Canolfan Hyfforddiant Doethurol ar gyfer rchu Lled-ddargludyddion Cyfansaw Gweithgynhydd EPSRC (CSM CDT)
5 Chwefror 2019Yn sail i bron pob teclyn electronig cyfoes, o ffonau clyfar i lechi, mae Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CS) – dyfeisiau mân gydag effaith fawr.
Yma, mae’r Athro Peter Smowton, Rheolwr Gyfarwyddwr y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, yn amlinellu grym yr olynwyr hyn i’r sglodion silicon. Mae hefyd yn egluro sut bydd Canolfan Hyfforddiant Doethurol ar gyfer rchu Lled-ddargludyddion Cyfansaw Gweithgynhydd EPSRC (CSM CDT) yn helpu i gadw de Cymru ar y blaen o ran y technolegau lled-ddargludyddol cyfansawdd sy’n ymddangos.
————————————————————————————————————–
Mae Lled-ddargludyddion Cyfansawdd wrth galon cymdeithas. O fewn bron pob ffôn symudol ledled y byd, mae cydrannau bach iawn a gynhyrchwyd yng Nghymru.
Mae’r gwneuthurwr IQE, sy’n cynhyrchu wafferi yng Nghaerdydd ac yn eu dosbarthu ledled y byd, yn gweithio gyda chwmnïau ar hyd yr M4 i ffurfio CS Connected – clwstwr cyntaf y byd ar gyfer technolegau lled-ddargludyddion cyfansawdd.
Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn diffinio lled-ddargludyddion cyfansawdd yn Dechnoleg Alluogi Allweddol, a gallent greu cyfoeth a swyddi.
Byddant yn allweddol i ddatblygu rhwydweithiau 5G, goleuon ynni effeithlon, cyfathrebu rhwng lloerenni, electroneg bŵer ar gyfer cerbydau trydan a thechnegau delweddu newydd yn y dyfodol, ymhlith llu o rai eraill.
Yn y bôn, mae’r dechnoleg hon yn cynnal ein byd cysylltiedig, ein hiechyd, ein diogelwch a’r amgylchedd. Ond mae datblygiadau arloesol y dyfodol yn dibynnu ar esblygiad cyflym mewn gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd.
Mae’r Ganolfan yn newyddion gwych i Brifysgol Caerdydd, Cymru ac economi’r DU. Bydd yn ein helpu ni i baratoi myfyrwyr PhD sydd wedi cael hyfforddiant gwell, sy’n deall y diwydiant ac sydd â’r arbenigedd y mae’r diwydiant yn awchu amdano.
Ariennir y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol gan Ymchwil ac Arloesedd y DU drwy Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC) a chafodd ei chreu gan yr IQE, y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (partneriaeth 50/50 rhwng Prifysgol Caerdydd ac IQE), Newport Wafer Fab a’r Compound Semiconductor Applications (CSA) Catapult.
Cynghrair rhwng prifysgolion Caerdydd, UCL, Sheffield a Manceinion yw’r Ganolfan Hyfforddiant Doethurol, a bydd yn gweithio gyda 24 o gwmnïau y mae llawer ohonynt eisoes yn gweithio gyda’i gilydd drwy Hwb Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd y Dyfodol EPSRC, yng Nghaerdydd.
Gan ein bod yn hen law ar ragori ym maes lled-ddargludyddion cyfansawdd, byddwn yn cynnig hyfforddiant PhD sy’n berthnasol i’r diwydiant ac sy’n heriol yn ddeallusol.
Ein nod yw recriwtio carfan o 64 o fyfyrwyr o leiaf; bydd EPSRC yn ariannu 40 ohonynt, a bydd y pedair prifysgol ynghyd â’r diwydiant yn ariannu 24 rhagor. Ein gweledigaeth yw graddedigion PhD sydd â’r sgiliau i weddnewid Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd y DU.
Byddant yn gwneud hyn drwy roi hwb sylweddol i’r niferoedd sy’n defnyddio’r dechnoleg hon mewn cynhyrchion drwy allu defnyddio dulliau gweithgynhyrchu Silicon ar gyfer lled-ddargludyddion cyfansawdd.
Gan gefnogi cwmnïau yn y DU ar hyd y cadwyni cyflenwi, byddant yn eu helpu i fanteisio ar nodweddion electronig, magnetig, optegol a thrin pŵer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Bydd hyn yn eu galluogi i arloesi swyddogaethau newydd ac integredig megis synhwyro, prosesu data a chyfathrebu.
Ein cenhadaeth yw cyflenwi gwyddonwyr a pheirianwyr sydd â’r sgiliau a’r wybodaeth berthnasol ar draws y gadwyn gyflenwi gyfan yn y DU. Bydd hyn o fudd wrth weithgynhyrchu deunyddiau a dyfeisiau yn ogystal â’r systemau a’r cynhyrchion sy’n eu defnyddio.
Rydym yn disgwyl gweld cadwyni cyflenwi gweithgynhyrchu sy’n dechrau, ac yn diweddu weithiau, yn y DU. Fodd bynnag, lle mae’r gwerth yn cael ei ennill dramor, disgwylir iddo ddod yn gyfan gwbl i’r DU ac y bydd y DU yn ganolfan arloesedd mewn cynhyrchion a alluogir gan led-ddargludyddion cyfansawdd.
Mae angen meithrin y clystyrau’n barhaus. I bob pwrpas, mae hyn yn golygu croesffrwythloni pobl a syniadau. Yn bwysicaf, mae’n golygu cyflenwad o’r staff mwyaf medrus i gynnal y twf cyflym er mwyn cyrraedd y màs critigol ar gyfer cynaliadwyedd.
Gallai’r cynnydd arfaethedig yn nifer y swyddi lefel PhD yng nghwmnïau’r clwstwr presennol yn unig gyflogi holl raddedigion y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol dros y pum mlynedd nesaf. Ar ben hynny, mae llawer o gwmnïau eraill a swyddi academaidd sy’n galw’n groch am bobl â’r fath sgiliau.
Bydd y Ganolfan yn mynd y tu hwnt i gynhyrchu gwybodaeth. Byddwn yn cynnig cyfathrebu critigol a sgiliau arwain er mwyn creu grŵp cysylltiedig o fyfyrwyr PhD fydd yn parhau i ryngweithio drwy gydol eu gyrfaoedd.
Yn wahanol i PhDs traddodiadol, sy’n tueddu i ganolbwyntio ar un agwedd, bydd y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol yn cynnig dealltwriaeth gyfannol o’r holl broses o weithgynhyrchu yn ogystal ag arbenigedd mewn un cam o leiaf.
Mae trosolwg o’r broses gyfan, yn ogystal â deall gwaith y gwahanol gwmnïau, yn allweddol wrth ddatblygu arweinwyr gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd y dyfodol.
Wrth i’r DU fynd ati i ddatblygu perthynas newydd gydag Ewrop, efallai bydd ein Canolfan newydd yn cyfrannu rywfaint at helpu Cymru, a’i thoreth o arbenigedd ynghylch lled-ddargludyddion cyfansawdd, i aros yn gystadleuol ar adeg o ansicrwydd economaidd.