Bydd sbarc|spark ‘yn cefnogi arloesedd ac yn helpu i ddiogelu swyddi’
29 Mawrth 2022Mae gan sbarc|spark rôl allweddol i’w chwarae wrth gasglu ymchwilwyr o dan yr un to i greu syniadau newydd a llwybrau ymchwil newydd, meddai’r Athro Chris Taylor, Cyfarwyddwr SBARC – Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol.
Mewn erthygl ar gyfer y Times Higher Education, dywedodd yr Athro Taylor, er gwaethaf y cynnydd mewn cydweithio ar-lein, a’r cynnydd mewn gweithio o bell, fod yr angen i ddod ag ymchwilwyr ym maes y gwyddorau cymdeithasol at ei gilydd yn yr hyn a ddisgrifiwyd yn ‘uwch-labordy’r gymdeithas’ yn parhau i fod yn hollbwysig o ran adfer ar ôl y pandemig.
“Gellir gwneud ymchwil ar-lein – a chafodd ymchwilwyr rywfaint o lwyddiant yn y pandemig – ond ni fydd yr un lefel o greadigrwydd ac arloesi’n digwydd,” esboniodd yr Athro Taylor.
“Ym maes y gwyddorau cymdeithasol, ceir tystiolaeth eithaf cryf bod datblygu syniadau newydd yn gofyn am gyfathrebu nad yw ond yn digwydd ar-lein.”
Cyfeiriodd at ostyngiad sydyn yn y ceisiadau am grantiau yn ei ddisgyblaeth yn ystod y pandemig, gan fod ceisiadau i’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol wedi gostwng bron i 20 y cant yn 2020-21, gan nodi: “Nid yw’r cynigion wedi dod i law.”
“Mae gweithio hybrid yn golygu nad oes angen cymaint o le ar gwmnïau, felly mae rhai cwmnïau eisiau llai o safleoedd mawr ac yn lle hyn maen nhw’n chwilio am leoedd sy’n gysylltiedig â’r brifysgol sydd o safon well o ran y gweithle,” meddai’r Athro Taylor y bydd ei ganolfan yn gartref i hyd at 800 o bobl yn y pen draw.
Gall cyfuno canolfannau ymchwil sy’n canolbwyntio ar blant a phobl ifanc, y gymdeithas sifil, troseddu a diogelwch hefyd wella cyfleoedd Prifysgol Caerdydd o ennill rhagor o gyllid ymchwil, a byddai hyn yn ei helpu i gadw ymchwilwyr ar gontractau tymor hwy, ychwanegodd yr Athro Taylor.
“Yn y gwyddorau meddygol efallai y bydd labordy’n cael ei gynnal am ddegawdau – bron yn ddieithriad ni fydd labordy yn y gwyddorau cymdeithasol ar waith am bum mlynedd,” meddai’r Athro Taylor. “Os gallwn ni roi rhai grwpiau at ei gilydd, gallwn ni sicrhau cyllid sylweddol drwy grynhoi ymdrechion; gallwn ni ddefnyddio hynny i gyflogi staff ar gontractau tymor hwy,” meddai, gan ychwanegu: “Ar hyn o bryd, mae’n anodd buddsoddi mewn ymchwilwyr ac iddyn nhw fuddsoddi ynom ni, ond os byddwn ni’n newid hynny, wedyn gallwn ni ddechrau cadw rhai pobl o safon uchel iawn.”
Er nad yw enillion ariannol cwmnïau neu ymchwil sy’n seiliedig ar y gwyddorau cymdeithasol yn debygol o fod yn yr un gynghrair â’r rheiny ym maes y gwyddorau bywyd, meddygol neu gyfrifiadurol, bydd buddsoddiad Prifysgol Caerdydd yn talu ar ei ganfed.
“Rydyn ni’n weddol hyderus y gallwn ni gyfuno refeniw a chwmnïau ymchwil i greu cyd-destun ymchwil sy’n wirioneddol fywiog,” meddai.
Yn ôl y Brifysgol, mae pedwar tenant newydd wedi symud i mewn yn ystod y mis diwethaf wrth i felinau trafod a chwmnïau sy’n canolbwyntio ar ymchwil ymgartrefu yn sbarc|spark: Nesta, y Sefydliad Materion Cymreig, Bipsync a RedKnight.
Dyma a ddywedodd Craig Marvelley, Is-Lywydd Peirianneg, Bipsync: “Mae’n gyfle gwych inni. Mae’r busnes sydd gennym yn seiliedig ar ddulliau a syniadau arloesol. Rwy’n credu y bydd gweithio yn y ganolfan hon, lle bydd pobl yn cynnig syniadau newydd ac yn cydweithio, yn ein hysbrydoli i wneud yr un peth. Byddwn ni’n gallu dod o hyd i bobl o’r un anian i gymryd rhan a’n helpu i feddwl am atebion fydd yn grymuso ein meddalwedd a llifoedd gwaith ein cleientiaid i raddau helaeth iawn.”
Cytunodd Heather Perkins, Cydymaith yn People Ops yn Bipsync: “Rydyn ni wedi cael croeso cynnes iawn i sbarc|spark gan Brifysgol Caerdydd. Hyd yn hyn rydyn ni’n gweld bod ein tîm yn dod i mewn yn llawer amlach, a hynny oherwydd ei fod yn lle dymunol iawn i fod. Yn y dyfodol, byddwn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weithio ar y cyd â mwy o’r tenantiaid yn ogystal â thimau’r Brifysgol.”
I gael rhagor o wybodaeth am weithio yn sbarc|spark, ebostiwch spark@caerdydd.ac.uk