Snap, Crackle, Pop? May a’r Cwestiwn o Etholiad Brys
27 September 2016Gyda Chynhadledd Hydref y Ceidwadwyr yn cael ei gynnal yn Birmingham wythnos nesaf, Aled Morgan Hughes sy’n ystyried Theresa May a’r cwestiwn o etholiad cyffredinol brys…
“I’ve got the power!” bloeddia anthem rap y band Snap! o’r 1990au. Llinell, mae’n debyg, sydd bellach yn berthnasol i Brif Weinidog Prydain, Theresa May. Ers ymddiswyddiad syfrdanol David Cameron fis Mehefin, mae Prydain, dan deyrnasiad y ddynes gyntaf i ddal y swydd ers Margaret Thatcher, wedi dod i “Witness the Strength” (cân arall gan Snap!– googlwch o!) o’i harweinyddiaeth. Serch hyn, gellir awgrymu i sibrydion o ‘snap’ gwahanol ei natur danseilio ei theyrnasiad hyd hyn- sef y galwadau am etholiad cyffredinol ‘snap’.
Mae’n debyg mae prif darddiad y galwadau am etholiad cyffredinol brys yw natur apwyntiad May i’r swydd. Yn dilyn penderfyniad Andrea Leadsom- ei chyd-gystadleuwraig am arweinyddiaeth y Toriaid- i gamu o’r adwy, apwyntiwyd May fel arweinydd ei phlaid, ac felly yn Brif Weinidog, yn ddigon diffwdan. Serch hynny, cyfarchwyd ei hapwyntiad i’r swydd gydag anghydfod gan rai yn sgil y ffaith nad oedd May wedi arwain ei phlaid i fuddugoliaeth mewn etholiad cyffredinol.
Un o nifer sydd wedi cwyno yw Jon Trickett, cydlynydd etholiadol Llafur, a ddadleuai ei bod yn “crucial” i Brydain gael Prif Weinidog “democratically elected”. Cefnogir y safbwynt hefyd gan Tim Farron, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, gan honni byddai penderfyniad gan May i beidio galw etholiad yn “ludicrous”. Yn y cyfamser, mae dros 14,000 o aelodau o’r cyhoedd wedi arwyddo deiseb yn galw am etholiad- gan gyhuddo May o beidio hawlio “democratic mandate” i fod yn Brif Weinidog.
Nid dyma’r tro cyntaf i Brif Weinidog wynebu’r fath alwadau chwaith. Yn 2007, wrth i Gordon Brown olynu Tony Blair, cafodd teimladau tebyg eu lleisio, gyda neb llai na Theresa May yn cyhuddo Brown o “running scared” o alw etholiad brys!
Atalyddion Etholiad
Gan felly ail-godi’r grachen o anfodlonrwydd ynghylch diffyg ‘mandad democrataidd’ Prif Weinidog, i ba raddau dylai May felly ystyried galw Etholiad Cyffredinol brys?
Un atalydd cyfreithiol i’r cam yw’r ‘Fixed Term Parliament Act’ a gyflwynwyd yn 2011 gan y glymblaid Geidwadol/Rhyddfrydol. Er bod ffyrdd i osgoi’r rhwystr hwn (diddymu’r ddeddf/pleidlais ddiffyg hyder, ac yn y blaen), rwyf am barhau i ddadlau yn gyfansoddiadol, er y cyhuddiadau o’i diffyg ‘mandad democrataidd’, nad oes angen i Theresa May alw etholiad brys.
Yn ôl i’r Dyfodol?
Serch y ffair o brotest a gwrthwynebiad ynghylch apwyntiad May, nodai’r llyfrau hanes y ceir cynsail hanesyddol cryf i Brif Weinidogion ‘anetholedig’ ym Mhrydain. O’r 27 Prif Weinidog, gan gynnwys May, sydd wedi teyrnasu ers tarddiad yr Ugeinfed Ganrif, daeth 14 ohonynt i rym heb y ‘mandad democrataidd’ o lwyddiant mewn Etholiad Cyffredinol. Gweler y duedd hon yn enwedig o drawiadol ymysg y Blaid Geidwadol, gyda 10 o’u 17 Prif Weinidog ers 1900 yn cael eu dyrchafu i’r swydd heb ‘fandad democrataidd’ yr etholfraint.
O’r nifer o Brif Weinidogion ‘anetholedig’ hyn, Anthony Eden, yn 1955, bu’r unig un i alw Etholiad Cyffredinol ‘snap’ o ganlyniad i’w ddiffyg mandad llywodraethu personol- gan ennill yr etholiad yn gyfforddus- serch cael ei ddisgrifio fel “one of the dullest post-war elections”!
