Skip to main content

Uncategorized

Cefndiroedd rhithwir Zoom

17 June 2020

Mae Prifysgol Caerdydd wedi tanysgrifio am becyn llawn Zoom ar gyfer sgwrsio fideo, sy’n golygu nad oes terfyn amser i’n myfyrwyr a’n staff. Perffaith ar gyfer gwaith grŵp, cyfarfodydd ar-lein (hyd at 300 o bobl yn cymryd rhan) neu gymdeithasu!

Gallwch lawrlwytho’r delweddau hyn gan Lyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd i’w defnyddio fel cefndiroedd rhithwir Zoom. Yn syml, de-gliciwch ar y ddelwedd sydd ei heisiau ac yna Save Image As

Defnyddio Cefndiroedd Rhithwir:

  1. Mewngofnodwch i gleient bwrdd gwaith Zoom.
  2. Cliciwch ar còg y Gosodiadau.
  3. Cliciwch ar Virtual Background
  4. Cliciwch ar ddelwedd i ddewis y cefndir rhithwir sydd ei eisiau neu ychwanegu eich delwedd eich hun drwy glicio +Add Image …
  5. I analluogi’r Cefndir Rhithwir, dewiswch yr opsiwn ‘None’.