Lechyd meddwl ieuenctid a’r cyfryngau cymdeithasol
15 Hydref 2024Yn y blog hwn, rydyn ni’n myfyrio ar weminar Lleisiau Ieuenctid ar y Cyfryngau Cymdeithasol, a gynhaliwyd ar 19 Medi 2024 ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl Ieuenctid. Daeth y digwyddiad â phobl ifanc ac ymchwilwyr ynghyd i archwilio sut mae’r cyfryngau cymdeithasol yn effeithio ar iechyd meddwl—y pethau cadarnhaol a’r heriau fel ei gilydd.
Gyda mewnwelediadau gan y Grŵp Cynghori Ieuenctid (YAG) ac ymchwilwyr o Ganolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, darparodd y weminar lwyfan agored i drafod y pynciau pwysig hyn.
Byddwn ni hefyd yn ateb rhai o’r cwestiynau nad oedd gyda ni amser i’w hateb yn ystod y sesiwn fyw ac yn rhannu myfyrdodau gan ein haelodau YAG, Mo ac Alexandra, a wnaeth y digwyddiad mor arbennig.
Cymryd rhan yn y weminar
Mo: Roedd y weminar yn un o fy mhrofiadau cyntaf o gymryd rhan mewn agwedd o’r Ganolfan y tu allan i’n sesiynau misol, ond dylwn i fod wedi cymryd y naid honno’n gynharach! A bod yn onest, roeddwn i’n nerfus iawn am siarad â phobl nad oeddwn i’n eu hadnabod a’r ffaith ei fod yn cael ei ffrydio’n fyw, ond doedd dim angen poeni; roedd yn debyg iawn i ddiwyg ein sesiynau misol arferol. Fy hoff ran o’r weminar oedd y ffaith bod lle i archwilio pwnc mor eang, a gweld pawb yn rhyngweithio ag adran benodol ohoni a oedd o ddiddordeb iddyn nhw a/neu’n gysylltiedig â phrofiad personol roedden nhw wedi’i gael.
Rwy’ mor falch fy mod wedi cymryd rhan, gan fy mod i’n teimlo ein bod ni fel grŵp wedi dod at ein gilydd i ddarparu ystod eang o safbwyntiau a phersbectifau ar iechyd meddwl ieuenctid a’r cyfryngau cymdeithasol, sef union nod cynnal y weminar yn y bôn. Ar nodyn personol, roedd cymryd rhan yn y weminar yn caniatáu i fi godi mwy o ymwybyddiaeth am ddiwrnod iechyd meddwl ieuenctid a thynnu sylw at y camau rydyn ni wedi’u cymryd i symud ymlaen ond hefyd at y camau nesaf posibl i barhau i helpu pobl ifanc.
Dysgu sgiliau newydd
Alexandra: Fel unrhyw beth yn gysylltiedig â Chanolfan Wolfson, ces i amser gwych yn trafod ystod eang o safbwyntiau gydag ymchwilwyr a phobl ifanc eraill. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i wella fy nghyflogadwyedd trwy gael profiad o gynnal gweminarau ac ysgrifennu blogiau. Diolch i bawb a ddaeth draw ac a gynigiodd gwestiynau mor ddiddorol.
Mae’n wych gweld bod ein haelodau YAG wedi mwynhau’r weminar ac yn teimlo bod y profiad mor werth chweil. Roedd eu cyfranogiad nid yn unig wedi helpu i lunio’r digwyddiad ond tynnodd sylw hefyd at werth lleisiau pobl ifanc mewn trafodaethau am iechyd meddwl. Rydyn ni’n gyffrous am y potensial i weld mwy o gydweithio fel hyn yn y dyfodol ac yn edrych ymlaen at y llu o gyfleoedd eraill lle gallwn ni gydweithio i greu newid ystyrlon.
Ateb eich cwestiynau
Nawr, wrth i ni fynd ati i ateb rhai o’r cwestiynau nad oedd gyda ni amser i’w hateb yn ystod y weminar, mae Mo ac Alexandra yn rhannu eu meddyliau a’u mewnwelediadau ar y pynciau pwysig hyn.
Sut gall llwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol gael eu defnyddio i hyrwyddo ymwybyddiaeth a chefnogaeth iechyd meddwl?
Mo: Rwy’n credu mai’r brif ffordd y gall y cyfryngau cymdeithasol hyrwyddo ymwybyddiaeth iechyd meddwl yw trwy ymdrechu i sicrhau cynnwys dilys. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn gweithredu ar sail yr awydd i gael cysylltiad dilys ac i bobl deimlo eu bod yn cael eu gweld. Mae gormod o’r cynnwys rydyn ni’n ei weld yn methu â chynrychioli realiti ond rydyn ni wedi’n hamgylchynu cymaint ganddo fel na allwn ni weld y gwahaniaeth weithiau rhwng gwirionedd ac anwiredd.
