Nyrsio iechyd meddwl fel dewis gyrfaol – Ben Hannigan & Nicola Evans
29 Ebrill 2019Sut i ddisgrifio’r hyn y mae nyrsys iechyd meddwl yn ei wneud? Dyna gwestiwn heriol, ac un fu’n sail i adolygiad diweddar o waith nyrsys iechyd meddwl graddedig a chofrestredig, Chwarae Ein Rhan. Amlinellodd hyn y ddadl dros waith nyrsys sy’n canolbwyntio ar unigolion, ac sy’n cynnwys rhoi gofal wyneb yn wyneb. Yn fwy diweddar, cyhoeddwyd Fframwaith ar gyfer Nyrsio Iechyd Meddwl deng mlynedd o hyd yma yng Nghymru ar y Diwrnod Nyrsys Iechyd Meddwl cyntaf ar 21 Chwefror 2019. Mae’r ddogfen hon yn cynnwys cyfres o enghreifftiau o arferion da sy’n arddangos gwaith arloesol nyrsys o ran ymarfer, addysg ac ymchwil.
Un agwedd ar waith pob nyrs iechyd meddwl yw ei fod yn cynnwys cefnogi pobl sy’n profi trafferth seicolegol. Gall y cleifion hyn fod yn oedolion neu’n blant, a gall y gwaith gynnwys rhoi cymorth uniongyrchol i bobl sy’n cael meddyliau neu deimladau anfuddiol neu annymunol, a chefnogaeth i’w teuluoedd neu eu gofalwyr. Ceir nyrsys iechyd meddwl mewn amrywiaeth o gyd-destunau, gan gynnwys ysbytai, canolfannau iechyd, cartrefi cleifion, ysgolion, carchardai a gwasanaethau allgymorth i bobl sy’n ddigartref. Gallant weithio’n annibynnol neu (fel arfer) mewn timau gyda gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol eraill, fel seicolegwyr, seiciatryddion, gweithwyr cymdeithasol a therapyddion galwedigaethol yn ogystal â gweithwyr cefnogi cymheiriaid. Gall rôl nyrsys iechyd meddwl gynnwys cyfathrebu â phobl mewn amrywiaeth o asiantaethau eraill, fel yr heddlu, elusennau, y trydydd sector ac athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill yn y system addysg. Ar ben eu gwaith o roi cefnogaeth uniongyrchol i bobl sy’n byw gydag anawsterau iechyd meddwl a’u gofalwyr, yn aml mae nyrsys iechyd meddwl yn cydlynu darpariaeth ofal. Mae hyn yn cynnwys helpu pobl sy’n defnyddio gwasanaethau i lywio eu llwybr drwy’r system iechyd a gofal cymdeithasol, drwy wneud yn siŵr bod cynlluniau’n gyfredol a bod aelodau’r dîm rhyngbroffesiynol yn eu hadolygu’n aml.
I’r rheini sydd eisiau gwybod mwy am yrfa ym maes nyrsio iechyd meddwl, mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi cynhyrchu fideo byr defnyddiol Keep It in Mind, sy’n cynnig cipolwg ar nyrsio iechyd meddwl o amryw safbwyntiau. Hefyd, mae’r sefydliad Academyddion Nyrsio Iechyd Meddwl y DU wedi cynhyrchu’r arweiniad hwn ynghylch bod yn nyrs iechyd meddwl. Yma ym Mhrifysgol Caerdydd, mae Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd yn cynnig gradd BN Anrh. mewn Nyrsio Iechyd Meddwl. Trwy gyflawni hon, byddwch yn cofrestru â’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Trefnir ymchwil Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd yn ôl tair thema, ac mae’n canolbwyntio’n gryf ar gynhyrchu gwybodaeth newydd er mwyn llywio gwelliannau ar gyfer ymarfer a gwasanaethau gofal iechyd ar draws bob oedran. Ymhlith enghreifftiau o brosiectau ymchwil iechyd meddwl parhaus sy’n cynnwys academyddion nyrsio iechyd meddwl o Gaerdydd, mae un astudiaeth newydd a ariennir gan y Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol, sy’n datblygu gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl (Nicola Evans), a phrosiect sy’n cyfuno’r dystiolaeth ym maes gofal diwedd oes ar gyfer pobl gyda salwch meddyliol difrifol (Ben Hannigan, Deborah Edwards, Paul Gill, Sally Anstey).
Mae Dean Whybrow yn gwneud doethuriaeth ynglŷn ag iechyd a lles cyn-filwyr. Gyda Ben Hannigan mae’n rhan o dîm sy’n ystyried therapi newydd ar gyfer cyn-filwyr sydd ag anhwylder straen wedi trawma. Mae’r graddau ymchwil ôl-raddedig presennol ym maes iechyd meddwl, sy’n cael goruchwyliaeth gan academyddion nyrsio iechyd meddwl Caerdydd, yn cynnwys: ymchwiliad Alicia Stringfellow i brofiadau mamau sy’n byw gyda mab neu ferch â sgitsoffrenia; astudiaeth Nicola Savory i brofiadau a gofal iechyd meddwl amenedigol; archwiliad Gavin John o’r risgiau i addysg, teulu a ffrindiau pobl ifanc sy’n gleifion preswyl yng ngwasanaethau iechyd meddwl; gwaith Bethan Edwards i greu ymyriad therapi galwedigaethol ar gyfer pobl sydd â dementia cynnar; ac astudiaeth Fortune Mhlanga o wella ar waith.