Skip to main content

PartneriaethauPobl

Chwilio am gariad trwy gerddoriaeth?

1 Chwefror 2021

Myfyriwr o Brifysgol Caerdydd yn dechrau busnes newydd POM i greu cysylltiadau ystyrlon trwy rannu cariad at gerddoriaeth.  Yma, mae’r sylfaenydd a’r Prif Swyddog Gweithredol, Vihan Patel (BSc Econ) yn amlinellu’r trobwynt yn ei yrfa pan wrthododd gynnig am swydd, ynghyd â’i daith entrepreneuraidd i godi £250,000 – llai na blwyddyn ar ôl graddio.

“Daeth y trobwynt yn fy ngyrfa mewn digwyddiad y gwnes i ei gynnal yn fy ail flwyddyn yn y brifysgol. Roedd y digwyddiad ar gyfer genre gwahanol o gerddoriaeth i’m digwyddiadau eraill ac roedd y dorf yn wahanol iawn – o’r ffordd roedden nhw’n gwisgo, i’r ffordd roedden nhw’n siarad a hyd yn oed yr hyn roedden nhw’n ei yfed. Gwnaeth hyn i mi sylweddoli bod y gerddoriaeth rydyn ni’n gwrando arni yn cael effaith ar bwy ydyn ni gyda’r potensial i gysylltu pobl, ac yn ei dro, creu perthnasoedd. Daeth popeth yn glir i mi ac roeddwn i’n gwybod bod yn rhaid i mi ddechrau’r hyn a fyddai’n datblygu’n POM.

Mae apiau canlyn wedi dod yn arwynebol ac fel gêm. Mae hyn yn peri i rywun dreulio amser yn sweipio a chwarae gêm o boeth-ai-peidio yn hytrach na chanolbwyntio ar gymeriad emosiynol. Gall hyn deimlo’n amhersonol ac annynol a theimlais ei fod yn cael gwared ar yr hud o fynd ar ddêt. Yn POM rydw i’n ceisio ail-greu’r teimlad naturiol o gwrdd â rhywun, gan greu ap a all ddal i deimlo mor gyffrous â chwrdd â rhywun mewn bar neu glwb.

Y peth hyfryd am gerddoriaeth yw ei fod yn mynd y tu hwnt i hil, crefydd, iaith, a phob rhwystr arall rydych chi’n gallu meddwl amdano. Mae cerddoriaeth yn wirioneddol fyd-eang. Roeddwn i’n gallu chwarae cân i 100 o bobl wahanol o 100 o wahanol wledydd a byddent i gyd yn gallu ei theimlo a’i mwynhau’n emosiynol. Yn y bôn, mae POM wedi’i greu i fod yn fyd-eang ac i newid y ffordd mae pobl yn defnyddio ac yn meddwl am apiau canlyn. Mympwyol yw dulliau arwynebol o ganlyn, ond chysylltiadau go iawn yw’r rhai sy’n para.

Rydym yn bwriadu lansio yn Llundain ond ehangu’n fuan wedi hynny. Y nod yw cydweithio gyda’r gwyliau/digwyddiadau mwyaf a chyflwyno POM i’r byd go iawn yn ogystal â’r gofod digidol. Rydym am i bobl gwrdd trwy’r ap ond mynd i ddigwyddiadau gyda’i gilydd hefyd. Mae’n amlwg bod pandemig COVID-19 wedi cael effaith yma, ond credwn fod y pandemig wedi dangos gwerth cyswllt dynol a chefnogaeth emosiynol i bobl mewn gwirionedd.

Rydym yn dîm o bump sy’n tyfu o hyd; fi, Vlad y cyd-sylfaenydd a’n tri arweinydd Technegol anhygoel. O’r cychwyn cyntaf, dwi wedi dysgu nad yw teitl mewn busnes newydd yn golygu dim yn y bôn: mae’n rhaid i bawb wneud rolau amrywiol. Yn dechnegol, ‘Prif Swyddog Gweithredol’ yw fy nheitl, ond rwy’n gweithio ar farchnata, brandio, technoleg, materion cyfreithiol a phopeth arall.

A sut wnes i roi’r syniad ar waith? Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, pan roeddwn i fod i adolygu ar gyfer yr arholiadau ar-lein, gwnes i gynllun busnes, ond sylweddolais fod angen arian arnaf. Felly, ar ôl cwblhau fy arholiadau, fe wnes i ofyn i Google “sut i godi arian”, a dywedodd bod angen i chi ddod o hyd i angylion.

Es i at LinkedIn ac anfon 221 o negeseuon oer yn gofyn a fyddai ganddyn nhw ddiddordeb mewn trafod ymhellach, a phob un â neges fideo personol a chais unigryw wedi’i deilwra i’w buddsoddiadau blaenorol e.e. pe bawn i’n gweld bod rhywun wedi buddsoddi mewn cynnyrch SAAS yn y gorffennol byddwn yn pwysleisio elfen SAAS fy nghynnyrch ac ati.

O ganlyniad i’r hinsawdd ar y pryd, nid oedd llawer o awydd i fuddsoddi, felly dim ond 31 a atebodd o’r 221. Ond ni wnaethon ni roi’r ffidil yn y to. Ar ôl hynny fe wnaethom anfon mwy o negeseuon fideo, a chael cyfarfodydd ar Zoom, nes i ni lwyddo i ddod o hyd i’n 9 buddsoddwr rhyfeddol, gan godi £250,000 mewn ychydig wythnosau yn seiliedig ar werthusiad o’r fenter o £1.1 miliwn.”

Pan mae pobl yn gofyn i mi am fy mhrofiad o gychwyn busnes yn syth o’r brifysgol, rwy’n aml yn cofio’r risg yr oeddwn yn ei chymryd. Roedd gwrthod cynnig am swydd i fynd ar y trywydd hwn yn beth mawr i mi. Fe wnes i oresgyn yr ofn gyda’r gred bod POM yn rhywbeth arbennig. Nid ydw i wedi edrych yn ôl ers hynny. Po hiraf y byddwch chi’n aros, lleiaf tebygol y byddwch chi’n dechrau. Cymerwch y risg tra gallwch chi! ”

Vihan Patel

Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol, POM