Skip to main content

International Exchange

Québec: Bwyd a Diod

23 January 2017

Yn gyffredinol, tebyg iawn yw’r bwyd yn Québec i’r bwyd a gawn ni adref yng Nghymru, bwyd traddodiadol tatws a chig i fwyd tramor sushi a chyri. Ond mae yna tri pheth  sy’n angenrheidiol, hanfodol, hynod bwysig sôn amdanynt: maple syrup, Tim Hortons a poutine.

 

Maple Syrup

Mae yna ddiwydiant enfawr maple yma yn Québec. O fwstard maple i hufen ia maple, mae modd canfod popeth â’r blas maple yn gysylltiedig ag o. At hynny, do, dwi wedi disgyn mewn cariad efo’r peth. Mi fyddaf yn defnyddio maple syrup efo popeth, o’i ddefnyddio i rostio llysiau yn y ffwrn i’w roi yn fy cereal bob bore, mae o yn ANHYGOEL!!

Stori ddigrif: ychydig cyn ‘Dolig mi wnes i roi tro ar bobi cacenni cri (dydw i ddim yn un am goginio fel mae hi), ac achos fy mod i’n benderfynol o fod yn québécois, mi ddefnyddiais i fenyn maple. Syniad da ar y  pryd, ond pedair awr yn ddiweddarach ar bnawn Sul, a disaster! Dydi menyn maple ddim fel menyn cyffredin, mae’n debycach i garamel na menyn gludiog. Wel, ‘roedd y plant yn eu dagrau yn chwerthin yr wythnos honno pan oedden nhw’n trio’r cacenni cri oedd yn friwsion i gyd oherwydd y camgymeriad. Felly blantos, er mor dda yw menyn maple, peidiwch â’i ddefnyddio i goginio, y mae llawer gwell ar dost!!

 

Tim Hortons

Tebyg i Krispy Kreme yw Tim Hortons: gwerthu donuts yw’r pwrpas mwyaf! Dydw i ddim yn un am donuts a bod yn onest, OND….wedi dod yma dwi’n eu caru. Mae bob math o ddonuts i’w cael, ond fy ffefryn yw Boston à  l’érable (donut efo cwstard ynddo ac icing maple syrup).  Wrth gwrs, efo’r donut, fi fyddaf yn cael vanille française sef coffi melys melys sydd mooooor neis!! Ta waeth, peth arall sydd ganddynt yw Tim Bits, sef donuts bach bach, ac wooooow maen nhw’n flasus.

Stori ddigrif arall: Mi oeddwn i’n benderfynol o fynd â’r Tim Bits adref dros ‘Dolig i ddweud wrth y plant yn fy ysgol fy mod i wedi rhannu’r Tim Bits gyda’m teulu…OND, wedi hedfan o Montréal i Lundain ddiwrnod cyn ‘Dolig ac wedi teithio adref i Ogledd Cymru, ‘roedd yr hen Tim Bits wedi mynd yn ddrwg. Ta waeth, mi wnes i gacen o ryw fath ohonynt, ac  mi gawson ni selfie teuluol er mwy profi, er eu bod nhw braidd yn uch a fi erbyn hynny, eu bod nhw wedi ei gwneud hi dros y môr i Gymru fach!

15698265_10211831578523927_5996140312021138861_n

Ychydig o newyddion da…

http://www.bbc.com/news/world-us-canada-37412123

http://www.bbc.co.uk/newsbeat/article/37242506/why-you-might-see-tim-hortons-in-your-town-clue-doughnut-holes

 

Poutine

Dyma’r peth cyntaf i’r plant sôn amdano pan gyrhaeddais i: poutine! ‘Roeddwn i’n meddwl ei fod yn rhywbeth hollol wahanol i ddechrau wrth glywed yr enw, ond syml iawn yw ei gyfansoddiad. Yn wir, sglodion, grefi a chaws (cheese curds mewn geiriau eraill) yw poutine: rhywbeth a geir mewn siôp fish and chips adref. Ond mae’n rhywbeth traddodiadol iawn iawn yma yn Québec sy’n golygu waeth pa mor ffansi y bwyty, gellir gofyn am poutine. Rhaid cyfaddef, mae wirioneddol yn dda pan ydych chi’n llwgu ar ôl bod yn skiio drwy’r dydd!!

Felly, yn blwmp ac yn blaen, rhaid cofio am maple syrup, Tim Hortons a poutine wrth fentro i oerfel Québec….

 


Comments

1 comment
  1. Elen Davies

    Wyt ti’n atgoffa I o Elf – Y ffilm gyda’r holl maple syrup! Dydw I ddim yn ffansio’r Poutine!

Comments are closed.