Skip to main content

Adeiladau'r campwsPartneriaethauPobl

Agenda Arloesedd Newydd i Gymru 

10 Mawrth 2021

Mae hwn wedi bod yn gyfnod prysur ar gyfer polisi arloesedd y DU gyda’r cyhoeddiad diweddaraf yn cadarnhau cynlluniau ar gyfer llunio Asiantaeth Ymchwilio a Dyfeisio Uwch (ARIA). Mae’r asiantaeth ymchwil wyddonol newydd werth £800 miliwn yn cael ei hysbrydoliaeth o Asiantaeth Prosiectau Ymchwil Uwch Amddiffyn (DRPA) yr Unol Daleithiau. Cynlluniwyd hi i fod yn rhydd o fiwrocratiaeth, i “groesawu methiant” ac i fuddsoddi mewn prosiectau “risg uchel a buddiol iawn”, gan weithredu hyd braich oddi wrth y llywodraeth ond yn canolbwyntio ar ‘genadaethau’ sy’n cyd-fynd ag adrannau llywodraeth y DU.

Yr Athro Rick Delbridge

Hon yw’r elfen ddiweddaraf yn yr agenda ymchwil ac arloesedd sydd wir wedi cyflymu a dwysáu’r nod o gyflawni’r targed o 2.4% (o wariant y DU) ar ymchwil ac arloesedd erbyn 2027. Mae’r Strategaeth Lle Ymchwil a Datblygu sy’n deillio o’r Cynllun Ymchwil a Datblygu yn arwydd sicr arall bod gwneud gwaith buddsoddi Ymchwil a Datblygu ar gyfer y DU gyfan yn flaenoriaeth ‘uwchraddio’ allweddol gyda Nesta/Richard Jones yn cynnig fframwaith ar gyfer defnyddio cyllid sy’n sensitif o ran lle mewn ffyrdd sy’n ein galluogi i gyfuno buddsoddiad preifat a gan SAU mewn Ymchwil a Datblygu.

Mae’r ffocws hwn ar Ymchwil a Datblygu risg uwch a manteision economaidd a chymdeithasol twf a arweinir gan arloesedd wedi cael ei atgyfnerthu drwy pandemig Covid-19 – o fapio dilyniannau genomeg Covid-19, arallgyfeirio BBaChau hyd at ddarparu Cyfarpar Diogelu Personol ac yn olaf, datblygwyd tri brechlyn yn gyflym. Er bod Cymru a’i Sefydliadau Addysg Uwch wedi chwarae rhan yn yr ymateb i Covid, mae’r drafodaeth go iawn am bolisi arloesedd yn cael ei chynnal yn Whitehall a San Steffan. Beth allai’r datblygiadau hyn eu hawgrymu i Gymru a sut gallwn ni ymateb i’r cyfleoedd a allai gyflwyno eu hunain fel rhan o’r ymagwedd uwchraddio hon tuag at Ymchwil ac Arloesedd sy’n seiliedig ar leoedd.

Yr Athro Kevin Morgan

Rydym yn cefnogi’r farn a fynegwyd yn Adroddiad Tasglu NCUB Research to Recovery (2020) yn gryf, sef bydd angen ymateb cyfunol gan brifysgolion a busnesau fel ysgogwyr critigol ym maes ymchwil ac arloesedd er mwyn rhoi gweledigaeth y Cynllun ar waith. Caiff economi ymchwil ddwys, a arweinir gan arloesedd ei gategoreiddio gan lifoedd o syniadau a chydweithio rhwng y bydoedd diwydiannol ac academaidd’.

Ni ddylai hyn olygu dull busnes-fel-arfer. Yn ein barn ni, nid yw dulliau presennol yn ddigonol ac ar rai agweddau pwysig nid yw sefydliadau allweddol Cymru’n addas ar gyfer y diben o gyflwyno’r agenda newydd hwn. Ond mae datblygiadau pwysig ar y gweill a’n bwriad yn y darn byr hwn yw tynnu sylw at feysydd a gweithgareddau addawol ac awgrymu ffyrdd posibl y gallai’r dyfodol gael ei lywio’n fwy cynyddol er mwyn i Gymru fod mewn sefyllfa well i fanteisio ar gyfleoedd a allai godi.

