Syniadau i ysgogi: Creu parc gwyddorau cymdeithasol i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol mawr
23 Mai 2022Mae ein cymdeithas yn wynebu llawer o heriau cymhleth, megis y pandemig COVID-19 parhaus ac argyfwng y newid yn yr hinsawdd. Yn ein byd o gysylltiadau a chymhlethdodau byd-eang, ni allwn ddisgwyl i un sefydliad neu bwnc academaidd yn unig fynd i’r afael â materion o’r fath.
Mewn ymateb i hyn, rydym wedi agor ein drysau yn ddiweddar i Barc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SBARC/ SPARK) newydd ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r adeilad blaenllaw newydd hwn, sy’n rhan o Gampws Arloesedd gwerth £300 miliwn y Brifysgol, yn dwyn ynghyd 12 grŵp ymchwil gwyddorau cymdeithasol ochr yn ochr ag entrepreneuriaid, busnesau newydd gan fyfyrwyr, deilliannau academaidd, sefydliadau trydydd sector a sefydliadau yn y sector cyhoeddus — pob un yn ceisio mynd i’r afael â heriau rhyngwladol, cenedlaethol a heriau yn y gymdeithas leol.
SBARC/ SPARK yw’r cyfleuster arloesedd cyntaf o’i fath yng Nghymru sy’n cynnwys 12,000m sgwâr o ofod ar draws chwe llawr, gydag unedau masnachol, labordai a lleoedd i drafod syniadau. Ac eto, mae’r ganolfan fywiog hon yn llawer mwy na’i risiau ‘oculus’ trawiadol a’r adeilad materol. Mae parc ymchwil y gwyddorau cymdeithasol yn arbrawf mewn gosod ymchwil gwyddorau cymdeithasol yng nghanol arloesedd a masnacheiddio. Mae hefyd yn rhoi pwyslais mawr ar bwysigrwydd cymuned a diwylliant, a gynlluniwyd i annog partneriaethau mwy ystyrlon ac ymgysylltu â chydweithwyr y tu allan i addysg uwch.
Yn yr un modd ag y mae GW4 yn nodi meysydd o arbenigedd ategol ar draws ei bedair prifysgol i ddatblygu cymunedau ymchwil ar raddfa, bydd SBARC/ SPARK yn meithrin ffyrdd rhyngddisgyblaethol newydd o weithio. Drwy gyfuno’r wybodaeth gyfunol hon o dan yr un to, gallwn sbarduno syniadau newydd a gwybodaeth newydd wrth i’r DU wella o bandemig COVID-19. Bydd ein mannau ffisegol yn annog rhyngweithio creadigol ac yn hyrwyddo mabwysiadu dulliau cydweithredol o ymchwilio.
Ac mae cymunedau ymchwil GW4 ymhlith y rhai a fydd yn elwa o SBARC/ SPARK. Yr Athro Aris Syntetos yw Cyfarwyddwr RemakerSpace, menter nid-er-elw sy’n ymgysylltu â chymunedau a busnesau, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae wedi’i leoli yn SBARC/ SPARK ac mae’n cyfuno arbenigedd ymchwil â’r adnoddau ymarferol sydd eu hangen i gefnogi’r economi gylchol. Mae’r Athro Syntetos a’i gydweithiwr yn Ysgol Busnes Caerdydd, Dr Daniel Eyers, yn rhan o’r prosiect Cylcholdeb a Alluogir gan Dechnoleg (TEC): Digideiddio a Chynaliadwyedd mewn Gweithgynhyrchu. Dyfarnwyd cyfran o £125K o Gyllid Sbarduno GW4 iddo yn ddiweddar. Mae’r gymuned ymchwil yn bwriadu cynnal digwyddiadau cydweithredol yn SBARC/SPARK, gan ddod ag academyddion ynghyd â diwydiant a llunwyr polisïau.
Bydd SBARC/SPARK hefyd yn meithrin partneriaethau gyda busnesau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector a’r gymdeithas ehangach i ddod â syniadau gwych yn fyw. Mae aelodau o’r gymuned yn sefydlu eu hunain gyda phobl megis Nesta, asiantaeth arloesedd y DU, y cwmni technoleg ariannol Bipsync a’r Sefydliad Materion Cymreig sydd ymhlith y cyntaf i symud i SBARC/SPARK. Mae hyn ochr yn ochr â’r canolfannau ymchwil gwyddorau cymdeithasol arbenigol amrywiol sy’n cynnwys Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE); y Ganolfan Newid Hinsawdd a Thrawsffurfio Cymdeithasol (CAST), a Chanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc.
Mae cynghreiriau prifysgolion megis GW4 yn rhan hanfodol a chynyddol o’r dirwedd ymchwil, datblygu ac arloesedd (RDI). Bydd ein gwaith gyda phartneriaid allanol yn helpu i yrru uchelgeisiau RDI ledled Cymru a’r DU yn ehangach. Er enghraifft, mae RDI yn allweddol i strategaeth economi gylchol uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i gefnogi adferiad gwyrdd yn Strategaeth Arloesedd 2021 Llywodraeth y DU. Yn nodweddiadol, mae galluoedd RDI yn cael eu gweld o safbwynt gwyddoniaeth a thechnoleg, ond eto mae gwyddorau cymdeithasol yn hanfodol i arloesedd hefyd, gan wella ein dealltwriaeth o ymddygiad ac agweddau dynol, a llywio polisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae SBARC/SPARK yn gyfle pwysig i arddangos ein gwaith a’n cyfraniadau. Mae’n annog ymchwilwyr mewn disgyblaethau eraill i weithio gyda gwyddonwyr cymdeithasol a’n cymuned SBARC/SPARK ehangach o ddechrau unrhyw syniadau neu ddatblygiadau newydd.
Mae rhagor o wybodaeth am SBARC/SPARK yma.
Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn Mynegi Barn GW4, ar gael yma