Bancio ar arloesi
18 Ionawr 2021Mae Banc Datblygu Cymru yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i droi ymchwil yn gynhyrchion a phrosesau sy’n gyrru ffyniant. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n rhannu gwybodaeth i feithrin busnesau cartref. Yma, mae Dr Nick Bourne, Pennaeth Datblygu Masnachol Prifysgol Caerdydd a Dr Phil Barnes, Swyddog Gweithredol Buddsoddi yn nhîm buddsoddiadau mentrau technoleg y Banc Datblygu, yn archwilio partneriaeth hirsefydlog.
Dr Phil Barnes
“Mae gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd yn dod â buddion mawr i Gymru.
Wedi’i sefydlu gan Lywodraeth Cymru fel Cyllid Cymru 20 mlynedd yn ôl, cafodd y Banc Datblygu ei lansio ddiwedd 2017, gan gynnig buddsoddiad ecwiti i rhoi’r cyfle gorau i fusnesau newydd a chwmnïau deillio ffynnu. Drwy gydol y cyfnod hwnnw rydym wedi cefnogi hanes rhagorol y Brifysgol o ddatblygu technolegau arloesol.
Mae symud syniadau ymlaen o’r camau cychwynnol yn rhan fawr o’r hyn rydyn ni’n ei wneud. Trwy gyfalaf sbarduno a mentro cychwynnol, rydym yn darparu ecwiti er mwyn ariannu costau ymchwil a datblygu cyn refeniw, ac ar hyn o bryd mae dros 80 o gwmnïau yn ein portffolio ecwiti TVI.
Ar gyfer busnesau newydd technoleg, rydym yn darparu buddsoddiad ecwiti rhwng £50,000 a £5 miliwn, gyda £2 miliwn ar gael fesul rownd sy’n galluogi arloeswyr i ddechrau, cryfhau neu dyfu busnes.
Yn ystod yr hanner blwyddyn yn 2020-2021, buddsoddodd y Banc Datblygu £137 miliwn yn uniongyrchol i fusnesau Cymru (gan gynnwys £92 miliwn o Gynllun Benthyciadau Busnes COVID-19 Cymru). Buddsoddodd ein tîm mentrau technoleg bron £5 miliwn i 18 o fusnesau cam cynnar, wnaeth ysgogi £7 miliwn arall.
Rydym hefyd yn cadw llygad barcud ar ddeoryddion rhanbarthol yng Nghymru, ac mae gennym gysylltiadau cryf gyda lleoliadau arloesi AU ar draws y wlad.
Mae Medicentre Caerdydd – menter ar y cyd rhwng y Brifysgol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro – wedi cael llwyddiannau ysgubol ym maes technoleg.
Mae buddsoddiadau blaenorol technolegau meddygol yn cynnwys tri chwmni deillio llwyddiannus: Q-Chip (wedi’i gaffael gan MidaTech Pharma), Intelligent Ultrasound (bellach wedi’i restru yn AIM), ac Alesi Surgical.
Yn ogystal â darparu cyfalaf menter, rydym yn hwyluso cyd-fuddsoddiad gan syndicetiau, angylion ac unigolion gwerth net uchel trwy Angels Invest Wales ac yn cynnig rhwydwaith o gysylltiadau profiadol i helpu i gryfhau timau rheoli.
Mae ein partneriaeth wedi’i hadeiladu ar gydweithrediad hirsefydlog. Gweithiais gyda’r tîm Trosglwyddo Technoleg ym Mhrifysgol Caerdydd cyn ymuno â’r Banc Datblygu, fel y gwnaeth fy nghydweithiwr Carl Griffiths, ein rheolwr cronfa sbarduno.
Gyda’n gilydd, rydym yn rhan o banel Cynghori Masnachol y Brifysgol sy’n cyfarfod unwaith y mis, gan roi mewnwelediad cynnar i ni ar brosiectau a allai elwa o’n cefnogaeth.
