Skip to main content

PartneriaethauPobl

Pŵer partneriaeth

21 Chwefror 2022

Bydd canolfan newydd sbarc|spark Caerdydd yn dod ag ymchwilwyr at ei gilydd i gysylltu â’i gilydd ar draws disgyblaethau ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol i greu ffyrdd newydd o weithio. Yn ddiweddar, cyhoeddodd yr Athro Sally Power WISERD, bapur sy’n ystyried y galwadau am ‘ecosystem ar sail tystiolaeth’ i fynd i’r afael â’r diffyg cysylltiad rhwng ymchwil addysg dan arweiniad prifysgolion a pholisïau ac arferion ym myd addysg.  Yma, mae’n rhannu ei syniadau am yr hyn y gallai Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) ei gyfrannu i’r ddadl pan fydd yn agor fis nesaf.

“Cysylltu pobl â’i gilydd yw’r allwedd ar gyfer cynnydd. Yn sgîl heriau Covid, roedd angen creu cysylltiadau ar draws pob maes polisi cymdeithasol – ac mae SBARC, oherwydd un ar ddeg o ganolfannau ymchwil sydd ganddi yn y gwyddorau cymdeithasol arbenigol, mewn lle delfrydol i wneud hynny.

Yn fy maes fy hun, er enghraifft, gwyddom fod profiadau dysgu yn ystod y cyfnod clo yn gysylltiedig â pha mor ddigonol oedd y tai a’r llety. Gwyddom fod pobl ifanc wedi dioddef lefelau uchel o orbryder yn ystod y pandemig – ac un o’r prif achosion y tu ôl i’r pryder oedd a fyddai gan eu rhieni ddigon o arian i gael dau ben llinyn ynghyd – felly mae’n bwysig cysylltu addysg â chyfleoedd o ran cyflogaeth a lles.

Mae digwyddiadau diweddar eraill, megis dadleuon ynghylch newidiadau yn yr hinsawdd, yn faterion ‘llosg’ mewn ysgolion a cholegau, felly mae’n bwysig ein bod yn gallu trin a thrafod y cysylltiadau rhwng addysg, gwleidyddiaeth, cymdeithas sifil a chynaliadwyedd amgylcheddol.

Gellid dadlau mai Cymru yw’r lle delfrydol i ddatblygu ecosystem ar sail tystiolaeth gynhwysol, yn enwedig ym maes addysg oherwydd ymrwymiad y llywodraeth i ddefnyddio tystiolaeth wrth hysbysu polisïau, consensws ymhlith y pleidiau gwleidyddol ynghylch cyfeiriad polisïau addysg, dull o weithio ar y cyd ag ymchwilwyr a phroffesiwn byd addysg, a’r ffaith ei bod yn wlad fach.

Ers datganoli, mae Llywodraeth Cymru wedi addo datblygu ei hagenda ddiwygio neilltuol yn seiliedig ar dystiolaeth ymchwil. At hynny, mae’n ymddangos bod cryn dipyn o gonsensws gwleidyddol ynghylch cyfeiriad cyffredinol y polisïau. Mae’r berthynas rhwng ymchwilwyr, llunwyr polisi ac ymarferwyr yn seiliedig ar weithio ar y cyd yn hytrach na gwrthdaro a drwgdybiaeth.

Fodd bynnag, ceir heriau sylweddol o ran creu ecosystem ar sail tystiolaeth yng Nghymru sy’n deillio o gyfyngiadau mewnol a phwysau allanol. Mae poblogaeth fach sy’n byw ar draws ardal ddaearyddol fawr yn creu anawsterau o ran adnoddau. Ac mae Cymru’n cael llai o arian yn gyfatebol na chenhedloedd eraill y DU, ac mae hyn yn golygu bod llai o arian ar gyfer ymchwil a gwerthuso. Mae nifer yr ymchwilwyr addysg yng Nghymru wedi gostwng yn ystod y degawdau diwethaf. Mae hefyd yn wir bod unigolion yn cyfrif llawer mwy mewn gwladwriaethau bach nag mewn rhai mwy eu maint: gall effaith dim ond ychydig o unigolion – er gwell neu er gwaeth – gael effaith llawer mwy ar y system gyfan. Felly, mae cadw personél effeithiol mewn swyddi allweddol yn strategol bwysig ond yn aml yn anodd. Mae allfudo yn broblem.

Mae WISERD wedi bod yn ceisio mynd i’r afael â’r heriau hyn drwy gynnal nifer o fentrau. Er enghraifft, mae astudiaeth Aml-Garfan Addysg WISERD (WMCS) yn adnodd defnyddiol i unrhyw ymchwilydd sydd â diddordeb ym mhrofiadau pobl ifanc yng Nghymru. Yn fwy diweddar, sefydlwyd Labordy Data Addysg WISERD i gefnogi system addysg Cymru. Gall y mentrau hyn hysbysu Strategaeth Genedlaethol newydd Cymru ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad Addysgol a fydd, gobeithiwn, yn dwyn ffrwyth yn y dyfodol.

Ar ben y mentrau hyn, bydd Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol yn golygu y byddwn ni’n agos at lunwyr polisi arbenigol – yn yr 11 canolfan ymchwil a’r partneriaid sydd ar yr un safle â ni – sy’n gallu ein helpu i ddeall y darlun ehangach.

Ymhlith ein cydweithwyr y mae CASCADE (y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant); DECIPHer (y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd) ac arbenigwyr polisi gan gynnwys Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a’r Ganolfan Ymchwil i Bolisïau Arloesol.

Gan ein bod yn gweithio ar y cyd yn sbarc|spark, byddwn ni’n helpu i greu ‘ecosystem sy’n seiliedig ar dystiolaeth’ i Gymru.

Yr Athro Sally Power, WISERD (Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru),