Tanwydd synthetig cynaliadwy ar gyfer planed lanach a gwyrddach
2 Hydref 2019Does dim amheuaeth ynghylch cynhesu byd-eang. Mae adroddiad diweddar gan y Cenhedloedd Unedig yn nodi bod newid yn yr hinsawdd yn achosi llanast llwyr yn ein moroedd a’n rhanbarthau iâ. Mae angen i Lywodraethau weithredu’n gyflym. Mae arbenigwyr yn galw am doriadau dwfn ar unwaith i allyriadau carbon. Mae gwyddonwyr Caerdydd yn arwain yr ymgais i gael hyd i ddewisiadau heblaw tanwydd ffosil.
Yma, mae’r Athro Duncan Wass, Cyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI), yn edrych ar sut gallai creu tanwydd synthetig cynaliadwy helpu i leihau effaith ddinistriol y ddynoliaeth ar y blaned.
Mae’r adroddiad diweddaraf gan Banel Rhyngwladol y CU ar Newid yn yr Hinsawdd – y trydydd mewn blwyddyn – yn ategu galwad frys am weithredu ynghylch newid yn yr hinsawdd, sy’n cyffwrdd â bywydau pawb ohonom.
Bydd addasu agweddau gwleidyddol a’r cyhoedd at ddefnyddio ynni, newid cerbydau, hedfan a llu o weithgareddau dynol eraill yn cymryd degawdau. Ond mae llawer o’r wyddoniaeth waelodol sy’n gallu helpu i greu planed fwy gwyrdd a glân eisoes wrth law.
Mae ein tîm o arbenigwyr yn CCI yn canolbwyntio ar gael hyd i ffyrdd newydd o ddatblygu tanwydd synthetig cynaliadwy. Mae modd eu creu trwy ddefnyddio carbon a gipiwyd o’r aer, o ddeunydd biolegol – megis gwastraff coedwigaeth neu ffermio – neu o brosesu biodanwydd sydd eisoes yn bodoli, fel ethanol.
Oherwydd bod tanwydd synthetig yn ynni glân, maen nhw mewn sefyllfa ddelfrydol i helpu’r sector trafnidiaeth i leihau ei ddibyniaeth ar danwydd ffosil a chyrraedd nodau “net-sero” ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Mae nodyn briffio polisi a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Gymdeithas Frenhinol wedi nodi sut gallai cymdeithas ddechrau pontio i danwydd mwy cynaliadwy yn ystod yr 20 mlynedd nesaf.
Un o fanteision allweddol tanwydd synthetig yw bod ganddynt ddwysedd ynni tebyg i danwydd confensiynol ar gyfer cludiant, felly gellir eu cyfnewid yn ddiffwdan heb fod angen buddsoddi mewn seilwaith fel pwyntiau gwefru ar gyfer ceir trydan.
Mae heriau pwysig yn bodoli. Nid yw prosesau i gynhyrchu tanwydd o’r fath yn gallu cystadlu â thanwydd confensiynol eto. Ac mae’r costau cynhyrchu yn uchel – rhwng dwy a phum gwaith mor ddrud â phrisiau cyfanwerthu tanwydd ffosil.
Fy nghydweithiwr, Athro Regius Cemeg, Graham Hutchings CBE FRS, oedd cadeirydd grŵp llywio’r adroddiad. Yn ei grynodeb, mae’n amlygu’r ffaith bod gan y Deyrnas Unedig eisoes y sgiliau a’r capasiti ymchwil i wella llawer o gamau’r broses, megis catalysis a biodechnoleg, ac i ddarparu maes arall lle mae’r Deyrnas Unedig yn arwain, sef ynni carbon isel.
Mae Graham yn ysgrifennu: “Er nad oes bwled arian fydd yn cyflawni uchelgeisiau net-sero’r llywodraeth, bydd buddsoddi mewn technolegau nawr sy’n gallu lleihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil yn hanfodol i wireddu’r nodau hynny.
Mae’r nodyn briffio yn cydnabod y gallai tanwydd synthetig cynaliadwy fod yn hanner ffordd hollbwysig ar y daith at allyriadau sero.
Mae’r Athro Matthew Davidson, Dirprwy Gadeirydd y grŵp llywio tanwydd Synthetig a gynhyrchodd yr adroddiad, yn credu y gallai tanwydd synthetig gynnig ateb interim trwy ‘ddadffosileiddio’ dulliau trafnidiaeth anodd ymdrin â nhw fel hedfan.
“Mantais y tanwydd yma yw eu bod yn defnyddio technolegau cyfarwydd a seilwaith sydd eisoes yn bodoli.
Bydd angen ymchwil bellach i ostwng costau a chynyddu effeithlonrwydd cynhyrchu tanwydd synthetig – ar hyn o bryd maen nhw’n ddrutach na thanwydd ffosil, a bydd angen cyflenwad mawr o drydan cynaliadwy rhad.
Catalysis yw’r allwedd ar gyfer cynhyrchu tanwydd synthetig cystadleuol. Fel Cyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd – un o sefydliadau ymchwil arweiniol y Deyrnas Unedig – rydym ni’n arwain yr ymchwil yn y maes. Mae ein prosiectau’n amrywio o drosi bioethanol i greu hylifau i gymryd lle petrol, i gipio a throsi carbon deuocsid i greu tanwydd hylif.
Mae Prifysgol Caerdydd yn gwneud ymrwymiad tymor hir i Sefydliad Catalysis Caerdydd trwy fuddsoddi mewn Cyfleuster Ymchwil Drosiadol newydd sbon, fydd yn arweinydd rhyngwladol.
Yma, byddwn yn parhau i adeiladu trefniadau cydweithio hirsefydlog gyda phartneriaid diwydiannol, fel bod modd i ni drosi technoleg gatalysis hollbwysig o ymchwil academaidd yn uniongyrchol i brosesau diwydiannol glanach a gwyrddach, gan gynnwys tanwydd synthetig cynaliadwy.
Mewn degawdau i ddod, mae’n bosibl iawn mai catalysis fydd technoleg fwyaf cynaliadwy’r 21ain ganrif. Mae’r cyfleuster ymchwil drosiadol newydd (TRF) i agor yn 2021. Gan ein bod yn wynebu argyfwng cynyddol o ran yr hinsawdd, ni all y drysau agor funud yn rhy fuan.”