ICS yw’r partner busnes delfrydol i ddatblygu prosesau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CS)
30 Awst 2022Yn dilyn creu’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ICS)Caerdydd sy’n arwain Ewrop ym maes lled-ddargludyddion cyfansawdd. Yma, mae’r Athro Peter Smowton, Rheolwr Gyfarwyddwr ICS, yn esbonio sut mae ICS yn gweithio gyda busnesau CS i ddod o hyd i’r atebion i heriau technegol.
Ac yntau’n un o bartneriaid gwreiddiol CSconnected, clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd, bydd yr ICS, a ariennir gan yr ERDF, yn cydweithio â chwmnïau i ddatblygu, nodweddu a phrofi dyfeisiau CS newydd.
Bydd yr ystafell lân bwrpasol 1500m2, wrth ochr y labordai nodweddu pwrpasol a newydd sbon sy’n rhan o’r Ganolfan Ymchwil Drosi ar Gampws Arloeseddy Brifysgol, yn golygu y bydd ICS yn gallu gweithgynhyrchu ar raddfa fach i ganolig er mwyn cyd-fynd â gweithgarwch partneriaid CSconnected a thu hwnt.
Mae’r ICS, sy’n meddu ar ystod lawn o dechnegau ym maes wafferi hyd at 200mm mewn diamedr o dan un to, yn bartner datblygu delfrydol ar gyfer cwmnïau datblygu technoleg nad yw’n gweithgynhyrchu (fabless).
Mae KUBOS Semiconductors yn enghraifft wych o bartneriaeth lwyddiannus ag ICS. Mae’r cwmni deillio o Gaergrawnt wrthi’n datblygu technoleg deunyddiau newydd ar gyfer Deuodau Allyrru Golau (DAG) hynod effeithlon sy’n gallu ehangu’n gyflym ac sy’n gydnaws ag offer a phrosesau gweithgynhyrchu presennol ym maes DAG.
Mae’r dechnoleg hon yn goresgyn problem o ran lleihau nifer y microDAGau coch a ddefnyddir mewn cymwysiadau realiti estynedig a rhithwir (AR / VR) a chymwysiadau arddangos. Mae Kubos yn datblygu DAGau sy’n seiliedig ar Galiwm Nitrid ciwbig (GaN), yn hytrach na GaN hecsagonol traddodiadol.
Mae hefyd yn datrys y “bwlch gwyrdd” mewn DAGau confensiynol lle mae DAGau sydd â thonfeddi hirach yn y gwyrdd a’r coch gryn dipyn yn llai effeithlon na’r DAGau glas.
Mae deunydd GaN ciwbig yn dileu’r meysydd trydan mewnol sy’n cyfrannu at y “bwlch gwyrdd” sy’n rhan o DAGau confensiynol, gan wella eu heffeithlonrwydd yn sylweddol.
Gan weithio gydag ICS, mae gan KUBOS fodel busnes nad yw’n cynnwys gweithgynhyrchu ac felly penderfynodd yr ICS weithgynhyrchu dyfeisiau ar gyfer haenau epitacsial ei DAGau GaN ciwbig yn ogystal â’i wafferi, er mwyn eu gwneud yn barod i’w profi a’u nodweddu.
Fel yn achos unrhyw brosiect datblygu, elfen bwysig yn y broses oedd gwneud yn siŵr bod dibynadwyedd a’r gallu i ailadrodd a chynhyrchu’n gyflym yn golygu bod adborth dibynadwy yn rhan o’r broses ddatblygu.
Gan weithio gyda’r ICS, a’i gyd-aelodau yn CSconnected, sef y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (epitacsi) a’r CSHub (nodweddu), mae’r KUBOS nad yw’n gweithgynhyrchu wedi gallu rhoi ymgyrch ddatblygu ar waith fydd yn arwain at drwyddedu ei dechnoleg DAG, gan gadw rheolaeth lawn dros ei gostau a’i briod eiddo deallusol.
Mae adborth gan Caroline O’Brien, Prif Swyddog Gweithredol Kubos, yn cadarnhau hyn.
‘Rydyn ni wrth ein boddau yn gweithio gyda’r ICS ac yn ystyried y cyfleuster newydd hwn yn ychwanegiad amserol i gefnogi y cam nesaf yn ein twf,” meddai Caroline.
“Gan ein bod yn gwmni nad yw’n gweithgynhyrchu, mae pwysigrwydd partneriaid strategol, ynghyd â chadwyni cyflenwi profiadol, yn hanfodol i’n llwyddiant. Mae’r ICS yn rhoi gwasanaeth proffesiynol a blaenllaw sy’n diwallu ein hanghenion technegol a masnachol.”
Mae’r ICS wrthi’n symud o’r broses o weithgynhyrchu wafferi 150mm i gynhyrchu wafferi 200mm, ac rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid busnes i helpu i fynd i’r afael â’r prinder byd-eang ym maes sglodion lled-ddargludyddion.
I grynhoi, mae gennym yr arbenigedd a’r gallu i droi rhagoriaeth academaidd yn ddyfeisiadau ymarferol y gellir eu gweithgynhyrchu er mwyn creu effaith economaidd drwy fanteisio’n fasnachol ac yn academaidd ar dechnolegau CS.”
Yr Athro Peter Smowton, Cyfarwyddwr y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd
I gael rhagor o fanylion, ewch i:
https://www.cardiff.ac.uk/cy/institute-compound-semiconductors
Cysylltu â ni: ICS@caerdydd.ac.uk