Toshiba a Chaerdydd yn arloesi ym maes electroneg pŵer
28 Chwefror 2022Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymuno â Toshiba Europe Limited (TEUR) i ddatblygu gyrwyr pyrth hynod gyflym ar gyfer y farchnad electroneg pŵer.
Mae lled-ddargludyddion pŵer a wneir o silicon carbid (SiC) a galiwm nitrid (GaN) yn golygu bod modd cyrraedd cyflymderau newid nad oedd yn bosibl cyn hyn, ond bydd y rhain ond yn gweithio os gellir sicrhau newidiadau hynod o fyr (e. e. yn llai na 10 nanoeiliad) – proses a alluogir gan Yrwyr Pyrth Gweithredol.
Mae TEUR yn ymgymryd ag ymchwil a datblygu mewn sawl maes, gan gynnwys dyfeisiau electronig, cyfathrebu cwantwm a systemau pŵer.
Drwy gydweithio â Phrifysgol Caerdydd, nod y cwmni yw datblygu Gyrrwr Pyrth Gweithredol sy’n newydd ac yn fasnachol hyfyw. Bydd y prosiect yn helpu TEUR i gynyddu ei allu yn y farchnad electroneg pŵer fyd-eang, a rhagwelir y bydd y farchnad yn cynyddu i £27 biliwn erbyn 2027 yn sgîl y twf mewn ynni adnewyddadwy, trafnidiaeth carbon isel ac electroneg i ddefnyddwyr.
Mae TEUR wedi patentu pensaernïaeth gyffredinol ar gyfer Gyrrwr Pyrth Gweithredol, a disgwylir iddo berfformio’n well na gyrwyr pyrth traddodiadol. Fodd bynnag, megis dechrau y mae’r patent ac mae angen ei ddatblygu’n sylweddol cyn ei fod yn barod i’w fasnacheiddio.
Gan weithio gydag academyddion o’r Ysgol Peirianneg, bydd y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) yn trosglwyddo arbenigedd Prifysgol Caerdydd, gan alluogi’r cwmni i ddatblygu Gyrrwr Pyrth Gweithredol sy’n gwbl barod yn ogystal ag eitemau o eiddo deallusol sy’n nodi dyluniad ei system reoli a’i galedwedd. Bydd Gyrrwr Pyrth Gweithredol TEUR yn ateb deniadol o ran gwella effeithlonrwydd a sicrhau bod dyfeisiau electroneg pŵer yn cydweddu â’i gilydd.
Mae gan Brifysgol Caerdydd enw da ac arbenigedd helaeth ym maes electroneg pŵer. Bydd yr academyddion Dr Wenlong Ming, Uwch-ddarlithydd Electroneg Pŵer, Dr Sheng Wang, Darlithydd, Dr Jonathan Lees, Uwch-ddarlithydd, a’r Athro Nicholas Jenkins, Arweinydd y Ganolfan a Grŵp Ymchwil Cynhyrchu a Chyflenwi Ynni Integredig yn cyflwyno methodolegau, gwybodaeth ac arbenigedd newydd i’r bartneriaeth.
Dyma a ddywedodd Dr Gavin Watkins a Dr Magnus Sandell o TEUR: “Mae’r cwmni’n awyddus i symud ymlaen gyda’r prosiect strategol hwn gyda Phrifysgol Caerdydd.”
Dyma a ddywedodd Dr Sheng Wang a Dr Wenlong Ming: “Rydyn ni wrth ein boddau ein bod yn gweithio gyda TEUR i ddatblygu Gyrrwr Pyrth Gweithredol fydd â’r gallu i drawsnewid y farchnad electroneg pŵer. Rydyn ni’n rhagweld y bydd yr wybodaeth a drosglwyddir a’r arbenigedd cadarn yn helpu TEUR i ddod yn gwmni blaenllaw yn y maes hwn, gan gynyddu eu refeniw o ganlyniad.”
Mae gan Dr Sheng Wang hanes sicr ac arbenigedd cryf ym maes electroneg pŵer ac mae ganddo brofiad gwerthfawr ychwanegol yn sgîl bod yn Gydymaith KTP yn 2020, gan ddatblygu pedwar trawsnewidydd electroneg pŵer yn llwyddiannus ar gyfer y partner busnes ar brosiect KTP arall ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd.
Yn sgîl KTP, gall busnes gyflwyno sgiliau newydd a’r meddwl academaidd diweddaraf er mwyn cyflawni prosiect arloesol a strategol penodol drwy bartneriaeth sy’n seiliedig ar wybodaeth.
Bydd Cydymaith KTP yn cael ei recriwtio i reoli’r prosiect, a bydd yn gweithio yn swyddfeydd TEUR ym Mryste.
Cewch ragor o wybodaeth am Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn https://www.cardiff.ac.uk/cy/business/develop-your-workforce/knowledge-transfer-partnerships