Skip to main content

Adult mental healthChild and adolescent mental health

Gweithio mewn Uned Cyfeirio Disgyblion – Jodie Gornall

8 Mawrth 2019
Pensive sad boy teenager with blue eyes in a blue shirt and jeans sitting at the window and closes his face with his hands.
Pensive sad boy teenager with blue eyes in a blue shirt and jeans sitting at the window and closes his face with his hands.

Gan fod gen i ddiddordeb ers tro mewn iechyd meddwl a helpu pobl eraill, roeddwn i’n chwilio am swydd fyddai’n cynnig amrywiaeth i mi sydd y tu hwnt i’m cefndir yn y diwydiant gofal. Gwelais hysbyseb am Gynorthwy-ydd Addysgu Anghenion Addysgol Arbennig (SENTA) drwy asiantaeth. Roedd hyn yn gyfle i mi ddysgu am faes cwbl newydd. Roeddwn i wedi cyflwyno fy nghais am Nyrsio Iechyd Meddwl, ac roeddwn i eisiau gallu trafod fy mhrofiad o ofal mewn amgylcheddau anarferol yn y cyfweliad. Pan gododd y cyfle am wythnos o waith mewn Uned Cyfeirio Disgyblion, meddyliais y byddai’n ddelfrydol er mwyn ymgorffori addysg gyda gofal a chefnogaeth arbenigol. Drwy’r profiad, ces i gipolwg ar system oedd yn gwbl anghyfarwydd i mi, a llawer o bobl eraill hefyd.

Mae Unedau Cyfeirio Disgyblion (PRU) yn opsiwn olaf ar gyfer disgyblion trafferthus. Weithiau, dyma’r unig opsiwn er mwyn cynnig addysg i blant sy’n byw gydag ymddygiad trafferthus, rhai sydd ag anghenion arbennig (heb ddiagnosis eto efallai), plant sy’n cael eu heithrio neu sydd angen cael eu hailintegreiddio. Yr unedau hyn yw’r dewis amgen a ddefnyddir fwyaf ar gyfer y rheini sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS) yn bennaf.

Mae 2,188 o ddisgyblion wedi cofrestru eu bod yn derbyn addysg heblaw yn yr ysgol yng Nghymru. O’r rhain, mae 778 wedi ymrestru ag un PRU (efallai fod rhai wedi cofrestru ddwywaith). O’r 778 hyn, mae 60% rhwng 14 a 15 oed. Mae chwe myfyriwr o dan bum mlwydd oed. Mae gan 86.8% o’r EOTAS anghenion addysgol arbennig sydd wedi eu cydnabod.

Mae’r PRU hon yn ymwneud â disgyblion 14-16 oed ac mae’n cynnal dosbarthiadau gyda chwe disgybl ar y mwyaf, un athro ac un cynorthwy-ydd addysgu. Trefnir tacsis wedi’u talu ymlaen llaw i gasglu’r disgyblion o’u cartrefu, neu drefniadau byw eraill, a dod â nhw’n uniongyrchol i’r ysgol. Mae chwe gwers 45 munud o hyd i’r diwrnod. Mae’r PRU arferol yng Nghymru’n amserlennu 23.8 o oriau’r wythnos. Mae hyn yn cynnwys pynciau sylfaenol y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer bywyd fel oedolion, sef Saesneg a Mathemateg, ynghyd â’r pynciau sy’n ymarfer sgiliau creadigol ac ymarferol y disgyblion: Celfyddydau, Ymarfer Corff, Ffotograffiaeth a Bagloriaeth Cymru.

Dyma’r gwersi lle gallant fynegi eu profiadau personol. Mae’r darnau y maen nhw’n eu creu’n wreiddiol ac yn ysbrydoledig. Mae eu creadigaethau arloesol ac artistig yn adlewyrchu eu deallusrwydd ac yn amlygu pwysigrwydd y mathau hyn o bynciau, o’u cymharu ag academia prif ffrwd. Mae’r myfyrwyr yn cael blas anghyfarwydd ar lwyddiant addysgol, ac mae rhai cymeradwy’n defnyddio hwn i sbarduno eu hail gyfle.

Beth oedd fwyaf trawiadol i mi oedd bod y disgyblion yn ystyried malio dim am addysg yn cŵl. ‘Sdim ots’ yw’r mantra tragwyddol sy’n cyfeilio gwersi’r diwrnod. Nhw eu hunain yw eu gelyn gwaethaf. Mae staff yn edrych arnyn nhw’n rhy ddiymadferth, gan fyfyrio er ein magwraethau a’n hieuenctid ein hunain. Trwy geisio ymateb mewn ffordd empathetig drwy gymharu eu profiadau â’ch rhai chi, dim ond cic i’r nyth cacwn fyddai effaith hynny. Pam ddylen nhw gael cyngor gan rywun sydd, o’u safbwynt nhw, o genhedlaeth arall? A dim ond 20 oed ydw i.

Mae ymddygiad ymosodol yn gyffredin iawn; fesul diwrnod, awr a munud. Mae’r mwyafrif o ddisgyblion yn taflu geiriau ymosodol tuag at aelodau staff. Maen nhw’n galw enwau ar y staff, yn eu sarhau ac yn rhannu eu barn sydd fel arfer yn negyddol ynghylch sut maen nhw’n gwneud eu swydd. Maen nhw’n gofyn iddyn nhw ‘adael llonydd i fi’, ond mewn iaith sydd lawer mwy rheglyd fel arfer. Gall y fath ymddygiad ddeillio o ymdeimlad o rwystredigaeth yn yr ysgol, fel y gwelir ymysg disgyblion addysg prif ffrwd weithiau hefyd. Mae’n fodd o fynegi eu teimladau. Mae diffyg amynedd, cymhelliant a hunan-hyder yn gwneud iddyn nhw gael agwedd wael tuag at bwnc a’r athro. Ar y llaw arall, gall yr ebychiadau hyn fod yn symptom o’u hiechyd meddwl.