Felly, trwy ddechrau o’r dechrau a chreu cynnwys cynrychioliadol a chyfannol dilys, rwy’n credu y bydd pobl ifanc yn teimlo’n fwy bodlon eu byd a’u bod yn cael eu gweld. Rhaid i ran o’r dilysrwydd hwn gynnwys rhoi gwelededd i brofiadau bywyd.
Er ein bod ni i gyd yn unigryw a bod taith iechyd meddwl pob person ifanc yn bersonol iawn, rwy’n gwybod o fy mhrofiad i bod cynnwys sy’n adlewyrchu realiti ac sy’n cael ei greu gan bobl mewn sefyllfa debyg yn gwneud i mi deimlo fy mod i’n cael fy ngweld a’m clywed.
O ystyried bod y cyfryngau cymdeithasol yn eich amlygu i wahanol bobl o bob cwr o’r byd a’u diwylliannau, a’u ffyrdd o feddwl a’u harferion, ydych chi’n credu bod y cyfryngau cymdeithasol yn cynyddu lefel eich ymwybyddiaeth fyd-eang? Ydych chi’n meddwl bod hyn yn gadarnhaol neu’n negyddol?
Mo: Rwy’n credu bod y cwestiwn a yw’r cyfryngau cymdeithasol yn cyfrannu at ymwybyddiaeth fyd-eang yn gallu dibynnu ar sut rydych chi’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. I fi fel myfyriwr ieithoedd tramor, rwy’n aml yn cael cynnwys mewn iaith arall neu gynnwys sy’n seiliedig ar agwedd ar wleidyddiaeth a diwylliant tramor neu fyd-eang. Yn yr ystyr yma, mae’n gallu bod yn offeryn addysg a chynyddu lefelau ymwybyddiaeth fyd-eang.
Mae fformat gweledol y cyfryngau cymdeithasol yn ei wneud yn ffenestr naturiol iawn i ffyrdd eraill o fyw gan hwyluso cyfnewid diwylliannau a dealltwriaeth. Mae’n gallu bod yn gadarnhaol mewn sawl ffordd, yn enwedig o ystyried ein bod ni’n byw mewn byd sy’n dod yn fwyfwy fewnddrychol.
Ar yr ochr negyddol, fodd bynnag, rwy’n credu ei bod yn deg dweud y gall gyfrannu at ystrydebau am wledydd a chymunedau oherwydd, yn aml, mae’r cynnwys rydyn ni’n dod ar ei draws yn cael ei fyrhau a’i felysu ac felly nid yw bob amser yn gynrychiolaeth wir neu lawn o realiti.
Yn y pen draw, rwy’n credu bod y cyfan yn ymwneud â sut rydych chi’n mynd ati: mae’n gallu bod yn sbardun i ddarganfod neu ymchwilio mwy, ond mae’n rhaid cadw meddwl agored.
Alexandra: Elfen gadarnhaol o’r cyfryngau cymdeithasol yw’r ffaith y gall pobl ddod i gysylltiad â phobl eraill a diwylliannau eraill na fydden nhw efallai’n cwrdd â nhw a rhyngweithio â nhw bob dydd, gan helpu i leihau ‘aralleiddio’.
Ond, mae’r cyfryngau cymdeithasol hefyd yn rhoi golwg 24/7 mewn amser real ar ddigwyddiadau byd-eang cyfredol, yn aml gyda manylder mawr, a gall hyn beri cryn ofid, ynghyd â’r ffaith nad yw’n amlygiad ar wahân fel y newyddion gyda’r nos neu erthygl mewn papur newydd. Mae’n dod yn anodd iawn diffodd eich meddwl rhagddo, oherwydd natur gynhenid y cyfryngau cymdeithasol a’r math o ddigwyddiadau mae pobl yn eu gweld.
Er y gall hyn fod yn negyddol, yn enwedig i bobl ifanc, mae’n rhoi golwg ddatganoledig, fwy democrataidd i faterion cyfoes heb y gogwydd ychwanegol gan y cyfryngau traddodiadol (unwaith eto, mae perygl o ogwydd o hyd oherwydd bod cynnwys yn dod yn uniongyrchol gan bobl ac felly’n cael ei siapio gan eu profiad bywyd, yn ogystal â’r algorithm).
Pa rôl rydych chi’n meddwl mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ei chwarae wrth lywio hunan-barch a delwedd corff pobl ifanc?
Mo: Gan mai sylfaen y cyfryngau cymdeithasol yw cysylltu eraill, pobl yn teimlo’u bod yn cael eu gweld a’u cynrychioli yn y byd, nid yw’n syndod ein bod ni, dros amser, yn teimlo bod yn rhaid i ni fodelu ein hunain ar y cynnwys rydyn ni’n rhyngweithio ag ef.
At ei gilydd, rwy’n credu bod cydnabyddiaeth wedi bod dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf bod yna lawer o agweddau anwir i’r hyn rydyn ni’n ei weld ar-lein gyda dylanwadwyr a chrewyr yn dod yn fwy ymwybodol o’r ffaith bod llawer o bobl ifanc yn enwedig yn ceisio modelu eu hunain ar yr hyn maen nhw’n ei weld.
