Skip to main content

FfrwdYsgol Haf

Profiad dysgu ysbrydoledig: cipolwg ar Ysgol Haf Wolfson

16 Mawrth 2026

Mae Ayşim Alpman yn feddyg arbenigol mewn Seiciatreg Plant a Phobl Ifanc yn Istanbwl. Yn y blog hwn, mae Ayşim yn rhannu ei phrofiad o fynd i Ysgol Haf Canolfan Wolfson 2025 a’i hysbrydolodd i roi ei syniadau ar waith.

Yr haf diwethaf, cefais gyfle i fynd i Ysgol Haf Wolfson, rhaglen a welais i wrth sgrolio ar Instagram. Trodd chwilfrydedd syml i ddechrau yn brofiad dysgu gwerthfawr.

Roedd y rhaglen tri diwrnod yn ymdrochol ac yn ddiddorol. Clywais gan gyflwynwyr o wahanol gefndiroedd proffesiynol a rannodd eu harbenigedd ar ymchwil iechyd meddwl plant. A minnau’n feddyg preswyl mewn Seiciatreg Plant a Phobl Ifanc, rwy’n ymwybodol nad oes modd i un proffesiwn yn unig reoli gofal iechyd meddwl. Mae angen nifer o randdeiliaid – seiciatryddion, seicolegwyr, gweithwyr cymdeithasol, addysgwyr, llunwyr polisïau, a theuluoedd. Gwnaeth dysgu am sut mae pob un yn cyfrannu at les plant fy helpu i werthfawrogi pwysigrwydd gofal rhynddisgyblaethol yn fwy.

Y tu hwnt i’r darlithoedd, cynigiodd yr ysgol haf gyfleoedd anffurfiol i gysylltu. Mwynheais y sesiynau coffi rhithwir yn benodol, gan fy mod i wedi cael cyfle i gwrdd â chyfoedion ledled y byd, rhannu profiadau, a chlywed am wahanol ddulliau o ymdrin ag iechyd meddwl.

Gwnaeth y sgyrsiau hyn ehangu fy rhwydwaith a’m hannog i feddwl am agweddau ar ymarfer ac ymchwil nad oeddwn i wedi’u hystyried o’r blaen.

Cefais fy nghyflwyno i weithgareddau academaidd ehangach Canolfan Wolfson drwy’r rhaglen yn ogystal. Dechreuais edrych ar adnoddau a darlithoedd eraill ar ôl y sesiynau, a wnaeth fy annog i barhau i ddysgu y tu hwnt i’r ysgol haf ei hun. Cefais fy atgoffa bod modd i addysg ddechrau mewn ffyrdd annisgwyl, o neges syml ar y cyfryngau cymdeithasol hyd yn oed.

Yn bwysicaf oll, ar ôl cymryd rhan yn y rhaglen tri diwrnod hwn, teimlais fy mod yn cael fy annog i ddatblygu ac arwain fy ymchwil fy hun. Rhoddodd yr wybodaeth a gefais, ynghyd â’r awyrgylch cefnogol a’r cysylltiadau newydd y cymhelliant i mi gymryd camau pellach yn fy ngyrfa.

I mi, nid cwrs ar-lein yn unig oedd hwn, ond cyfle i ddysgu, myfyrio a chysylltu ag eraill.

Dangosodd i mi werth cydweithio, manteision deialog fyd-eang, a sut gall gwybodaeth a rennir ddylanwadu ar ddatblygiad gweithwyr proffesiynol ifanc.

Cysylltwch â mi ar LinkedIn: www.linkedin.com/in/ayşim-alpman-9809a1384

 

Diolch yn fawr iawn i Ayşim am rannu ei phrofiad gyda ni.

Ymunwch â ni yn 2026:

Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â ni ar gyfer Ysgol Haf Wolfson 2026? Cewch ymgeisio nawr, a bydden ni wrth ein boddau’n clywed gennych.

Cewch gofrestru i fod ar ein rhestr bostio i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr holl gyfleoedd mae’r Ganolfan yn eu cynnig, a chofiwch gadw llygad ar ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol i gael gwybod rhagor am #WolfsonSummer26