Skip to main content

All Libraries

Newidiadau i arddull gyfeirio Caerdydd Harvard

20 August 2021

O 23 Awst 2021, bydd arddull gyfeirio Caerdydd Harvard yn newid ychydig i ganiatáu priodoli nifer ddigonol o awduron yn y rhestr gyfeiriadau/llyfryddiaeth. Bydd y newidiadau fel a ganlyn:

Canllawiau blaenorol:

Yn eich rhestr gyfeiriadau, os oes gan y ffynhonnell fwy na dau awdur, defnyddiwch y talfyriad et al. ar ôl enw olaf a blaenlythrennau’r awdur cyntaf.

Canllawiau newydd:

Yn eich rhestr gyfeiriadau, os oes gan y ffynhonnell fwy na saith awdur, defnyddiwch y talfyriad et al. ar ôl enw olaf a blaenlythrennau’r awdur cyntaf (https://xerte.cardiff.ac.uk/play_5253#page1).

Mae’r diwygiad hwn ond yn effeithio ar eitemau yn y rhestrau cyfeiriadau a’r llyfryddiaethau. Nid oes unrhyw newid o ran y cyngor cyfredol ar gyfer dyfyniadau yn y testun. Mae’n rhaid parhau i ddefnyddio et al. pan fydd gan ffynhonnell fwy na dau awdur.

Bydd holl arddulliau’r rheolwr cyfeiriadau y gellir eu lawrlwytho (EndNote, Mendeley, Zotero) yn cael eu diweddaru. Os ydych chi wedi lawrlwytho arddull Caerdydd Harvard o’r blaen bydd angen i chi lawrlwytho’r arddull newydd. Bydd hen arddull Caerdydd Harvard yn cael ei labelu felly a bydd ar gael i’w lawrlwytho ar gyfer unrhyw Ôl-raddedigion sy’n dymuno parhau i’w defnyddio tan fis Medi.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’ch Llyfrgellydd Pwnc.