Tywys gyrfaoedd y trydydd sector drwy Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTPs)
26 Ebrill 2021Gall Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) ddwyn buddion i unrhyw sefydliad – nid busnesau yn unig, ond hefyd i fentrau cyhoeddus a mentrau’r trydydd sector. Nid yw elusennau’n eithriad. Arweiniodd Coralie Merchant, a raddiodd o Brifysgol Caerdydd, Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) ‘ragorol’ – Mabwysiadu Gyda’n Gilydd – rhwng Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd, Ysgol Busnes Caerdydd a Chymdeithas Plant Dewi Sant, sef yr asiantaeth fabwysiadu sydd wedi gwasanaethau am y cyfnod hiraf yng Nghymru. Dechreuodd Coralie ei gyrfa broffesiynol yn y trydydd sector gan weithio mewn sawl elusen leol yng Nghaerdydd. Yma, mae’n siarad am y KTP a sut yr agorodd ddrysau ar gyfer ei gyrfa yn y dyfodol.
“Enillais radd 2:1 mewn Iaith a Chyfathrebu yng Nghaerdydd ac es i ymlaen i gael TAR ym Mhrifysgol Swydd Gaerloyw. Rwy’n angerddol am waith y trydydd sector ac wedi gweithio i amrywiaeth o elusennau plant a theuluoedd, gan gynnwys Barnardo’s, Home Start ac Achub y Plant, gan weithio’n uniongyrchol gyda phlant sy’n agored i niwed, a’u teuluoedd, cyn symud i rolau lle’r oeddwn yn gyfrifol am ddatblygu mentrau rhaglenni newydd a dylanwadu ar bolisi.”
Roedd y rôl Cyswllt KTP Dewi Sant yn cynnig cyfle unigryw i gysylltu gwybodaeth academaidd â’r trydydd sector wrth ddatblygu gwasanaeth arloesol – Mabwysiadu Gyda’n Gilydd. Mae’n KTP arloesol sydd wedi datblygu gwasanaethau mabwysiadu arloesol iawn sy’n arwain y sector, ac sy’n seiliedig ar anghenion a nodwyd yn genedlaethol.
Roedd y gobaith o weithio ochr yn ochr ag academyddion gydag ymrwymiad i rannu eu gwybodaeth, wrth weithio gyda sefydliad trydydd sector a oedd yn barod i neilltuo ei amser a’i adnoddau i arloesedd, er mwyn gwella canlyniadau i blant sy’n agored i niwed, wedi apelio’n fawr ataf. Gwnaeth cyllideb datblygiad personol y KTP a ddyrennir, fy nenu hefyd. Gallwn ennill cymwysterau a sgiliau proffesiynol a fyddai’n gwella datblygiad fy ngyrfa ymhellach.”
Arloesedd yn y trydydd sector
Mae Cymdeithas Plant Dewi Sant yn sefydliad cymharol fach sydd ag uchelgais mawr. Mae sicrhau’r profiad gorau posibl i blant sy’n agored i niwed yn rhan annatod o waith y gwasanaeth. Nid yw Dewi Sant byth yn colli golwg ar anghenion plant na’r hyn y gellir ei wneud i’w cefnogi yn y ffordd orau. Fel sefydliad dysgu, maen nhw’n cydnabod unrhyw feysydd i’w gwella a byddant bob amser yn ceisio dod o hyd i ffyrdd newydd o feddwl a gweithio i sicrhau eu bod yn darparu’r gwasanaeth gorau i’r plant maen nhw’n eu rhoi i gael eu mabwysiadu, a’u teuluoedd.”
Mae’r cydweithrediad â Chaerdydd wedi cael effaith gadarnhaol ar berthnasoedd gwaith Dewi Sant gyda chydweithwyr ar draws y trydydd sector a’r sector statudol yng Nghymru, a’u safle yn y sector mabwysiadu ledled y DU. O dan ymbarél y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol (NAS) yng Nghymru, roedd gan gwasanaeth Dewi Sant gysylltiadau gwaith da â’u holl gydweithwyr yn y sector mabwysiadu, a helpodd y KTP i’w cryfhau. Mae’r perthnasoedd cryfach hyn yn parhau i gynnig effaith ar ddatblygiadau parhaus mewn arferion gwaith agosach ynghylch trefniadau comisiynu a chaffael rhwng sectorau.”
Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Gyda’n Gilydd yn parhau i ddewis plant sydd wedi aros hiraf am deulu, a hyd yma maent wedi dewis 18 o blant i ymuno â theuluoedd yng Nghymru. Fel arall, gallai cynlluniau’r plant hyn fod wedi newid o gael eu mabwysiadu i gael eu maethu yn hirdymor neu gallai’r brodyr a chwiorydd fod wedi gwahanu. Gyda buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ac GMC, mae Mabwysiadu Gyda’n Gilydd bellach wedi’i wreiddio yn y maes mabwysiadu ledled Cymru ac mae wedi’i gynnwys yng Nghanllaw Arfer Da y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ar gyfer Canfod Teuluoedd. Mae’n parhau i chwilio am deuluoedd ar gyfer plant sy’n aros, neu’n debygol o aros, yr hiraf ac i roi plant mewn cartrefi diogel, llawn cariad.”
Ar ôl cwblhau’r KTP, cefais fy nghyflogi fel Rheolwr Datblygu Busnes Dewi Sant. Mae’r rôl yn cefnogi amrywiaeth o gyfleoedd datblygu busnes gan gynnwys ystyried arferion caffael sy’n symud o drefniadau ‘prynu pethau yn ôl y galw’ i ddull a gomisiynir sydd ar hyn o bryd yn cael ei dreialu mewn un ardal ranbarthol yn y gobaith y bydd yn bosibl ar draws ardaloedd eraill yng Nghymru. Rydym hefyd yn edrych i amrywio darpariaeth gwasanaeth y sefydliad ac yn ystyried ail KTP ar gyfer hyn. Rwyf hefyd yn gweithredu strategaeth codi arian a rhaglen gwirfoddoli newydd a fydd yn ategu swyddogaethau busnes ymhellach.”
Manteision KTP
Mae KTP yn gyfle gwych i sefydliadau ddatblygu a gwella eu harbenigedd a all arwain at lawer o ganlyniadau cadarnhaol, rhai a gynlluniwyd a rhai nad oedd modd eu rhagweld. Gall yr arbenigedd a’r wybodaeth academaidd annibynnol a diduedd ategu eu safle mewn marchnad a rhoi sicrwydd ansawdd i bartneriaid allanol ar eu gwaith a’u hymrwymiad i brosesau arloesol.
Mae swyddogion cyswllt yn ennill cyfle unigryw i weithio ar draws y byd academaidd a busnes, gan ddarparu gwaith dysgu a datblygu a fyddai’n anodd ei gael mewn unrhyw amgylchedd arall. Mae’n gyfle i weld gwybodaeth ddamcaniaethol yn cael ei chymhwyso’n ymarferol a gweld sut y gall ymarfer effeithio ar wybodaeth ddamcaniaethol. Gall y wybodaeth rydych yn ei dysgu yn academaidd ac yn ymarferol fod yn amhrisiadwy ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.”
Rwy’n annog unrhyw sefydliad sydd â’r modd i fuddsoddi, yn enwedig sefydliadau’r trydydd sector, i ystyried sut y gallai KTP eu cefnogi i ddod â gwybodaeth i’w gwaith a all wella, arallgyfeirio neu ehangu eu darpariaeth yn effeithiol.”
Coralie Merchant, Cymdeithas Plant Dewi Sant
Mae KTPs yn elfen graidd o gynnig Ymchwil a Datblygu ac arloesedd Cymru i fusnesau. Gyda’r amgylchedd economaidd anodd presennol, bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu 75% tuag at gyfanswm costau prosiectau KTP sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd ac sy’n cael eu cymeradwyo ar gyfer cymryd rhan yn rhaglen y KTP. Disgwylir i fusnesau bach a chanolig fel arfer gyfrannu 33% o gyfanswm costau’r prosiect, ond nawr dim ond 25% bydd yn rhaid i fusnesau cymwys yng Nghymru ei gyfrannu. Rhagor o wybodaeth.