy’n disgrifio’r effaith ariannol y mae’r Brifysgol yn ei chael. Roedd ein crynodeb diweddaraf, a baratowyd gan London Economics, yn gwerthfawrogi cyfanswm effaith economaidd Caerdydd ar y DU yn 2020-21 — ar anterth y pandemig — sef £3.7 biliwn bron iawn. Mae hyn yn golygu ein bod yn creu £6.40 am bob £1 y mae’r Brifysgol yn ei gwario.
Fel yr eglurais yn rhagair yr adroddiad, mae profiad personol yn tueddu i ddylanwadu’n fawr ar farn y cyhoedd am brifysgolion. Er ei bod yn wir bod addysg israddedigion wrth wraidd gweithgarwch prifysgol, un rhan yn unig yw hyn o blith yr ystod enfawr o weithgarwch sydd ar waith gennym.
Efallai nad yw ein cyfraniad cadarnhaol at gydbwysedd masnach yn amlwg i bawb, ond y gwir amdani yw mai gwerth ‘allforion addysgol’ (myfyrwyr rhyngwladol) Prifysgol Caerdydd yn 2020-21 oedd £655m, gan ragori ar berfformiad allforio cyfunol y diwydiant ceir a cherbydau eraill yng Nghymru.
Nid talu ffioedd dysgu yn unig yn ystod eu hamser gyda ni y bydd myfyrwyr tramor neu eu llywodraethau yn ei wneud. Tra y byddant yma, mae ein myfyrwyr yn gwario yn economi Cymru a’r DU yn ogystal â chael ymweliadau gan eu teulu a’u ffrindiau, ac ati.
Mae gan Brifysgol Caerdydd effaith enfawr ar yr economi leol a thu hwnt. Rydym yn cyflogi tua 7,000 o bobl yn uniongyrchol, ac mae ein gweithgareddau yn cefnogi mwy na 7,000 o swyddi cyfwerth ag amser llawn ychwanegol yn y DU – mae 10,000 o’r 14,000 yng Nghymru.
Ac, yn fwyaf trawiadol felly, mae effaith economaidd y Brifysgol yn cael ei chreu’n weddol gyfartal ar draws ein gweithgareddau. Er bod ymchwil a gwybodaeth yn creu 23% o’n heffaith, mae gweithgareddau addysgu a dysgu yn cyfrif am 33%. Mae allforion addysgol yn cyfrif am 18% ar ben hyn. Mae’r 26% sy’n weddill yn deillio o’n gwariant uniongyrchol ac anuniongyrchol arall. Ar draws holl rychwant ein gweithgarwch, mae Prifysgol Caerdydd yn creu manteision economaidd a chymdeithasol i Gymru, y DU, ac i’r byd mewn gwirionedd.
Mae hyn yn arbennig o bwysig yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, lle mae prifysgolion yn wynebu heriau enfawr o ran sut y gellir gwneud ein model ariannu’n fwy cynaliadwy.
Ar adeg ysgrifennu hyn o neges, mae disgwyl i Lywodraeth y DU dynhau gwariant cyhoeddus yn Natganiad yr Hydref. Mae toriadau yng nghoffrau Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI) – asiantaeth arloesi ac ymchwil y Llywodraeth – wedi cael eu crybwyll: felly hefyd doriadau yng nghyllid prifysgolion.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth arloesi ddrafft, ond ni nododd yn benodol sut y bydd y cynllun yn cael ei ariannu a’i roi ar waith. Mae Prifysgol Caerdydd wedi annog Llywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar flaenoriaethau strategol a darparu cyllid sbarduno ar gyfer partneriaethau cyfnod cynnar, ac, yn y tymor canolig, i gyflymu prosiectau sydd â photensial economaidd o bwys, megis electroneg pŵer a meddygaeth fanwl. Yn y tymor hwy, byddem yn croesawu strategaeth arloesi ddeinamig, hyblyg ac ystwyth i Gymru sy’n addasu’n gyflym i newidiadau.
Fel y dangosodd ein hadroddiad gan London Economics, mae gan Brifysgol Caerdydd bortffolio byw o fwy na £0.5Bn o gontractau ymchwil ac arloesi, sef 58% o’r sector AU yng Nghymru.
Am bob £1m a fuddsoddir yn ymchwil Prifysgol Caerdydd (ac eithrio gweithgareddau cyfnewid gwybodaeth), caiff £4.89 miliwn ei greu i gwmnïau yn y DU. Mae Prifysgol Caerdydd yn dal 426 o batentau, ac mae £59 miliwn yn cael ei greu yn sgîl 164 o gwmnïau deillio gweithredol a busnesau newydd gan staff a myfyrwyr. Yn eu tro, mae’r rhain yn cefnogi 1,285 o swyddi amser llawn ac mae 665 o’r rhain yng Nghymru.
Mae’n ddyletswydd ar brifysgolion Cymru sicrhau bod ein haddysgu, ein hymchwil a’n harloesi’n cael effaith economaidd a chymdeithasol, bod y rhain yn hawdd i’w hadnabod, ond ar ben hynny bod y llywodraeth ar bob lefel yn gwerthfawrogi hyn. Heb os nac oni bai, mae Prifysgol Caerdydd yn chwarae ei rhan wrth fynd ati’n egnïol i greu swyddi a thwf. Os gallwn fynd i’r afael â’r heriau ariannu, rydym o’r farn y gallwn wneud ragor hyd yn oed yn ystod y blynyddoedd i ddod.’
Yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd