Skip to main content

ESRC, Yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant

Beth sydd ei angen i wneud economïau ail-law yn fwy cynaliadwy, hygyrch a chysylltiedig yn gymdeithasol?

28 Medi 2026

 

Wrth i ‘Medi Ail-law’ annog pobl i feddwl yn wahanol am yr hyn maen nhw’n ei brynu, ei ailddefnyddio a’i basio ymlaen, mae ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn edrych ar y rhwydweithiau a’r arferion ehangach sy’n cynnal economïau ail-law.

Gyda chefnogaeth Cronfa Ddilynol Cyfrif Cyflymu Effaith (IAA) Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) Prifysgol Caerdydd, bu Dr Alida Payson o’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn gweithio gydag ymchwilwyr, ymarferwyr a sefydliadau cymunedol i feithrin cysylltiadau, rhannu dysgu a datblygu adnoddau hygyrch i bobl sy’n gweithio mewn mannau ail-law.

Caiff mannau ail-law fel siopau elusen, prosiectau ailddefnyddio, rhwydweithiau atgyweirio a chyfnewidfeydd cymunedol yn aml eu hystyried yn fannau cynaliadwy sy’n lleihau gwastraff, gan eu bod yn ymestyn oes ddefnyddiol ystod eang o wrthrychau a deunyddiau.

Roedd y prosiect yn canolbwyntio ar y rôl ehangach y gall y mannau hyn ei chwarae ym mywyd y gymuned drwy ddod â staff, gwirfoddolwyr a chyfranogwyr eraill ynghyd i rannu gwaith a chyfeillgarwch. Yn benodol, roedd yn edrych sut y gall mannau ail-law ddod yn fwy hygyrch, yn fwy cynhwysol i bobl Anabl, ac yn fwy abl i gefnogi a rhannu gwybodaeth, gofal a chyswllt cymdeithasol.

Ehangodd y tîm, a oedd yn cynnwys Dr Violet Broadhead, Dr Rhiannon Craft a Lizzie Harrison, rwydwaith o ymchwilwyr, ymarferwyr a llunwyr polisi sy’n gweithio mewn economïau ail-law. Datblygwyd partneriaethau newydd gyda sefydliadau sy’n ymwneud ag ailgylchu pren, ailddefnyddio paent, cyfnewid dillad, mynediad i bobl anabl, manwerthu elusennol, ac atgyweirio cymunedol a chasgliadau treftadaeth.

O gyfweliadau ac ymweliadau â safleoedd, crëwyd dau becyn cymorth mewn iaith glir yn canolbwyntio ar hygyrchedd ac atgyweirio cymdeithasol.

Rhagor o wybodaeth am bartneriaid y pecyn cymorth ar Atgyweirio Cymdeithasol i Gynnal Economïau Ail-law:

Rhagor o wybodaeth am bartneriaid y pecyn cymorth ar Hyrwyddo hygyrchedd a thegwch i bobl anabl mewn mannau ail-law:

Buom yn gweithio hefyd gyda’r sefydliad polisi Fashion Roundtable (www.fashionroundtable.co.uk), ac ymuno â thri digwyddiad ymgysylltu cyhoeddus i feithrin dealltwriaeth o safleoedd a materion ail-law.

Cefnogodd cyllid IAA y tîm i feithrin perthnasoedd, rhannu ymchwil a throi dysgu gan sefydliadau ail-law yn adnoddau ymarferol. Gyda’r cyllid, roedd modd i ni fynd i’r safleoedd lle’r oedd y gwaith pwysig hwn yn digwydd a siarad yn uniongyrchol â’r bobl sy’n gwneud i’r cyfan ddigwydd. Helpodd y cyllid ymchwilwyr gyrfa gynnar i gysylltu eu gwaith â chynulleidfaoedd cyhoeddus ac ymarferwyr, gan greu deunyddiau a all gefnogi economïau ail-law mwy meddylgar, hygyrch a chymdeithasol-gysylltiedig. Yn olaf, galluogodd cyllid IAA ni i dalu cyfranwyr yn deg am eu hamser.

Rhagor o wybodaeth

Mae’r prosiect wedi cynhyrchu pecynnau cymorth newydd ar hygyrchedd ac atgyweirio cymdeithasol, a gaiff eu cyhoeddi trwy flog Secondhand Cultures. Bydd y tîm yn parhau i fonitro adborth, olrhain lawrlwythiadau a gweithio gyda phartneriaid i ddeall sut mae’r adnoddau’n cael eu defnyddio’n ymarferol.

Roedd erthygl gysylltiedig yn The Conversation, a ysgrifennwyd gan aelod o dîm y prosiect Violet Broadhead, yn trafod pwysau a roddir ar siopau elusen yn sgil rhoddion dillad digroeso ac fe’i darllenwyd dros 134,000 o weithiau.

Expecting charity shops to recycle your unwanted clothes is creating a rubbish pile – here’s how to help to avoid that