Fodd bynnag, mae llawer i’w wneud o hyd yn y cyswllt yma, o ran ceisio amddiffyn pobl ifanc nad ydyn nhw’n gallu deall yr anwiredd yn llawn sy’n codi o agweddau ar y cyfryngau cymdeithasol, ond hefyd o ran gwrando ar bobl hŷn sydd wedi cael profiadau ehangach o’r cyfryngau cymdeithasol tra’u bod yn ifanc, a dysgu oddi wrthynt.
Alexandra: Rwy’n credu bod y cyfryngau cymdeithasol wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf o ran delwedd corff sydd ag anhwylder penodol, bwyta a hunan-niweidio. Daw hynny yn sgil lefel uwch o ymwybyddiaeth o’r niwed posibl, yn ogystal â chwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn cyfyngu ar rai hashnodau ac ati.
Fodd bynnag, mae’r ffaith bod pobl ifanc yn gyson yn gweld lluniau gydag onglau clyfar, ystumiau, hidlwyr a golygu yn aml heb ddatgeliad yn gallu ac yn gwneud niwed i ddelwedd y corff (e.e. pendroni pam nad yw’ch gwasg yn edrych fel hynny). Yn ogystal, mae sylwadau gwenwynig a throliau sy’n targedu’r sawl sy’n postio, a gall pobl ifanc fewnoli hynny, yn enwedig os ydy’r sylwadau’n targedu nodwedd sydd hefyd yn nodwedd i’r person ifanc.
Dyw hyn ddim yn dilorni o gwbl ar y gwaith mae aelodau o’r cyfryngau cymdeithasol yn ei wneud i normaleiddio cyrff dynol, eu hamrywiaeth ac unrhyw gyflyrau, ond yn yr un modd mae troliau yn rhan o sylwadau’r postiadau hyn.
Rwy’n rhedeg fforwm iechyd meddwl ieuenctid yn Berkshire. Rydyn ni wedi siarad am addysgu ‘dysgu sut i hyfforddi eich algorithm’ yn y cyfryngau cymdeithasol. Felly mae gennych fwy o reolaeth dros y math o bostiadau rydych chi’n eu gweld. Beth yw barn y bobl ifanc am hyn?
Alexandra: Bydd mwy o ymwybyddiaeth o sut mae algorithmau’n gweithio bob amser yn beth da, ynghyd â’r wybodaeth o sut i gynyddu’r pethau rydych chi am eu gweld a lleihau pethau nad ydych chi am eu gweld (am ba bynnag reswm). Un peth i fod yn ymwybodol ohono yw sut mae gwahanol lwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn gweithio a’r ffaith bod pethau fel strwythur algorithm yn newidiol iawn, ond mae rhoi’r offer i bobl ifanc gael mwy o alluogedd a rheolaeth dros y cyfryngau maen nhw’n eu defnyddio yn gwneud mwy o les nag o ddrwg. Ac un peth i’w rybuddio’n arbennig rhagddo yw’r ffaith y gallai hyn ei gwneud hi’n haws i ddwysáu ymhellach y ‘siambr adleisio’ sy’n bresennol ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mwy o sgyrsiau i ddod
Roedd gweminar Lleisiau Ieuenctid ar y Cyfryngau Cymdeithasol yn llwyddiant ysgubol a ysgogodd sgyrsiau pwysig iawn am rôl y cyfryngau cymdeithasol ym maes iechyd meddwl pobl ifanc.
O rannu straeon personol i gynnig cyngor ymarferol, helpodd pawb a ymunodd i greu darlun o’r heriau a’r cyfleoedd a ddaw yn sgil y cyfryngau cymdeithasol. Dysgon ni fod y cyfryngau cymdeithasol, o’u defnyddio gyda phwyll, yn gallu bod yn offeryn ar gyfer codi ymwybyddiaeth iechyd meddwl a chreu ymdeimlad o gymuned.
Ond mae hefyd yn amlwg bod angen i ni barhau i siarad am y pwysau y gallant eu rhoi ar bobl ifanc, yn enwedig o ran materion fel delwedd y corff a hunan-barch.
Megis dechrau yw digwyddiadau fel hyn, ac rydyn ni’n gyffrous i barhau â’r sgwrs mewn gweminarau yn y dyfodol, gan obeithio y gallwn ysbrydoli mwy o drafodaethau agored a chreu lle i leisiau pobl ifanc gael eu clywed.
Diolch yn fawr iawn i Mo ac Alexandra am eu cyfraniadau i’r blog hwn.
Wnaethoch chi golli’r digwyddiad? Gallwch chi wylio’r recordiad ar ein sianel YouTube.
Cofrestrwch i’n rhestr bostio i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiadau a’r cyfleoedd sydd ar ddod.