Skip to main content

Lleisiau Ieuenctid

Sbotolau YAG: Sôn am bwysigrwydd ein lleisiau ym Mhrifysgol Caeredin

4 Medi 2024

Yn y blog hwn, mae Emma, Swyddog Arwain Cynnwys y Cyhoedd Canolfan Wolfson, a Lily, un o aelodau sefydlu Grŵp Cynghori Ieuenctid (YAG) y Ganolfan, yn myfyrio ar eu taith ddiweddar i gyflwyno sgwrs ym Mhrifysgol Caeredin.

Emma:

d Meddwl Ieuenctid Prifysgol Caeredin. A minnau’n Albanwr, mae ymddangosiad y peth mawr melyn rhyfedd yn yr awyr yn ystod yr haf yn gallu bod yn gynhyrfus, ond fe wnaethon ni ei gofleidio serch hynny.

Roedd yr haul yn gwenu ar Grŵp Cynghori Ieuenctid Wolfson wrth i Sami, Lily a minnau gyrraedd Caeredin i fynd i ddigwyddiad rhwydweithio Fforwm Iechy

Gyda thaith gyflym mewn tacsi, fe wnaethon ni gyrraedd y ganolfan gynadledda ar waelod Arthur’s Seat, drws nesaf i Neuaddau Preswyl Pollock (lle roeddwn i’n byw pan roeddwn i’n fyfyriwr amser maith yn ôl!).  Yn dilyn croeso cynnes hyfryd gan y trefnwyr (‘Wyt ti’n hoffi cofleidio?’ oedd y cwestiwn wrth i ni gerdded i mewn…ac mae’r tair ohonon ni fel mae’n digwydd!), fe wnaethon ni ymgartrefu am brynhawn o ddysgu a rhwydweithio.

Mae’r Fforwm yn ei gamau cynnar iawn a nod y digwyddiad – oedd wedi ei gyd-gynllunio a’i arwain gan bobl ifanc – oedd deall ac atgyfnerthu sut a pham i gynnwys pobl ifanc mewn ymchwil iechyd meddwl.

Bydd ein YAG Wolfson yn dair blwydd oed ym mis Medi ac o’r herwydd, roedden wrth ein bodd i gael gwahoddiad nid yn unig i fynd i’r digwyddiad, ond i gyflwyno sgwrs yn amlinellu’r hyn rydyn ni ein hunain wedi’i ddysgu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Myfyriais ar fy nhaith fy hun yn Arweinydd PI yma yn y Ganolfan ac annog y safonwyr i:

  • fod yn hyblyg ac atblygol
  • amddiffyn y grŵp, gan gofio ein dyletswydd gofal
  • bod yn barod i gymryd seibiant o waith ymchwil i ddathlu sgiliau a chyflawniadau’r grŵp

Fel gydag unrhyw ddigwyddiad pan fo pobl ifanc yn cyd-arwain trafodaethau, roedd yn ddiwrnod ysbrydoledig a phleserus ac roedden ni’n falch iawn o fod yn rhan ohono. Dyma ddymuno pob lwc i’r Fforwm ac edrychwn ni ymlaen at wylio sut y bydd yn datblygu dros y misoedd nesaf!

 

Lily:

Doeddwn i erioed wedi bod yn yr Alban o’r blaen, felly roeddwn i’n edrych ymlaen yn fawr i fynd i’r digwyddiad hwn, nid yn unig i rannu fy myfyrdodau personol ar fforymau ieuenctid iechyd meddwl sy’n llywio ymchwil, ond i archwilio dinas brydferth Caeredin!  Cyn y digwyddiad, treuliais ddiwrnod yn ymweld ag Eglwys Gadeiriol San Silyn, Cofeb Scott, Ffynnon Ross, a Vernell Viewpoint. Yn ystod amser cinio, cefais gyfarfod Zoom gydag Emma a Sami mewn Starbucks gyda golygfa syfrdanol o Gastell Caeredin a Gerddi Princes Street. Ar fy ffordd i’r gwesty, crwydrais drwy Grassmarket, gan fwynhau’r siopau annibynnol a’r bensaernïaeth hanesyddol wrth wrando ar sŵn Albanwyr yn chwarae pibgodau.

Rwyf wedi bod yn aelod o YAG Wolfson ers bron i dair blynedd, ac yn ystod y cyfnod hwn, mae ein grŵp wedi esblygu a thyfu wrth i ni ddarganfod beth sy’n gweithio’n dda a pha newidiadau rydyn ni am eu gwneud. Gyda’n profiad gwerthfawr mewn golwg, rhannodd Sami a minnau sut y gallwn ni, yn bobl ifanc, ymwneud ag ymchwil iechyd meddwl a phwysigrwydd ein lleisiau wrth ddylanwadu ar gyfeiriad ac effaith ymchwil.

Roeddwn i’n teimlo ychydig yn nerfus i ddechrau, gan nad oeddwn i erioed wedi siarad mewn digwyddiad fel hwn o’r blaen. Fodd bynnag, fe wnaeth yr awyrgylch cefnogol a brwdfrydedd y bobl ifanc a’r ymchwilwyr fy ngrymuso a gwneud i mi deimlo fod pobl wir yn gwrando arnaf fi. Roeddwn i am bwysleisio pwysigrwydd cydnabod amser, arbenigedd ac ymdrechion gwerthfawr pobl ifanc sy’n cyfrannu at ymchwil iechyd meddwl. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n teimlo fel ‘bocsys i’w ticio’ yn unig yn y broses ymchwil.

Tynnais sylw hefyd at arwyddocâd defnyddio cyfathrebu effeithiol ac iaith sy’n barchus ac yn ddealladwy, fel bod trafodaethau’n gynhwysol ac yn hygyrch i bawb gyfrannu atyn nhw. Yn anad dim, pwysleisiodd Sami a minnau yr angen i greu amgylchedd diogel, cyfforddus sy’n meithrin cyd-werthfawrogiad a pharch rhwng pobl ifanc ac ymchwilwyr.

Gadewais y digwyddiad yn teimlo’n falch iawn o Sami a minnau am gynrychioli YAG Wolfson. Rwy’n meddwl ein bod ni wedi cynnig rhywfaint o awgrymiadau a syniadau defnyddiol. Cyn gadael Caeredin, aethon ni ar un daith gerdded arall a myfyrio ar y trafodaethau a’r cyflwyniadau niferus a gawson ni yn ystod y dydd. Buon ni’n siarad am ba mor ddiddorol oedd gwrando ar safbwynt ymchwilwyr sydd hefyd yn gorfod ystyried yr agweddau logistaidd ar ffurfio fforwm iechyd meddwl ieuenctid.

Roedd dod â phobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ynghyd yn y digwyddiad hwn wedi rhoi llawer o wybodaeth a dealltwriaeth amrywiol i ni, a gallai ein sgyrsiau fod wedi parhau am oriau. Byddwn wrth fy modd yn gweld digwyddiad tebyg yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Wolfson, yn canolbwyntio ar y cydweithio llwyddiannus rhwng pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ym maes ymchwil iechyd meddwl ieuenctid.

Diolch i Emma a Lily am rannu eu hantur Albanaidd.

Dysgwch ragor am ein gwaith Cynnwys y Cyhoeddyng Nghanolfan Wolfson a’n Grŵp Cynghori Ieuenctid.

 

Lluniau camera Lily: :