Casgliad Lles | Wellbeing Collection
6 October 2023
Ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ddydd Mawrth 10 Hydref, mae Llyfrgelloedd Prifysgol Caerdydd yn falch o lansio ein Casgliad Llesiant newydd sbon – detholiad pwrpasol parhaol o ddarlleniadau cyfredol i’ch helpu i ddeall a rheoli eich iechyd a’ch lles.
Mae’r casgliad llyfrau ar gael i bawb ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae wedi cael ei gurad gan ein staff, ein myfyrwyr a’n partneriaid ym Mywyd Myfyrwyr. Gellir dod o hyd i’r eitemau hyn yn eu hardaloedd penodol eu hunain ym mhob un o’n safleoedd llyfrgell, galwch heibio! Cewch hefyd wybodaeth yma am y cymorth pellach sydd ar gael yn y brifysgol.
Ochr yn ochr â lansio’r casgliad llyfrau rydym hefyd wedi llunio rhestr adnoddau Lles electronig y gellir ei chyrchu yn y ddolen hon: https://whelf-cardiff.alma.exlibrisgroup.com/leganto/public/44WHELF_CAR/lists/9943197070002420?auth=SAML
For World Mental Health Day on Tuesday 10 October, Cardiff University Libraries are proud to launch our brand new Wellbeing Collection – a permanent dedicated selection of up to date readings to help you to understand and manage your health and wellbeing.
The book collection is available to all at Cardiff University and has been curated by our staff, students and partners in Student Life. These items can be found in their own dedicated areas within each of our library sites, just drop by! You will also find information here about the further support that’s available at the university.
In tandem with the launch of the book collection we have also produced an electronic Wellbeing resource list which can be accessed at this link: https://whelf-cardiff.alma.exlibrisgroup.com/leganto/public/44WHELF_CAR/lists/9943197070002420?auth=SAML