Skip to main content

All Librariese-resources

Mae LibrarySearch yn newid…

23 June 2021

Byddwn yn gwneud rhai newidiadau i LibrarySearch ym mis Gorffennaf 2021. Efallai y byddwch yn sylwi ar rai gwahaniaethau bach o ran sut mae gwybodaeth yn cael ei chyflwyno a bydd rhai nodweddion wedi newid. Pan symudwn i’r fersiwn newydd o LibrarySearch, bydd yr holl wybodaeth yr ydych wedi’i chadw yn cael ei mudo ar wahân i Saved Searches.

Chwiliadau wedi’u Cadw– cymerwch gopi

Os oes gennych Chwiliadau wedi’u Cadw, bydd angen i chi gymryd copi o’r rhain erbyn 20 Gorffennaf 2021 i allu eu hail-greu yn y fersiwn newydd o LibrarySearch. I wneud hyn, rydym yn awgrymu eich bod yn cymryd sgrinlun o’r chwiliadau yr ydych wedi’u cadw:

Sgrin Chwiliadau a gadwyd yn Fy ffefrynau

Bydd gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch o’ch chwiliadau (gan gynnwys chwiliadau manylach a ddynodir gan saeth werdd ac unrhyw gwmpasau a hidlwyr). Cysylltwch â ni ar bob cyfrif os oes angen unrhyw help arnoch gyda hyn.

Newidiadau eraill y gallech sylwi arnynt

Ni fydd A-Y ar gyfer cyfnodolion na chronfeydd data. Os ydych chi am weld rhestr o gronfeydd data sy’n dechrau gyda llythyren benodol, gallwch chwilio amdanynt. Defnyddiwch y cyn-hidlwyr o dan y blwch chwilio a dewis Cronfeydd Data ac yna yn dechrau gyda ac yn y teitl.

Cysylltwch â ni ar bob cyfrif os oes gennych unrhyw gwestiynau.