sbarc|sbarc – ‘uwchlabordy’ sy’n datrys problemau cymdeithas
22 Awst 2022Daeth gwesteion arbennig o faes arloesedd dan arweiniad ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol, byd gwleidyddiaeth, y trydydd sector a’r llywodraeth i ddigwyddiad yn ddiweddar i ddathlu sbarc|spark, sef gofod Prifysgol Caerdydd sy’n creu atebion ar y cyd ar gyfer problemau mwyaf y gymdeithas.
Yn y blog olaf am agor yr adeilad, clywn gan yr Athro Damian Walford Davies, Dirprwy Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd, a arweiniodd y gwaith o ddatblygu sbarc|spark.
Mewn cyfweliad sain, fe ddechreuon ni drwy ofyn i Damian am ei fyfyrdodau ar y digwyddiad.
Damian: “Mae wedi bod yn ddiwrnod anhygoel gan ei fod wedi creu trafodaeth gysyniadol hynod gyfoethog o rôl y gwyddorau cymdeithasol mewn byd o argyfwng a her gymdeithasol, wleidyddol ac economaidd — yn ogystal â rôl sbarc|sbarc mewn cyd-destun Cymreig, cenedlaethol a rhyngwladol. Beth all natur haenog, aml-elfen a blaenllaw’r adeilad hwn – gan gynnwys ei ganolfannau ymchwil, ei gydweithwyr allanol, y partneriaid sy’n denantiaid yno a’i gydwybod gymdeithasol – ei wneud er budd cymdeithas?
“Beth wnes i ei werthfawrogi heddiw oedd y pwyslais ar y ffaith na allwn ni orffwys ar ein rhwyfau. Mae gennym yr adeilad anhygoel hwn. Mae’r gymuned a’r diwylliant yma yn ennill eu plwyf. Ond mae angen inni ddiffinio’r weledigaeth strategol hirdymor honno o’r hyn y gallwn ei wneud dros Gymru. Ac mae Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, wedi bod yn gwbl glir mai’r hyn mae am ei weld, gan ddychmygu sut bydd pethau yn y dyfodol, yw Cymru sydd wedi’i thrawsnewid gan sbarc|spark.
“Mae’r pwyslais strategol ar ymyrraeth a newid, ond roeddwn i hefyd yn hoffi’r pwyslais a roddwyd ar wneud yr hyn sy’n werthfawr er ei fwyn ei hun.”
C: Roedd sôn am ymyriadau polisi, yn ogystal â chymunedau. Weithiau, mae galluogi cymunedau a llunwyr polisïau i gydweithio a chael mynediad at sefydliadau fel hyn yn gallu bod yn dalcen caled. Beth allwn ni ei wneud i bontio rhwng yr elfennau hynny i’r byd o’n cwmpas?
Damian: “Mae sbarc|spark yn rhan annatod o’i gymuned yn Cathays, ac mae angen i ni estyn allan ymhellach. Mae elfen hanfodol o genhadaeth ddinesig i’w hystyried yma sy’n ymestyn y tu hwnt i’r ymchwil ei hun. Mae angen inni feddwl mewn termau mwy cynhwysol ynghylch pwy sy’n cael cymryd rhan yn yr ymchwil o dan sylw.
“Fe wnaeth yr Athro Chris Taylor, Cyfarwyddwr SPARC, bwynt hollbwysig bod hanes o ymgysylltu mewn modd ethnograffig ym maes y gwyddorau cymdeithasol yng Nghaerdydd. Mae profiad byw y rhai sy’n bwydo data yn gwbl allweddol; nid y data ynddo’i hun ddylai gael yr holl sylw yn ein hymchwil. Yn hytrach, mae angen meddwl yn ansoddol a gwella bywydau’r unigolion y mae’r data hynny yn eu cynrychioli. Dyna’r pwynt a wnaeth Chris, a dwi’n meddwl bod yr elfen ddynol a thrugarog sy’n gysylltiedig â sbarc|spark yn allweddol i’r drafodaeth gyfoethog a gawson ni heddiw.”
C: Sut byddwn ni’n mynd ati i feithrin elfen entrepreneuraidd sbarc|spark, a’i waith gyda phartneriaeth SETsquared, ei ofod busnes a meithrin, a’r pwyslais ar Arloesedd Caerdydd@sbarc|spark?
Damian: “Mae’r elfen hon o hunaniaeth sbarc yn bwysig, ac mae wedi bod yn bwysig o’r cychwyn cyntaf. Yr hyn yr hoffem ei weld yw adeilad sy’n gartref i gymuned gwbl integredig yn hytrach na chymuned sydd â dwy ochr a dwy hunaniaeth iddi. Mae gennym bartneriaid sy’n denantiaid sy’n addas o ran lefel a maint, ac mae hynny’n wych i’w weld ychydig fisoedd yn unig ar ôl i’r adeilad agor.
“Yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw meithrin cymuned go iawn o’r busnesau bach a chanolig hyn, yr ochr entrepreneuraidd honno, wedi’i hintegreiddio’n rhan o elfen ymchwil Sbarc. Rydym yn gwireddu cysyniad na fu erioed yn fwy angenrheidiol.”
Mae sbarc|spark yn dod ag ymchwilwyr, entrepreneuriaid, busnesau newydd gan fyfyrwyr a chwmnïau deilliannol academaidd at ei gilydd mewn adeilad o’r radd flaenaf yng nghanol Campws Arloesedd Caerdydd.
Ac yntau’n cynnwys mannau cydweithio, canolfan delweddu, awditoriwm, RemakerSpace a mannau ar gyfer myfyrwyr sy’n entrepreneuriaid yn arbennig, mae’n rhywle lle gall Cymru feithrin a datblygu syniadau mawr yfory wrth i’r DU adfer o bandemig COVID-19.
I gael rhagor o wybodaeth am bartneriaethau yn sbarc|spark, ebostiwch spark@caerdydd.ac.uk