Mae angen i ni ddechrau drwy gael trefn arnom ni ein hunain. Felly, rydym yn canolbwyntio ar gyflwyno newidiadau sefydliadol a fydd yn cyflwyno newidiadau diwylliannol mewn ffyrdd y gall prifysgolion a’r sector cyhoeddus ymgysylltu â nhw mewn gweithgareddau arloesedd. Rydym yn canolbwyntio ar ddau ddatblygiad sefydliadol o’r fath: (a) sefydlu Corff Arloesedd cenedlaethol a (b) sefydlu Ysgol Llywodraeth Bevan, a ategwyd gan ddwy fenter system gyfan sydd â’r potensial i fod o fudd i Gymru gyfan – Parthau Cydweithio Arloesedd a Heriau Cymru.

Cynigion

Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

1. Corff Arloesedd Cenedlaethol. Roedd yn nodedig y daeth Adroddiad Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg a oedd yn ystyried y dull y dylid ei defnyddio i sefydlu’r hyn a gaiff ei alw’n ARIA bellach, i ben drwy ddweud y dylai bod rôl ar gyfer ‘corff allanol sy’n gweithredu mewn ffordd wahanol i’r mecanweithiau ar gyfer ariannu ymchwil sydd wedi’u sefydlu yn y DU, gyda diwylliant gwahanol ac sy’n gallu gweithredu heb rai o’r strwythurau sydd eu hangen ar gyfer y brif sefydliad o ran ariannu ymchwil’. Mae ein ffordd o feddwl yn debyg o ran eirioli’r broses o sefydlu Corff Arloesedd Cenedlaethol newydd yng Nghymru. Byddai’r broses hon yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, ond yn gweithredu’n annibynnol i ddefnyddio gweithgareddau ledled Cymru er mwyn i’r genedl allu sicrhau cyfleoedd ariannu ym maes Ymchwil a Datblygu yn llwyddiannus, yn enwedig cyllid arloesedd. Er mwyn gwneud hynny, byddai angen mwy na llu o ‘sgyrsiau defnyddiol’. Byddai ganddo’r pŵer a’r adnoddau i gynnull, neu arwain hyd yn oed, datblygiad ceisiadau Cymru gyfan am gyllid, gan gynnwys arbenigwyr academaidd yn ôl yr angen (ar secondiad efallai). Dylai hefyd gynnwys yr adnoddau sydd eu hangen i ymgysylltu â chyfranwyr o’r sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector. Caiff yr adnoddau hyn eu defnyddio i feithrin y gallu a’r capasiti i arwain o ran ysgrifennu ceisiadau a’r cydberthynasau a’r cyfalaf cymdeithasol sydd eu hangen i gynnwys y sector preifat wrth ddatblygu’r cynigion hyn fel partneriaid go iawn.

Yn ogystal, byddai’n ychwanegu at waith blaenorol a ddatblygwyd mewn Corff Arloesedd Cenedlaethol yng Nghymru i gydnabod y newid sylweddol o ran polisi tuag at ddull sy’n fwy seiliedig ar le. Byddai’r CAC yn rhoi adnodd i lunwyr polisi a chyfranogwyr economaidd er mwyn eu helpu i ddatblygu polisïau a mentrau sy’n ysgogi arloesedd ac entrepreneuriaeth. Byddai hyn yn cael effaith fwy cymhwysol a throsiadol gan ganolbwyntio ar ryngwyneb y sylfaen ymchwil gyda chwmnïau uwch-dechnoleg / twf uchel sy’n helpu i ffurfio clystyrau Cymraeg nodedig (Insuretech, Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Dyfeisiau Meddygol, Creadigol, Seibr, Sero Net, ac ati) a all feithrin ac ymgorffori eco-systemau arloesi. Yn ei dro, bydd hyn yn helpu i feithrin swyddi’r dyfodol a sicrhau’r gallu i ddatrys problemau cymhleth sy’n arwain y llywodraeth i fod yn agored i syniadau newydd sy’n herio’r sefyllfa sydd ohoni ac yn helpu i ysgogi arloesedd yn lleol, er mwyn cystadlu’n fyd-eang.

