Skip to main content

Cwrdd â'r ymchwilydd

Dyddiadur Ymchwilydd: Pa fath o ymchwilydd ydw i?

17 Hydref 2024

Helo, ddarllenwyr hyfryd blog Wolfson,

Fis Mehefin eleni, cynhaliodd Cymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain (BERA) eu hail Gynhadledd Flynyddol i Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa yn Leeds. Yn wahanol i’w prif gynhadledd, lle mae ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa yn cael cyfle i gyflwyno eu hymchwil, nod y digwyddiad hwn yw dathlu eu taith fel ymchwilwyr a myfyrio arni.

Thema’r gynhadledd oedd ‘At Crossroads of Becoming’, a gwahoddwyd ymchwilwyr i gyflwyno eu dehongliad eu hunain o hyn. Roedd gwefan y gynhadledd yn sôn am ‘ddimensiynau ontolegol’ a ‘thrawsnewidiad yr hunan’ mewn perthynas â thema’r gynhadledd. Er nad oedd y rhain yn gysyniadau roeddwn i’n gwybod llawer (os unrhyw beth) amdanyn nhw neu wedi’u hystyried hyd yn hyn yn fy nhaith PhD, roeddwn i’n meddwl y byddai’n yn gyfle da i herio fy hun a rhoi cynnig ar ddigwyddiadau fyddai’n fy herio.

Felly cyflwynais grynodeb ac, er mawr syndod i mi, cefais slot 15 munud i wneud cyflwyniad ar fy nhaith fel ymchwilydd ar ddechrau fy ngyrfa.

Fy nghyflwyniad

Ar gyfer fy nghyflwyniad penderfynais fyfyrio ar fy nhaith broffesiynol hyd yn hyn, a sut rydw i wedi gweithio ar draws y sector addysg mewn tri maes gwahanol:

  • Ymchwil – Ar hyn o bryd rydw i’n fyfyriwr PhD yn fy ail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd yn ymchwilio i rôl ysgolion uwchradd o ran cefnogi iechyd meddwl pobl ifanc niwrowahanol, gyda ffocws penodol ar bobl ifanc yn eu harddegau ag ADHD.
  • Trydydd sector – Cyn dechrau fy PhD, bûm yn gweithio am bum mlynedd mewn sefydliad elusennol yn cynnal prosiect Ymagwedd Ysgol Gyfan at Iechyd Meddwl mewn naw ysgol uwchradd leol yng Nghasnewydd.
  • Addysg – Mae gen i bum mlynedd arall o brofiad yn gweithio mewn ysgolion ledled Cymru a Lloegr fel cynorthwyydd addysgu Anghenion Dysgu Ychwanegol ac athro ysgol uwchradd cymwys ym mhynciau mathemateg a seicoleg.

Ffocws fy nghyflwyniad oedd pontio rhwng pob un o’r meysydd hyn. Yn benodol, roeddwn yn gobeithio rhannu gwersi ym mhob cam proffesiynol sydd wedi fy nghynorthwyo a’m herio wrth i mi bontio i’r cam nesaf, gan orffen gydag amlinelliad o’m hawydd i ddod yn ymchwilydd ar ddechrau gyrfa ym maes addysg. Mae fy nghyflwyniad llawn ar gael ar-lein.

Cyrraedd Leeds

Cyrhaeddodd wythnos y gynhadledd o’r diwedd a neidiais ar y trên i Leeds, dinas nad ydw i erioed wedi bod iddi o’r blaen. Pan gyrhaeddais fy ngwesty cefais fy synnu o’r ochr orau o ddarganfod fy mod wedi archebu gwesty â thema sioeau cerdd yn ddamweiniol, ac y byddwn i’n aros yn yr ystafell Sister Act (un o fy ffefrynnau). Cefais ychydig o amser i fynd am dro o amgylch Leeds a wnaeth fy helpu i deimlo’n llai nerfus ynghylch fy nghyflwyniad. Roeddwn i wrth fy modd â’r nenfydau gwydr addurnedig yn yr hen arcedau siopa, y farchnad enfawr, a’r Gyfnewidfa Rawn hardd yn llawn siopau annibynnol. Gallwch fwrw golwg ar fy nhrydariad i weld rhagor o luniau.

