Skip to main content

Lleisiau Ieuenctid

Mae Cyfranogiad y Cyhoedd yn mynd y ddwy ffordd!

18 Ebrill 2023

Helo, Nath wyf fi, un o aelodau’r grŵp ymgynghorol ieuenctid (YAG) yng Nghanolfan Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Wolfson. Ym mis Medi, fe wnes i gwblhau fy nhraethawd hir ar gyfer MSc mewn Marchnata Strategol, camp y ces i help i’w chyflawni gan arbenigwyr gwych y Ganolfan! Yn y blog hwn, rwy’n mynd i ddefnyddio eu cyfranogiad fel astudiaeth achos, i dystio i sut mae Canolfan Wolfson yn mynd uwchlaw a thu hwnt i gefnogi eu haelodau YAG. 

Efallai na fydd yn sioc i chi y gall fod tipyn o fwlch weithiau rhwng ymchwil ddylanwadol a’r rhai sydd angen ei defnyddio. Er bod y bwlch hwn yn hysbys, gall fod yn eithaf hawdd treulio amser yn ‘pysgota yn y pwll anghywir’. Felly, roeddwn i eisiau archwilio hyn o safbwynt marchnata a darganfod beth gellid ei wneud i fynd i’r afael ag ef. 

A young man and woman on stage in front of a large screen which reads Donate your mind to research

Wrth i’r cyfryngau cymdeithasol ddod yn offeryn cynyddol flaenllaw at ddibenion lledaenu, roeddwn i’n meddwl tybed a fyddai fframwaith ar gyfer lledaenu’n effeithiol ar y cyfryngau cymdeithasol o unrhyw ddefnydd i academyddion i’w helpu i ddod o hyd i’w rhanddeiliaid allweddol ar-lein. 

A phwy well i’w holi na Dr Olga Eyre, cymrawd ymchwil clinigol yng Nghanolfan Wolfson, a Becs Parker, y Swyddog Cyfathrebu ar y pryd. 

Roedd y ddwy ymhlith grŵp o academyddion, arweinwyr cyfathrebu, arweinwyr gwasanaeth ac aelodau o’r cyhoedd oedd i gyd yn barod i gynnig eu harbenigedd i’n symud tuag at fframwaith ar gyfer lledaenu ymchwil iselder ar y cyfryngau cymdeithasol. Buon nhw mor garedig â chymryd rhan mewn cyfweliadau lled-strwythuredig er mwyn i mi allu eu holi ar eu dulliau presennol, nodi beth oedd y rhwystrau allweddol i ledaenu’n effeithiol ac yna plymio gyda’n gilydd i ganfod rhai atebion posibl. 

Roedd yn wych cael y ddau ohonynt yn y grŵp sampl, nid lleiaf oherwydd ei bod yn hynod ddiddorol clywed am sut mae pethau’n gweithio yn y Ganolfan, ond hefyd oherwydd imi gael defnyddio ymennydd dau arbenigwr, y bu eu mewnwelediad yn help mawr i’r prosiect (yr oeddwn i’n ddiolchgar iawn i dderbyn gradd ganmoliaethus iawn amdano). Hefyd, dwi’n siŵr na fyddai rhai o’u sylwadau bachog allan o le ar hysbysfwrdd! 

 Becs Parker Dywedodd Becs Parker, Swyddog Cyfathrebu Canolfan Wolfson: “Un o brif uchafbwyntiau fy nghyfnod yn gweithio yng Nghanolfan Wolfson oedd y cyfle i gydweithio ag Ymgynghorwyr Ieuenctid gwych y ganolfan.  

“Roeddwn yn falch iawn o drafod y pwnc pwysig gyda Nathan ar gyfer ei draethawd hir am y rôl y gall cyfryngau cymdeithasol ei chwarae wrth rannu canfyddiadau ymchwil. Rwy’n siŵr y bydd ei waith parhaus yn cael effaith fawr ym maes lledaenu ymchwil ar iechyd meddwl yn y blynyddoedd i ddod.” 

Dr Olga Eyre Dywedodd Dr Olga Eyre: “Roedd yn wych cael bod yn rhan o’r gwaith yma- fe wnes i fwynhau trafod lledaenu ymchwil am iselder ar y cyfryngau cymdeithasol gyda Nathan. Mae Nathan a gweddill y grŵp ymgynghorol ieuenctid wedi rhoi cymaint o fewnbwn gwerthfawr i brosiectau yr wyf yn ymwneud â nhw yng Nghanolfan Wolfson, felly roedd yn wych mod i’n gallu cyfrannu at y gwaith mae Nathan yn ei wneud ar y pwnc hwn, sydd mor berthnasol.” 

 

Mae cael mynediad at bobl allweddol yng Nghanolfan Wolfson yn un yn unig o fanteision niferus fynghyfranogiad fel aelod YAG. Mae’r ffaith eu bod wedi camu i’r adwy i helpu er gwaethaf eu llwyth gwaith yn wir yn dangos eu hymrwymiad i gyfranogiad a chynnwys ieuenctid. Roedden nhw wastad yn dweud wrthyn ni, os oedd angen unrhyw beth arnon ni, nad oedd ond angen i ni ofyn, ac mae’n hawdd cymryd yn ganiataol bod hyn yn rhywbeth mae pawb yn ei ddweud, ond mae fy nhraethawd yn profi eu bod nhw’n wir ei olygu. 

I’r rhai sydd â diddordeb, teitl fy nhraethawd hir MSc oedd ‘Towards a Framework for the Dissemination

of Depression Research via Social Media’ a daeth nifer o themâu diddorol i’r amlwg. Er enghraifft, canfuwyd y byddai fframwaith yn gwella effeithiolrwydd lledaenu ymchwil am iselder ar y cyfryngau cymdeithasol ac y byddai’n cael ei groesawu gan arbenigwyr yn y byd academaidd.  

Byddai’n rhaid i fframwaith llwyddiannus fynd i’r afael â rhwystrau bylchau arbenigedd, ansicrwydd mesuriadau, diffyg hyder academaidd a dealltwriaeth gyfyngedig o ddewisiadau rhanddeiliaid yn ogystal â chyfyngiadau o ran adnoddau a chapasiti. Felly, er bod argymhellion wedi’u darparu ar gyfer y fframwaith, y prif ganlyniad oedd y gall academyddion ystyried ymgysylltu â gweithwyr marchnata proffesiynol o ddechrau prosiect ymchwil, gan fod llawer o’u cymwyseddau craidd yn cwmpasu’r meysydd lle gall fod diffygion yn y byd academaidd weithiau. 

Serch hynny, fyddai gan y prosiect ddim canlyniadau petawn i heb gael mynediad mor wych at arbenigwyr allweddol yn y maes, felly hoffwn ddiolch i Ganolfan Wolfson, Becs, Olga a phawb arall fu’n cymryd rhan am eu brwdfrydedd a’u parodrwydd i helpu.  

Dysgu mwy

Ymuno â Grŵp Cynghori Pobl Ifanc Canolfan Wolfson

Dilynwch ni ar Twitter, Facebook ac Instagram

Darllenwch y newyddion diweddaraf o Ganolfan Wolfson