2. Ysgol Llywodraeth Bevan. Mae hwn yn syniad a drafodwyd eisoes ond sydd heb ddatblygu i gael unrhyw ganlyniad ystyrlon. Nid yw ein gweledigaeth o gael CAC annibynnol yn atal yr angen am drawsnewid o ran capasiti gweision sifil yn Llywodraeth Cymru i gyfrannu at lwyddiant newydd ym maes arloesedd. Byddai Ysgol Bevan yn datblygu cenhedlaeth newydd o weision sifil yng Nghymru, ac yn gweithio gyda’r garfan bresennol drwy ddatblygiad gallu ar ffurf addysg weithredol. Byddai angen i’r Ysgol gael un neu fwy o gartrefi corfforol a mynd i’r afael â’r pedwar rhanbarth datblygu yng Nghymru, ond byddai llawer o’r tiwtoriaid yn gyfranwyr rhan-amser o brifysgolion, y proffesiynau, busnes a’r gwasanaeth sifil a fyddai’n gyfystyr â ‘chymrodoriaeth rithwir’. Ynghyd â datblygu capasiti, byddai’r gymrodoriaeth yn gweithredu fel cangen ymgynghori er mwyn mynd i’r afael â phrosiectau penodol a ariennir, gan ehangu’r cyfraniad a wneir ar hyn o bryd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac eraill.

Gallai’r ffocws ar ddatblygiad lefel uchel ar ffurf addysg weithredol arwain at (a) rhwydwaith dysgu penodol mewn amser real i gael ei sefydlu a fydd yn canolbwyntio ar broblemau diwydiannol a chymdeithasol y byd go iawn; (b) rhaglen ‘addasu a mabwysiadu’ i ledaenu a graddio arferion da, trosglwyddo gwybodaeth a chydweithio i fabwysiadu cyfleoedd newydd; (c) cynadleddau arweinyddiaeth i gyflwyno’r cyfranogwyr i ffordd o feddwl sy’n arwain y byd, rhannu gwybodaeth a chyd-ddatblygu syniadau i godi cynhyrchiant yn y trydydd sector; a (d) datblygiad uned data ac ymchwil penodol i roi tystiolaeth a mewnwelediadau ac adeiladu cronfa ddata genedlaethol o arferion da, partneriaethau a chudd-wybodaeth i dyfu’r capasiti ar gyfer meddwl mewn ffordd a arweinir gan heriau ac sydd wedi’i hysgogi gan genadaethau.

Caerdydd Campws Arloesedd

3. Parthau Cydweithio Arloesedd (PCA). Un o argymhellion Adroddiad Canolfan Genedlaethol ar gyfer Prifysgolion a Busnes yw creu PCA: ‘Diben y Parthau Cydweithio Arloesedd fyddai trosoli pob gyrrwr Ymchwil a Datblygu ac arloesedd, o ysgogiadau cyllidebol a threth a chymhellion a dadreoleiddio defnydd tir, hyd at gydleoli arbenigedd a chyfleusterau ymchwil, i gyflawni’r cenadaethau masnachol o ymchwil hyd at ddatblygiad ac arloesedd’. Mae angen ystyried y ffordd orau o ddefnyddio’r dull hwn er budd Cymru ymhellach yn sgil blaenoriaethau polisïau eraill, ond byddai hyn yn ffordd o fynd i’r afael ag ymchwil ‘Bwa Arloesi’ y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (ECR) sydd nid yn unig yn tynnu sylw at y lefelau endemig isel o fuddsoddiad cyhoeddus mewn Ymchwil a Datblygu yng Nghymru, ond yr angen am ystod a chymysgedd gwahanol o offer polisi i ddylanwadu ar ddosbarthiad. Gallai cyflwyno PCA ar draws Cymru wneud cyfraniad mawr at y cylchrediad arloesedd yng Nghymru gyda rhagolygon twf cwmni lleol cryfach yn hanfodol i’r effaith ehangach yn y gymuned leol. Byddai egwyddorion y parthau hyn yn nodi eu bod yn canolbwyntio ar ‘setiau problemau’ yn hytrach na thechnolegau neu sectorau diwydiant penodol; maen nhw’n benodol i le ac yn croesawu ystod lawn o ymchwil, arloesedd ac addysg a gweithgaredd hyfforddi; maen nhw’n cyflwyno’r holl elfennau sydd eu hangen i feithrin ‘arloesi ymarferol’ er mwyn mynd i’r afael â materion masnachol penodol a/neu heriau cymdeithasol.