Diwrnod y gynhadledd!

Cyrhaeddodd diwrnod y gynhadledd ac roedd hi’n anodd credu faint o ddewis ac amrywiaeth o gyflwyniadau oedd ar gael. Roedd pawb wedi ystyried thema’r diwrnod mewn cymaint o ffyrdd gwahanol, a dechreuais gwestiynu sut y byddai fy nghyflwyniad i yn ffitio i mewn.

Clywais sôn am hunaniaethau croestoriadol, y cysyniad o anghytuno â’ch hun, myfyrdodau ar ddulliau ymchwil, a bod yn ymchwilydd mewnol. Bu un person hyd yn oed yn trafod ei brofiad o fynd ar daith i ddilysu ei waith ei hun ar ôl i rywun yn disgrifio ei bwnc PhD fel un ‘ciwt’.

Yn ogystal â chynnwys amrywiol y sgyrsiau, yr hyn wnes i ei fwynhau fwyaf am y gynhadledd oedd pa mor agored oedd yr ymchwilwyr eraill. Wrth wrando ar eu profiadau, brwydrau personol, myfyrdodau beirniadol ar fod yn ymchwilwyr, a chwestiynu eu dulliau, dechreuais fyfyrio ar fy nhaith fy hun mewn ffyrdd nad oeddwn i wedi eu hystyried o’r blaen. Sylweddolais fod fy nehongliad i o’r gair ‘becoming’ wedi bod yn eithaf llythrennol, a fy mod yn tueddu i gymryd agwedd eithaf strategol a phragmatig at ymchwil, lle mae eraill yn fwy tueddol o fyfyrio’n feirniadol a meddwl mewn ffordd gysyniadol.

Gwersi a ddysgwyd – mae’r daith yn un barhaol

Yr hyn y mae’r gynhadledd hon wedi’i ddysgu i mi yw gwir werth myfyrio a rhannu a dysgu o brofiadau amrywiol eraill ym myd ymchwil.  Nid oedd gan un person penodol yr agwedd ‘gywir’, nid oedd unrhyw un ymchwilydd a fyddai’n cael ei ystyried ‘y gorau’, y pwynt oedd cydnabod, derbyn a byw mewn gofod lle rydyn ni bob amser yn dysgu ac yn tyfu fel ymchwilwyr.

Mae’r daith yn un barhaol ac ar bob croesffordd ni ddylem fod ofn ystyried pob llwybr sydd o’n blaenau. Wrth i ni ddod i gysylltiad â theithwyr eraill, mae’n anochel y byddant yn tynnu sylw at lwybrau newydd nad oeddem hyd yn oed wedi sylwi arnynt, a bydd ein teithiau’n dod yn gyfoethocach oherwydd hyn.

Ers mynd i’r gynhadledd, rydw i wedi edrych yn ddyfnach ar gwestiynu pa fath o ymchwilydd ydw i, pa athroniaethau rydw i’n cyd-fynd â nhw a pha agwedd sydd gen i ar fywyd sy’n dylanwadu ar fy agwedd at ymchwil.

Waw! Pwy fyddai’n meddwl y byddai un diwrnod yn Leeds yn fy arwain i gwestiynu cymaint amdanaf fy hun fel ymchwilydd…ac fel bod dynol. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at weld beth fydda i’n ei ddysgu nesa!

Ynghylch Abbey

Fy enw i yw Abbey Rowe, ac rwy’n fyfyriwr ymchwil PhD yn fy ail flwyddyn ac yn gweithio gyda Chanolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc a DECIPHer ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cysylltwch â mi:
Twitter: @AbbeyJRowe
E-bost: roweaj1@caerdydd.ac