A ydych yn gyffrous am Spot-a-bee?

Posted on 27 Gorffennaf 2020 by Heath Jeffries

Y tro nesaf y byddwch yn yr ardd, neu’n mynd â’r ci am dro, cadwch lygad am wenyn. Os byddwch yn cymryd llun ar eich ffôn o’r planhigion y maen nhw’n hedfan o’u cwmpas, ac yn eu rhannu ar Spot-a-bee, byddwch yn helpu gwyddonwyr wrth iddynt chwilio am wrthfiotigau newydd. Yma, mae’r Athro Les Baillie,
Read more


Symud o werthuso i ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus

Posted on 22 Gorffennaf 2020 by Heath Jeffries

Yn 2014, mewn adroddiad i Swyddfa Gabinet y DU, cyflwynodd Yr Athro Jonathan Shepherd gysyniad yr ecosystem dystiolaeth. Am y tro cyntaf, gwnaeth hyn integreiddio’r prosesau o gynhyrchu a chydblethu tystiolaeth, creu canllawiau o’r cydblethiad hyn, a gweithredu’r canllawiau hyn yn y gwasanaethau cyhoeddus. Yn y cyfnod ar ôl COVID pan mae coffrau a gwasanaethau
Read more



Pennaeth Britishvolt yn cefnogi dyfodol glanach

Posted on 7 Gorffennaf 2020 by Peter Rawlinson

Mae cynfyfyriwr o Ysgol Busnes Caerdydd, Orral Nadjari (MBA, 2008),  eisiau adeiladu ffatri werdd enfawr sy’n cynhyrchu batris cyntaf a mwyaf y DU ym Mro Morgannwg Yma, mae Prif Swyddog Gweithredol a sefydlydd Britishvolt yn dweud wrth blog y Cartref Arloesedd pam ei fod o’r farn bod her COVID-19 ar hyn o bryd yn cynnig mwy o gyfleoedd yn y dyfodol i gerbydau a bwerir gan fatris.  Dechreuodd taith Mr. Nadjari tuag at lwyddiant ym Mhrifysgol Caerdydd.  Cwblhaodd MBA yn Ysgol Busnes Caerdydd ar ôl astudio BSc mewn Astudiaethau Busnes a Japaneeg.  “Mae fy ngyrfa’n seiliedig ar fy amser ym Mhrifysgol,” meddai Mr. Nadjari.  “Cafodd ei ysgogi gan weledigaeth a dyheadau entrepreneuraidd, ac mae’n bleser gennyf eu gwireddu o’r diwedd gyda Britishvolt. Rwyf wrth fy modd â’r gobaith o ddychwelyd i adeiladu ffatri enfawr bwysig yn agos iawn at y lle y treuliais saith mlynedd orau fy mywyd.”  Mae Britishvolt yn gobeithio creu hyd at 4,000 o swyddi os yw’n cael adeiladu ei ffatri enfawr yn Sain Tathan. Y dref – lle mae Aston Martin yn gwneud ceir trydanol – yw’r ‘opsiwn a ffefrir’ gan Britishvolt ar hyn o bryd.   Cred Mr Nadjari fod Sain Tathan yn “lleoliad da iawn” ar gyfer y ffatri enfawr, a allai ddod â thon gychwynnol o fuddsoddiad gwerth £1.2bn i dde Cymru.   Mae’r ffatri, sy’n 1km o hyd, 250m o led a 25m o uchder, yn ‘ymrwymiad enfawr’ – nid oes modd gosod rhywbeth mor fawr â hynny yn unrhyw le.”  Mae Mr. Nadjari, sydd ar hyn o bryd mewn trafodaethau am y safle gyda Llywodraeth Cymru, o’r farn y bydd y pandemig yn creu marchnadoedd newydd ar gyfer technolegau glanach a gwyrddach fel batris ïon lithiwm, y rhan allweddol mewn ceir trydan yn ogystal â chynhyrchion storio ynni.  “Yn fy marn i, mae COVID-19 wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cadwyni cyflenwi lleol, y gellir eu gweld ar draws sawl sector a diwydiant,” dywedodd Mr. Nadjari wrth blog y
Read more


Dathlu sbarc | spark – buddsoddi mewn arloesedd

Posted on 7 Gorffennaf 2020 by Peter Rawlinson

Mae canolfan ar gyfer cwmnïau newydd, cwmnïau deilliannol, busnesau myfyrwyr a mentrau cymdeithasol wedi cyrraedd ei phwynt adeiladu uchaf. Bydd sbarc | spark yn helpu pobl fentrus i gysylltu, cydweithio a chreu.  Yma, mae Dr Nick Bourne o Brifysgol Caerdydd yn amlinellu sut gall yr hyb helpu i lywio gwaith adfer ar ôl COVID-19.    “Yn syml, bydd sbarc l spark yn rhoi syniadau ar waith.
Read more



Alpacr yn codi $200k yn Silicon Valley

Posted on 29 Mehefin 2020 by Peter Rawlinson

Mae busnes newydd myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Alpacr – y rhwydwaith cymdeithasol ar gyfer pobl sy’n hoff o deithio ac antur – wedi datblygu llawer ers iddo gael ei lansio ddwy flynedd yn ôl. Yma, mae Dan Swygart (BSc Econ), Prif Weithredwr ac un o raddedigion Caerdydd, yn esbonio taith Alpacr o Gymru i Silicon Valley
Read more



Llwyddiant a chydnabyddiaeth i Smallspark o Gaerdydd

Posted on 12 Mai 2020 by Peter Rawlinson

Mae Systemau Gofod Smallspark wedi cofrestru ar gyfer y rhwydwaith cefnogi busnesau cenedlaethol, SPRINT, fydd yn caniatáu mynediad at gyllid ar gyfer prosiect mawr sy’n ceisio defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) i wella a datblygu perfformiad aerostrwythurau a systemau gyriant. Ariennir y prosiect gan grant o £100,000 gan y rhaglen SPRINT (Rhwydwaith Ymchwil Gofod ac Arloesedd
Read more