Y potensial i PCA gysylltu ymhellach â’r syniad o Waddolion Arloesedd Cadarnhaol (PIE) cenedlaethol sy’n unigryw o ran ei ddull o ymdrin ag effaith a buddsoddi cyfrifol. Bydd hyn yn adeiladu ar ‘hwyliau’ cynyddol yr ESG ac yn sicrhau na fydd Cymru yn tyfu pie/PIE mwy yn unig ond un gwell. Yn ogystal â buddsoddi mewn atebion i’r heriau lleol a byd-eang rydym yn eu hwynebu, gallai’r PIE fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith ynni adnewyddadwy newydd, tai fforddiadwy lleol neu ôl-ffitio adeiladau cyhoeddus yma yng Nghymru. Nid yn unig y byddai hwn yn gam symbolaidd, byddai hefyd yn gosod y cwrs mewn sefyllfa i gael arferion buddsoddi cynaliadwy yn unol â nodau ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn enwedig y rhai a gefnogodd asedau a chyfleoedd cynhenid Cymru, gan seilio buddion deilliedig ac ymgorffori meddylfryd effaith buddsoddi yn sefydliadau a swyddogaethau ehangach y wlad.

Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

4. Heriau Cymru – gwneud Cymru yn u o’r lleoedd gorau ar gyfer meddwl sy’n seiliedig ar genadaethau. Mae gan y sector cyhoeddus rôl unigryw i chwarae yn y gwaith o ysgogi arloesedd. Mae meddwl confensiynol yn aml yn ystyried y sector yn ‘araf’; gyda sector cyhoeddus Cymru ‘chwyddedig’ ac ‘araf’ yn cael ei ystyried fel sector sy’n gorlenwi’r sector preifat. Mae’n bryd i ni wrthdroi’r persbectif hwn drwy droi her y sector cyhoeddus mawr yn gyfle – ac ychwanegu at y dystiolaeth o gamau gweithredu cadarnhaol drwy gydol argyfwng Covid. Nid unig ddiben y sector cyhoeddus yw ‘ariannu’, ‘dad-risgio’ a datrys problemau. Mae ar gael i gynnal sgyrsiau pwrpasol a gweithredu ar y cyd ynghylch heriau mawr y dydd ac i wneud cyd-fuddsoddiadau sy’n cyd-fynd â gwahanol broffiliau gwobrwyo risg a chymryd rhan weithredol yn y ffordd rydym yn llywio’r dyfodol.

Mae gan Gymru’r cyfraddau mabwysiadu uchaf o SBRI yn y DU cyfan ac mae ganddi gyfle, nid yn unig i ddylanwadu ar y gyfradd, ond ar gyfeiriad, cyflymder a natur gynhwysol arloesedd. Gall dulliau sy’n cael eu gyrru gan heriau helpu i wneud dosbarthiad Ymchwil a Datblygu yn fwy cynaliadwy a theg, oherwydd y siâp a’r strwythur a roddir i fuddsoddiadau ac ymyriadau. Mae Cymru wrthi’n meithrin gallu, arbenigedd a gallu da yn y maes hwn ac mae gan hyn oblygiadau pwysig yn y dyfodol wrth i ni fynd i’r afael â thri argyfwng â nodweddion rhyng-gysylltiedig ar yr un pryd – Covid, Hinsawdd a Chynhyrchiant Isel. Mae polisi sy’n canolbwyntio ar heriau yn allweddol i gymhwyso strategaeth ddiwydiannol mewn ffordd deg a chynaliadwy a datblygu InFuSe, Cronfa Her CCR, SBRI a rhaglenni llwyddiannus Govtech – gallai hyn olygu y byddai Cymru’n arwain y ffordd wrth fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol fel datgarboneiddio, diabetes a dementia.

Mae’r rhain yn amseroedd cyffrous i bawb sy’n credu ym mhotensial gweithgaredd dan arweiniad arloesedd sy’n mynd i’r afael â heriau cymdeithasol dybryd ein hamser i gynhyrchu atebion sy’n cynhyrchu gwerth economaidd a chyhoeddus. Mae tirwedd polisi arloesi’r DU yn newid yn gynt nag erioed a cheir addewid o rywfaint o adnoddau difrifol os oes gennym y capasiti ar y cyd i fynd i’r afael â’r cyfleoedd mewn modd amserol ac effeithiol. Rydym yn ofni y bydd Cymru yn parhau i lusgo’i thraed o ran sicrhau’r adnoddau hyn. Yn ein barn ni, bydd angen trawsnewidiadau sefydliadol radical sy’n nodi newid strwythurol a diwylliannol os ydym am wneud pethau’n wahanol ym maes arloesedd lle mae llawer yn y fantol.

Yr Athro Rick Delbridge a Yr Athro Kevin Morgan