Skip to main content

Adeiladau'r campws

Tîm Arloesedd Clinigol yn Newid i fod yn Rhithwir

7 Awst 2020

Ni fu cyfnod erioed lle mae angen dod o hyd i atebion i anghenion clinigol ar gymaint o frys. Mae’r Bartneriaeth Arloesedd Clinigol a grëwyd rhwng Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn 2016 yn arloesol yn ei hun: mae cyfarfodydd misol o’i Dîm Amlddisgyblaethol (MDT) hynod lwyddiannus bellach yn cael eu cynnal fel sesiynau rhithwir yn lle cyfarfodydd wyneb yn wyneb arferol. Mae’r MDT yn dod â phanel o glinigwyr, academyddion ac arbenigwyr diwydiant a’r sector preifat at ei gilydd i gynghori pobl gyda ffyrdd newydd o arloesi a syniadau newyddYma, mae’r Athro Ian Weeks OBE, Deon Cyswllt ar gyfer Arloesedd Clinigol yng Ngholeg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd Prifysgol Caerdydd, yn archwilio ei lwyddiant.

‘Sefydlodd y Bartneriaeth Arloesedd Clinigol rhwng Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yr MDT ychydig flynyddoedd yn ôl fel cyfle unigryw i helpu pobl i ddatblygu eu syniadau am arloesedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a’u datblygu’n ddatrysiadau sy’n mynd i’r afael â’r angen clinigol.

Mae’r llwybr o syniad i weithred ymarferol yn aml yn hir a chymhleth yn y maes hwn ac felly mae cyngor a chanllawiau gan bobl sydd ag amrywiaeth eang o sgiliau, arbenigedd a gwybodaeth yn amhrisiadwy.

Yn benodol, caiff y gwaith o gydweithio’n llwyddiannus rhwng y sectorau gofal iechyd, academaidd a diwydiant ei ystyried yn hanfodol yn y gwaith o gyflawni manteision yn gyfoes ar gyfer cleifion, y boblogaeth, yr economi iechyd a’r datblygiad economaidd yn fwy cyffredinol.

Nod yr MDT felly yw rhoi cyngor a chymorth i unigolion weithio mewn unrhyw un o’r sectorau hyn sydd â syniadau a allai gynnig gwelliannau sylweddol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’r MDT yn cynnwys grŵp mawr o bobl gydag amrywiaeth eang o wybodaeth a phrofiadau gan gynnwys, er enghraifft, y gwyddorau bywyd, meddygaeth glinigol, peirianneg, busnes, eiddo deallusol, rheoliadau dyfais meddygol a diwydiant.

Gwahoddir unigolion i gyflwyno eu syniadau a’u trafod gyda’r Tîm er mwyn nodi ffyrdd posibl o ddatblygu’r syniad. Yn ogystal â chynghori ar y cyfleoedd i ddatblygu’r syniad a llwybrau posibl, mae gan yr MDT fynediad at bobl a rhwydweithiau a all cynnig cyngor arbenigol pellach a chyfleoedd ariannu posibl ar gyfer datblygiad o’r fath”.

Hyd yn hyn, mae’r MDT wedi cwrdd yn fisol ac wedi helpu dros 100 o unigolion neu grwpiau i ddatblygu eu syniadau. Nid yw’n annisgwyl, ond mae pandemig presennol COVID-19 wedi amharu ar y cyfarfodydd hyn dros dro ond mis hwn mae cyfarfod misol MDT yn dychwelyd, er ei fod ar ffurf rithwir yn hytrach nag ar ffurf ffisegol. Mae’r darlun yn dangos ehangder y meysydd sy’n rhan o’r syniadau a gefnogir gan yr MDT.

Fel y dywedodd yr Athro Jared Torkington, Llawfeddyg Ymgynghorol a Chadeirydd MDT: “Nid yw’r MDT yn ffau’r llewod, yn hytrach mae’n cynnig amgylchedd croesawgar a chefnogol i annog arloesedd ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol. Rwyf wrth fy modd ein bod yn cael ceisiadau gan unigolion neu grwpiau o amrywiaeth o sefydliadau gofal iechyd, prifysgolion a busnesau. Yn amlwg mae hyn yn pwysleisio’r angen am fforwm syniadau o’r fath a gobeithio y bydd ein model yn ddefnyddiol i bobl eraill.”

Enghreifftiau o feysydd ble mae’r MDT wedi arwain at ddatblygu syniadau gan gynnwys (“Apiau”) ar gyfer cymorth i gleifion a/neu feddyg, adnoddau diagnostig newydd ar gyfer canfod a nodweddu heintiau a chanser yn gynnar a hefyd dyfeisiau i wella triniaethau llawfeddygol.

Ar y cyfan, mae’n ddechreuad da. Ond llawer rhagor i’w wneud o hyd.”

Mae rhagor o wybodaeth am Arloesedd Clinigol MDT ar gael gan Julie Hayward (haywardja@caerdydd.ac.uk ) neu Barbara Coles (colesb2@caerdydd.ac.uk ) yn yr Hwb Arloesedd Clinigol.

Yr Athro Ian Weeks, Deon Arloesedd Clinigol, Prifysgol Caerdydd