Skip to main content

Ysgol Haf

Cael blas ar uno ymarfer clinigol ac ymchwil – Ysgol Haf Wolfson 2024

17 Medi 2024

Mae Debbie yn fyfyrwraig ôl-raddedig mewn Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed o’r DU. Yn y blog hwn, mae Debbie yn rhannu ei phrofiadau yn Ysgol Haf rithwir Canolfan Wolfson mewn Iechyd Meddwl Ieuenctid.

Debbie ydw i ac rwy’n fyfyrwraig ôl-raddedig mewn Iechyd Meddwl a Lles Plant a’r Glasoed a meddyg meddygol. Fe wnes i gais i ymuno ag Ysgol Haf Canolfan Wolfson yn 2024 ar ôl i’m Tiwtor Personol ar fy rhaglen meistr rannu’r wybodaeth â fi. Roeddwn i’n hapus iawn cael e-bost yn dweud bod fy nghais wedi cael ei dderbyn gan bod hynny’n golygu y gallwn i gymryd rhan yn y trafodaethau diddorol yr oeddwn i wedi’u hamlygu ar y rhaglen!

Cyn dechrau’r Ysgol Haf, roeddwn i wedi bod yn ystyried fy niddordeb mewn ymchwil iechyd meddwl pobl ifanc ond roeddwn i’n meddwl tybed sut y byddwn i’n uno hynny ag ymarfer clinigol. Felly, roeddwn i’n gobeithio y byddai cymryd rhan yn yr ysgol haf yn rhoi rhywfaint o gipolwg i mi. Fe wnaeth hynny a llawer mwy! Roedd yr ysgol haf ar-lein dros dri diwrnod yn cynnig ymchwil helaeth ar iechyd meddwl pobl ifanc. Fe’i cyflwynwyd gan ymarferwyr ac ymchwilwyr profiadol, gyda phawb, gan gynnwys unigolion, yn trafod yn ystod y sesiynau.

Ymhlith yr uchafbwyntiau i mi oedd y cyfle i rwydweithio gydag arbenigwyr na fyddai gen i gysylltiad â nhw o bosibl y tu allan i’r ysgol. Cyfoethogwyd y trafodaethau ynghylch ymchwil iechyd meddwl ieuenctid trwy gael y cyfle i glywed profiadau a safbwyntiau unigolion o wahanol wledydd. Mae’r profiad hwn wedi tanio fy niddordeb mewn ymchwil iechyd meddwl ieuenctid, a ches i rywfaint o wybodaeth ar gyfer fy nhraethawd hir hefyd!

Fe wnes i fwynhau’r sesiynau grŵp bach lle cafodd gweithgareddau eu symleiddio i ddiddordebau penodol – llwybrau clinigol, ymchwil ac addysg. Ymunais i â’r sesiwn i glinigwyr a gyflwynwyd gan academyddion clinigol. Roedd hyn yn ddefnyddiol oherwydd ces i flas ar sut y gallwn i gyfuno fy ymarfer clinigol ag ymchwil wrth i’r siaradwyr rannu eu profiadau a rhoi arweiniad ar hyn.

Ar y cyfan, fe wnes i fwynhau Ysgol Haf Wolfson 2024 yn fawr!

Diolch yn fawr iawn i Debbie am rannu ei phrofiad gyda ni.

Gallwch chi gysylltu â Debbie ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r ddolen:@whollydebbie

 

Ymunwch â ni yn 2025:

Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â ni ar gyfer Ysgol Haf Wolfson 2025?

Mae ceisiadau yn agor fis Mawrth nesaf a bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Tan hynny, gallwch chi gofrestru ar ein rhestr bostio i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl gyfleoedd sydd gan y Ganolfan i’w cynnig, a chadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol lle byddwn ni’n hysbysebu #WolfsonSummer25