Oherwydd eu magwraeth a’r ffaith eu bod yn byw gydag iselder, gorbryder, ADHD a/neu anhwylderau bwyta, yn anffodus, mae’n ddealladwy. Mae’r rhestr gwbl anghyflawn hon o gyflyrau iechyd meddwl sy’n gyffredin ymysg pobl ifanc yn gallu eu llethu’n seicolegol yn yr ysgol. Er bod y PRU yn cynnig naws gefnogol ac arweiniad un i un, y disgyblion sy’n gyfrifol am ddewis yr arweiniad hwn. Os yw eu heriau meddyliol yn eu llethu, bydd ysbytai yn rhoi addysg iddyn nhw.

Bydd llawer o ddisgyblion yn y PRU yn trafod cyffuriau, alcohol, rhyw, camdriniaeth, bwlio, cyfweliadau â’r heddlu a hyd yn oed carchar yn ddifeddwl. Mae’n anodd gwrando ar y fath sgyrsiau gan blant mor ifanc. Mae trafod pobl eraill, yn yr ysgol neu y tu hwnt iddi, yn rhywbeth maen nhw’n ei fwynhau’n fawr. Mae’n anodd gwybod beth sy’n wir a beth sy’n gelwydd bur. Pwy sydd â’r stori orau? Pwy sy’n mynd i rannu’r cyfrinach hwnnw gyntaf? Mae’n fanllef ddi-baid sy’n cynyddu a chynyddu nes i bob un ohonom ael ei fyddaru.

Cael boddhad parod yw nod y mwyafrif ohonyn nhw. Mae’n anodd iddyn nhw weld manteision nodau hirdymor, achos nid ydynt yn credu eu bod yn gallu datblygu. Mae blynyddoedd llencyndod yn gyfnod o ddarganfod, arbrofi a gwthio’r ffiniau. Byw yn y presennol, malio dim am y goblygiadau. Maen nhw’n mwynhau teimlo’r adrenalin yn sgîl eu penderfyniadau byrbwyll. Nid yw cael swydd, incwm sefydlog neu gynnal teulu ar eu meddyliau. Ond a ddylen nhw boeni am y fath bethau?

Mae rhai’n bwriadu byw gyda’u Mam, eu Tad neu eu Gwarchodwr am weddill eu hoes, gan ddweud y bydd eu harian poced yn ddigon iddyn nhw. Am syndod sy’n aros amdanyn nhw. Bydd rhai eraill yn parhau gyda’u gyrfaoedd presennol yn y diwydiant cyffuriau, fel dosbarthwyr neu ddelwyr cyffuriau. Fodd bynnag, fyddan nhw ddim yn deall y fathemateg y tu ôl i elw a threuliau, na goblygiadau posibl ymgymryd â “swydd” o’r fath. Mae llawer o’r plant hyn yn pwysleisio eu bod am gael arian yn y dyfodol: iddyn nhw, dyna’r hyn sydd wrth wraidd hapusrwydd. Gallai amddifadiad ariannol, diffyg sefydlogrwydd neu ddiffyg rhywbeth sefydlog yn eu bywydau egluro’r dyhead am arian. Mae bron i 40% o’r EOTAS hynny’n cael prydiau am ddim yn yr ysgol.

Gellir dadlau bod addysg yn gam pwysig, neu mai dyma’r prif gam, tuag at ansawdd bywyd da. Er ein bod yn cwestiynu pam rydym ni’n eu helpu pan mae ein hymdrechion yn aml yn cael eu gwrthod, dyma’r cwbwl rydym ni eisiau iddyn nhw. Hyd yn oed pan rydym wedi cael ein gwthio tuag at y dibyn, ac wedi brwydro i gadw ein hamynedd, rydym ni eisiau iddyn nhw gael dyfodol da. Mae pawb wedi pasio drwy’r un cyfnod yn ein harddegau lle, efallai, rydyn ni’n sylweddoli bod ein gweithredoedd ac ymddygiadau yn y gorffennol heb helpu a’u bod, mewn gwirionedd, wedi ein rhwystro. Fyddai pethau wedi bod yn well pe bawn i wedi gwneud mwy o ymdrech ar gyfer y darn yna o waith cwrs? Ddylwn i fod wedi treulio mwy o amser yn ystyried y cyfleodd y mae colegau a phrentisiaethau’n eu cynnig? Prifysgol hyd yn oed? Dylai eu nodau fod yn realistig, ond dylid cydnabod eu potensial yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn sydd ar yr arwyneb. Mae cyfanswm y myfyrwyr sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol wedi lleihau gan 15% dros y pum mlynedd ddiwethaf. Mae hyn yn dystiolaeth o welliant o ran rheoli disgyblion trafferthus mewn ysgolion prif ffrwd, yn ogystal â llwyddiant cyfleusterau fel PRUs. Peidiwch â diystyru eu doniau unigryw dim ond oherwydd eu bod yn anghonfensiynol. Mae’r gallu i fynegi eu hunain mewn celfyddydau amgen fel mowldio clai neu ysgrifennu’r geiriau ar gyfer cân rap, yn ddawn unigryw a gwerthfawr. Gellid eu hystyried yr un mor ddeallus pe bai ganddyn nhw’r llwyfan iawn.