Dau ‘dro cyntaf’ i fforwm electroneg
24 Awst 2020Torrodd Prifysgol Caerdydd dir newydd yn ddiweddar drwy gynnal cynhadledd fyd-eang ar electroneg amledd uchel. Cyflawnodd y digwyddiad ddau beth mawr am y tro cyntaf, drwy gael ei gynnal yn y DU a’i gyflwyno’n rhithwir. Yma, tynnodd cadeirydd y digwyddiad, yr Athro Paul Tasker, sylw at lwyddiant y Gweithdy Rhyngwladol am Gylchedau Microdon a Thon-filimedr Aflinol Integredig (INMMiC).
‘Mae electroneg amledd uchel wrth wraidd arloesedd mewn technolegau sy’n dod i’r amlwg, gan helpu i sbarduno cyfathrebu cynt. Oherwydd COVID-19 eleni, teimlodd INMMiC fod yn rhaid dilyn yr un llwybr, gan ddefnyddio ffyrdd newydd, dyfeisgar o sicrhau bod y digwyddiad dau ddiwrnod o hyd yn llwyddiant enfawr a ragorodd ar ein disgwyliadau gwreiddiol.
Wedi’i lansio’n wreiddiol yn Duisburg, yr Almaen, dri deg mlynedd yn ôl, mae’r fforwm wedi cael ei gynnal ledled pedwar ban Ewrop, o Malaga yn ne Sbaen yn 2008 i Göteborg, Sweden yn 2010, ac o Ddulyn, 2012, i Graz, Awstria yn 2017.
Mae INMMiC yn bodoli er mwyn hyrwyddo, trafod a datblygu syniadau ym maes cylchedau a systemau microdonnau aflinol a thon-filimedr. Roedd y digwyddiad yn 2020 yn cyfuno dau ddiwrnod o gyflwyniadau llafar gyda gwahoddiadau i gynnal areithiau nodedig.
Diolch i gymorth penodedig academyddion a oedd yn gwasanaethu fel cadeiryddion sesiwn, a thîm cydnerth o gymedrolwyr, roeddem yn gallu cyfuno cyflwyniadau technegol ag ‘ystafelloedd’ trafod rhithwir lle roedd y gynulleidfa’n gallu ymgysylltu ag awduron er mwyn ceisio darganfod y gwirionedd rhwng y llinellau.
Yn fwy na dim, gwnaethom annog ymchwilwyr ifanc a myfyrwyr ôl-raddedig i gymryd rhan. Cefnogwyd Gwobr Papur Myfyriwr Gorau gan Gallium Arsenide Application Symposium Association er cof am yr Athro Gottfried Magerl.
Yn gryno, roedd llawer o fanteision i agor ein drysau fel digwyddiad rhithwir ‘am ddim’, gan fwy na dyblu presenoldeb arferol y gynhadledd. Ar y diwrnod cyntaf, ymunodd 231 o wylwyr unigryw â ni, a 139 oedd y nifer fwyaf o wylwyr a oedd yn gwylio ar yr un pryd. Ac ar yr ail ddiwrnod, arhosodd y niferoedd i fyny: 177 o wylwyr unigryw gyda brig o 104. Profodd yr ystafelloedd grwpiau bach i fod yn fforymau poblogaidd ar gyfer trafodaeth ddyfnach.
Mae adborth wedi bod yn hynod gadarnhaol. Nododd yr Athro Iltcho Angelov o Brifysgol Chalmers, Sweden: “Mae ystafelloedd ar wahân ar gyfer cwestiynau ar wahanol bapurau yn rhoi mwy o amser ar gyfer ymholiadau. Mewn cynhadledd arferol, fel arfer dim ond amser am un neu ddau gwestiwn sydd gennych ar y gorau.”
Dywedodd yr Athro Jose Carlos Pedro, o Brifysgol Aveiro, Portiwgal: “Fel aelod o INMMiC TPC, hoffwn ddiolch i Dîm Caerdydd am ei waith gwych yn cynnal y gynhadledd o dan amgylchiadau mor anodd. Diolch!!”
Fel pwyllgor rydym yn diolch i’r noddwyr (gweler y logo), ac yn benodol i’r Catapwlt Rhaglenni Lled-ddargludyddion Cyfansawdd sydd wedi’i leoli yng Nghasnewydd a’i staff am ein galluogi i ddefnyddio ei safleoedd (a’i ryngrwyd cyflym) i gynnal y gynhadledd. Diolch hefyd i’r cyflwynwyr penodedig, a oedd wedi paratoi cyflwyniadau o ansawdd uchel a gwnaeth pob un ohonynt ymuno â sesiynau’r ystafelloedd trafod.
Yn olaf, dangosodd y digwyddiad wir gryfder dwfn ymhlith y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr ym maes electroneg amledd uchel. Cafodd un ar ddeg myfyriwr a gyflwynodd papur a adolygwyd gan gymheiriaid eu dewis ar gyfer rownd derfynol Cystadleuaeth Papur Myfyriwr: gwnaethant hefyd gymryd rhan mewn diwrnod ychwanegol o weithgareddau ym mis Gorffennaf, gyda seminarau ar adnoddau CAD uwch o Keysight ac Ansys, ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd, a noddir gan Win Semiconductors.
Hefyd, roedd yn rhaid i’r tri enillydd roi ‘cyflwyniad’ fideo 60 eiliad yn esbonio eu hymchwil mewn termau nad oedd yn arbenigol i’r gynulleidfa rithwir!
Dyma’r enillwyr: 1af – Moïse Safari Mugisho – Prifysgol Queen’s, Belfast: Harmonic-Injection Class-EM/F3 Power Amplifier with Finite DC-Feed Inductance; Yn ail – João Lucas Gomes – Prifysgol Aveiro: Transient Pulsed S-Parameters for Trapping Characterization; 3ydd – Alexander Alt – Prifysgol Caerdydd: Characterising the Baseband Impedance of Supply Modulators Using Simple Modulated Signals.
Galluogodd ni hefyd i dynnu sylw at lwyddiant parhaus CSconnected – sef clwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd cyntaf yn y byd wedi’i leoli yn ne Cymru, a thwf Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, a fydd yn symud i gartref pwrpasol – Cyfleuster Ymchwil Drosiadol – ar Gampws Arloesedd Caerdydd yn 2022.
Ar y cyfan, roedd yn llwyddiant ysgubol!
Yr Athro Paul Tasker, Prifysgol Caerdydd.