Postiad cyntaf yr Is-ganghellor
13 Medi 2018Croeso cynnes Cymreig i’n blog newydd Cartref Arloesedd.
Dengys hanes fod arloesedd yn ffynnu pan ddaw Arloeswyr ynghyd i ffurfio partneriaethau yn y mannau cywir.
Pan ddes i’n is-Ganghellor, roeddwn i am adeiladu ar ein treftadaeth ddofn, gan gofleidio ysbryd y dynion a’r menywod diwyd a ddylanwadodd ar ffurf De Cymru.
Mae ein gwaith ym maes arloesedd wedi ehangu’n gyflym yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rydym yn parhau i hyrwyddo ein henw da am drosi ymchwil ardderchog yn effaith drwy System Arloesedd Caerdydd.
Bydd y blog yn ein helpu i fynd ymhellach, ac yn fforwm rhyngweithiol ar gyfer rhannu newyddion a barn ymchwilwyr, staff a myfyrwyr mentergar.
Bydd y blog yn fforwm ar gyfer hanesion person cyntaf, ac yn bwrw goleuni ar fuddsoddiad System Arloesedd Caerdydd mewn pobl sy’n adeiladu partneriaethau mewn canolfannau rhagoriaeth newydd. Bydd yn amlygu polisïau, prosesau a gwasanaethau newydd, yn rhannu barn ein partneriaid ar pam maent yn gweithio gyda ni, ac yn tynnu sylw at newyddion a safbwyntiau ar arloesedd yn y Deyrnas Unedig a thramor.
Rydym yn byw mewn cyfnod o ansicrwydd. Mae setliad terfynol Brexit a mynediad i gronfeydd strwythurol Ewrop yn her aruthrol, fel y nododd yr Athro Graeme Reid yn ei adolygiad diweddar o Ymchwil ac Arloesedd yng Nghymru i Lywodraeth Cymru.
Fodd bynnag, bydd cyllideb gynyddol y Deyrnas Unedig ar gyfer Ymchwil ac Arloesedd yn helpu busnesau a phrifysgolion yng Nghymru i fanteisio ar gyllid ychwanegol ar gyfer ymchwil ac arloesedd.
Bydd Campws Arloesedd Caerdydd yn ein helpu i fanteisio ar y cyfleoedd hyn. Bydd yn gartref i Sefydliad Catalysis Caerdydd, y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, a SPARK, parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd – a Chanolfan Arloesedd ar gyfer sgîl-fanteision a busnesau newydd myfyrwyr. Bydd y blog yn adlewyrchu ei lwyddiant.
Nid rhywbeth cysylltiedig â diwydiant yn unig yw arloesedd. Mae’r celfyddydau a’r dyniaethau yn chwarae rôl allweddol. Mae arbenigedd yn y gwyddorau cymdeithasol yn helpu i ddylunio a threialu polisïau sy’n ein gwneud yn fwy diogel ac yn iachach. Mae ein rhwydwaith Caerdydd Creadigol yn cefnogi economi greadigol y ddinas, ac mae Ysgol Fusnes Caerdydd yn helpu i fynd i’r afael â heriau mawr cymdeithas.
Mae gwaith adeiladu yn dechrau yn Heol Maendy yn yr wythnosau i ddod, a bydd y blog yn tynnu sylw at waith Bouygues UK wrth i’r adeiladau ddatblygu.
Er bod hyn i gyd yn newyddion i’w groesawu, mae’n werth cofio bod arloesedd yn ein gwaed. Rydym yn adeiladu ar draddodiad cyfoethog o arloesedd sy’n dyddio’n ôl i sefydlu’r Brifysgol yn 1883.
Mae datblygiadau arloesol Caerdydd yn rhychwantu sectorau a disgyblaethau: o Tudor Thomas, a wnaeth waith arloesol ar impio corneau yn 1916, i ddatgelu genynnau newydd sy’n gysylltiedig â chlefyd Alzheimer yn 2009.
Mae ein gorffennol yn ategu ein hymdeimlad o genhadaeth ddinesig. Arweiniodd hynny ni i sefydlu rhwydwaith busnes ac arloesedd prifysgol dros ddau ddegawd yn ôl, gan ddod ag arianwyr a gwneuthurwyr at ei gilydd i ddatblygu sgîl-fanteision, busnesau newydd a rhaglenni trosglwyddo gwybodaeth sy’n sicrhau bod economi Cymru yn tyfu.
Yn ei ragair, nododd yr Athro Graeme Reid fod cyfleoedd i roi mwy o amlygrwydd i ymchwil ac arloesedd yn naratif cenedlaethol Cymru
Rwy’n gobeithio bod y blog hwn yn cyfrannu at atgyfnerthu ein hanes arloesol, ac yn talu teyrnged i waith diflino ymchwilwyr, staff a myfyrwyr.
Ac rwy’n gobeithio y byddwch chi’n cyfrannu at y sylwebaeth a’r erthyglau, ac yn eu mwynhau, yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.
Yr Athro Colin Riordan
Llywydd ac Is-Ganghellor
Prifysgol Caerdydd