Rydym yn rhoi hwb i’n tîm buddsoddi mewn menter technoleg ledled Cymru ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Chaerdydd yn 2021, gan helpu mwy o fusnesau technoleg cartref i gael y cyllid sydd ei angen arnynt.
Dr Nick Bourne
“Mae ein partneriaeth â Banc Datblygu Cymru yn dod â llu o fuddion i’n hacademyddion, ymchwilwyr a phartneriaid busnes, ac yn bwydo i mewn i ôl troed economaidd ehangach y Brifysgol ar lefel Cymru, y DU ac yn fyd-eang.
Ac nid hynny’n unig. Mae mewnbwn ac arbenigedd y Banc Datblygu wedi’n helpu i gynnal y 3edd safle mewn tabl cynghrair prifysgolion y DU a gyhoeddwyd yn ddiweddar, gyda hanes da o lwyddiant i gwmnïau deillio.
Mae’r safle yn sgorio sefydliadau am eu gallu i drosi ymchwil yn gwmnïau ffyniannus gwerth uchel.
Mae creu cwmnïau deillio – a phenderfyniadau busnes cadarn – yn dibynnu ar ddata da. Yn 2018 cafodd Dirnad Economi Cymru ei lansio, cydweithrediad unigryw rhwng Ysgol Busnes Caerdydd, Banc Datblygu Cymru a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae’r uned ymchwil – sydd ag arbenigedd gan Ysgol Busnes Caerdydd – yn cyhoeddi adroddiadau rheolaidd ar gyllid, busnes a materion economaidd o bersbectif cwmnïau bychan yng Nghymru, gan helpu i greu corff o ddadansoddiad gwrthrychol ac arbenigol, ac ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i anghenion newidiol y farchnad.
Mae gennym berthynas dda iawn gyda chydweithwyr yn y Banc Datblygu, ac mae’r cysylltiadau hirsefydlog hyn yn ein galluogi i’w cyflwyno nhw i brosiectau deillio posibl fel y bo’n briodol.
Mae arloesedd yn cael ei adeiladu ar ymddiriedaeth dros amser, ac adborth agored, a gallent gynnig cyngor onest, gan ddweud wrthym os yw cwmni deillio’n barod i gael buddsoddiad, neu os oes angen i ni wneud rhagor o waith i baratoi’r busnes newydd ar gyfer y farchnad fuddsoddi’n gyffredinol.
Yn ogystal â rolau ar ein Panel Cynghori Masnachol, mae eu pobl yn gweithio fel aelodau panel allanol a chynghorwyr dibynadwy ar ein Paneli cyllido Cyfrif Cyflymu Effaith gyda’r Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) a’r Cyngor Cyllido Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC), a darparu arbenigedd ar brosiectau ynghyd ag aelodau panel allanol eraill megis Llywodraeth Cymru.
Gobeithio y bydd ein perthynas yn dwyn ffrwyth yn y blynyddoedd sydd i ddod wrth i ni wella o effeithiau’r pandemig.
Bydd llawer o fentrau Caerdydd yn y dyfodol yn dod o hyd i gartref newydd ar ein Campws Arloesi, sy’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd.
Dyluniwyd ein hadeilad sbarc|spark newydd gan y penseiri arobryn Hawkins/Brown, a bydd yn creu cymuned fywiog lle mae cwmnïau tenant a mentrau cam cynnar yn defnyddio ei fannau arloesi, labordai a swyddfeydd gosodadwy pwrpasol i gysylltu, cydweithredu a chreu.
Fan hyn, yn yr hwb arbenigedd ymchwil, sgiliau entrepreneuraidd a chymorth busnes hwn, byddwn yn gweithio gyda Banc Datblygu Cymru yn y blynyddoedd sydd i ddod, a hoffem ni ddiolch iddyn nhw a Llywodraeth Cymru am eu cymorth a chefnogaeth barhaus.”