Seneddol nid Arlywyddol
Yn ganolog i’r ddadl yn erbyn yr angen i alw etholiad brys yw statws cyfansoddiadol Prydain fel cyfundrefn Seneddol, ac nid un Arlywyddol (fel profir ar draws yr Iwerdydd yn yr UDA).
Yn fras, mewn systemau Seneddol, rhoddir y bwyslais yn ganolog ar y pleidiau gwleidyddol. Caiff Aelodau Seneddol eu hethol gan y cyhoedd i gynrychioli etholaethau lleol dan faner bleidiol, gyda’r blaid fwyaf yn y Senedd yn llunio’r llywodraeth. Gydag arweinydd y blaid Seneddol fwyaf felly’n dod yn Brif Weinidog, caiff ei apwyntio i’r swydd yn ‘anuniongyrchol’ i fendith y cyhoedd. Yn wir, yr unig rhai i bleidleisio am y Prif Weinidog yn ‘uniongyrchol’, fel petai, yw’r trigolion yn ei etholaeth- megis y 0.0003% o’r etholfraint bleidleisiodd am Theresa May yn etholaeth Maidenhead yn Etholiad Cyffredinol 2015.
I’r gwrthwyneb, mewn cyfundrefnau arlywyddol, yr unigolyn sydd yn ganolog- fel profir yn ddyddiol gan sylw’r BBC i’r ormes Arlywyddol yn yr UDA rhwng Clinton a Trump. Broliai Arlywydd fandad democrataidd cryf, gan gael ei ethol yn uniongyrchol gan etholfraint genedlaethol. Caiff Arlywydd ei ethol i weinyddu am gyfnod penodol o amser, ac felly’n wahanol i Brif Weinidog, nid yw ei oroesiad yn ddibynnol ar gefnogaeth ei blaid wleidyddol yn y Senedd.
‘Hail to the Chief’?
Serch y gwahaniaethau sylfaenol hyn rhwng cyfundrefnau Arlywyddol a Seneddol, ceir awgrym gan rai bod systemau Seneddol bellach yn datblygu nodweddion ‘Arlywyddol’. Gyda’r broses yn cael ei labelu fel ‘Presidentialization’, honni’r profir y ffenomena drwy dwf rôl a grym yr arweinydd mewn systemau Seneddol. Awgrymir gweler hyn mewn amryw o ffyrdd, megis; ymddangosiad dadleuon arweinyddol, twf sylw cyfryngol, a thwf adnoddau a grym yr arweinydd yn ei blaid wleidyddol. Gellir dadlau i’r duedd unigolyddol yma hefyd gyd-fynd gyda’r galwadau am etholiad brys, gyda’r cyhuddiadau wedi eu selio ar ddiffyg mandad personol May i arwain llywodraeth.
Fodd bynnag, serch yr awgrymiadau hyn o drawsffurfiad, parhau fod yn fodel blaengar o wleidyddiaeth Seneddol gwna Prydain. Gyda’r Ceidwadwyr yn parhau i fod y blaid fwyafrifol yn y Senedd, ac yn gefnogol o Brif Weinidogaeth May, dim llai na siarad gwag yw’r galwadau hyn am etholiad cyffredinol ‘snap’ yn y cyd-destun yma.
Bu i Theresa May yn ddiweddar wrthod alwadau am fath etholiad brys, gan bwysleisio na fydd yr etholiad nesaf yn cael ei gynnal tan 2020. Yn gyfansoddiadol, a hanesyddol, does dim amheuaeth yn fy marn i, ei bod yn llygaid ei lle.
- October 2024
- September 2024
- July 2024
- June 2024
- December 2023
- November 2023
- August 2023
- February 2023
- December 2022
- November 2022
- September 2022
- July 2022
- April 2022
- March 2022
- January 2022
- October 2021
- July 2021
- May 2021
- March 2021
- January 2021
- November 2020
- October 2020
- August 2020
- July 2020
- June 2020
- May 2020
- April 2020
- March 2020
- October 2019
- September 2019
- June 2019
- April 2019
- March 2019
- February 2019
- December 2018
- October 2018
- July 2018
- June 2018
- April 2018
- December 2017
- October 2017
- July 2017
- June 2017
- May 2017
- April 2017
- March 2017
- February 2017
- January 2017
- December 2016
- November 2016
- October 2016
- September 2016
- Bevan and Wales
- Big Data
- Brexit
- British Politics
- Constitution
- Covid-19
- Devolution
- Elections
- EU
- Finance
- Gender
- History
- Housing
- Introduction
- Justice
- Labour Party
- Law
- Local Government
- Media
- National Assembly
- Plaid Cymru
- Prisons
- Rugby
- Senedd
- Theory
- Uncategorized
- Welsh Conservatives
- Welsh Election 2016
- Welsh Elections