Skip to main content

International Exchange

Québec: Technoleg a Chyfryngau Cymdeithasol

23 January 2017

Felly, dyma gynnig cyntaf ar flogio…a’r teitl…technoleg a chyfryngau cymdeithasol. Gyda llaw, dwi yn Québec, Canada ar fy mlwyddyn dramor yn dysgu mewn ysgol uwchradd, ac ydy, mae hi’n oer iawn iawn yma!!

Ta waeth, yn ôl at y pwnc dan sylw. Nid oes fawr ddim yn wahanol o ran technoleg a chyfryngau cymdeithasol. Mae fy nisgyblion yn hoffi’r hyn y mae fy mrawd a’m chwaer yn eu hoffi o ran cyfryngau cymdeithasol. Ond, defnyddir Facebook yn wahanol…

I ddechrau, y mae PAWB ar Facebook. Yn ail, y mae’n cael ei ddefnyddio fel modd o ddod o hyn i co-voiturage (cael lift gan bobl sy’n teithio i’r un cyfeiriad â chi). Rhaid cyfaddef, dwi wedi byw ar facebook yn ddyddiol ers misoedd er mwyn dod o hyd i lift i fynd i lefydd gan nad oes gen i gar. Y mae hyn oherwydd nad oes fawr ddim trafnidiaeth gyhoeddus. Yn syml, rhaid dod o hyd i lift neu brynu car!

Ar wahân i’r busnes car, mae iphones  a Netflix a phopeth felly yn cael eu defnyddio yma fel ag y’i defnyddir adref.  I brofi hyn, defnyddiaf fy chwaer fel enghraifft o rywun sy’n hoff iawn o’r Youtuber Zoella. Pan ofynnais i wrth fy nisgyblion a oeddent yn adnabod Zoella, cododd bob plentyn ei law. Er eu bod nhw’n Ffrangeg eu hiaith, maent hwythau yn hoff o Zoella a’r byd You Tube! Tip bach ichi, os ydych awydd gwrando ar Youtuber québécois, y mae Emma Verde reit dda!

Felly, mi ddowch chi o hyd i bopeth ar Facebook wrth wylio Netflix ar eich ipad wrth fentro i oerfel Québec…

 


Comments

1 comment
  1. Elen Davies

    Hyfryd darllen dy flog Emily Mae Québec yn home from home ond on oerach! Co-voiturage via facebook yn wych!

Comments are closed.