Prosiectau Ymchwil
28 Ebrill 2021Fel rhan o radd ymsang, mae disgwyl i ni fel myfyrwyr gwblhau prosiect ymchwil ac mae’r prosiectau hyn yn cyfri am ran mawr o’r radd. Oherwydd y cyfyngiadau yn gysylltiedig â COVID-19 sydd wedi bod yn eu lle yn ystod y flwyddyn yma, mae hi wedi bod yn heriol i gynnal y prosiectau ymchwil hyn ond maent yn ran pwysig o’r graddau ymsang ac felly maent wedi cael eu haddasu i barhau gyda’r cyfyngiadau mewn cof er mwyn diogelwch. Yn y blog yma, rwyf yn gobeithio rhoi gwell syniad i chi o beth mae’r elfen prosiect ymchwil o radd ymchwil yn ei gynnwys a sut maent wedi cael eu haddasu y flwyddyn hon er mwyn sicrhau diogelwch ond wrth barhau i roi profiad addysgiadol effeithiol i ni.
Mae nifer o opsiynau pan mae’n dod i brosiect ymchwil gradd ymsang: o brosiect labordy gwlyb i ddadansoddi data i ysgrifennu adolygiad llenyddiaeth. Roedd fy mhrosiect i yn edrych ar gyffur penodol o’r enw flecainide (gallwch roi enw’r cyffur i mewn i Google os hoffwch ddysgu mwy amdano). Caiff flecainide ei ddefnyddio mewn cleifion sydd â churiad calon afreolaidd cyflym ac roedd fy mhrosiect i yn canolbwyntio ar ei ddefnydd mewn plant. Casglu a dadansoddi data oedd prif waith y prosiect, roeddwn i’n casglu data oddi ar gronfa ddata cleifion yr ysbyty plant yng Nghaerdydd ac yna’n ei ddadansoddi adref. Tra roeddwn i yn yr ysbyty, roeddwn i mewn ystafell ar fy mhen fy hun, i ffwrdd oddi wrth ardaloedd clinigol, fel fod y prosiect ddim yn creu risg o ran COVID-19. Oherwydd natur y prosiect, roeddwn i’n ffodus na chafodd y cyfyngiadau lawer o effeith arno.
Trefnais i’r prosiect drwy Adran Ymchwil Plant a Phobl Ifanc Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro a rhoddon nhw fi mewn cysylltiad ag un o’r ymgynghorwyr cardioleg paediatrig yn yr ysbyty plant. Mae hefyd yn bosib cysylltu â thiwtor posib o’r brifysgol yn uniongyrchol neu gofyn i un o’r darlithwyr os oes ganddyn nhw gysylltiadau mewn maes sydd o ddiddordeb i chi.
Yn anffodus, oherwydd y cyfyngiadau, doedd dim posib i’r myfyrwyr oedd wedi trefnu prosiectau ymchwil mewn labordai fynd i’r labordai i gynnal arbrofion a chasglu eu data eu hunain. Er mwyn goresgyn hyn, mi wnaeth yr Ysgol Feddygaeth ofyn bod goruchwylwyr prosiectau yn rhoi set o ddata i’r myfyrwyr iddyn nhw ddadansoddi fel fod ganddynt rhywbeth i drafod yn eu adroddiadau.
Mae gofyn i’r addroddiadau fod oeddeutu wyth mil o eiriau (gyda’r posibilrwydd iddo fod 10% yn hirach neu’n fyrach) ac maent yn cynnwys cefndir i’r pwnc, eglurhad o beth wnaethon ni yn ystod y prosiect, ein canlyniadau ac ein trafodaeth o’r canlyniadau yn cynnwys unrhyw awgrymiadau ar gyfer newid practis clinigol ac unrhyw waith ymchwil gellir ei wneud yn y dyfodol. Mae’n braf bod ein ymchwil ni yn gallu cael effaith gadarnhaol ar ddatblygiadau mewn meddygaeth ac ar ofal cleifion yn y dyfodol.
Yn ogystal a’r adroddiad a chwblhau y prosiect ei hun, mae yna hefyd asesiadau eraill sy’n ymwneud a’r prosiect. Cyn cychwyn y prosiect, roedd rhaid i ni recordio cyflwyniad deg munud o hyd ble roedden ni’n cyflwyno’r cefndir i’r prosiect a’i bwrpas yn ogystal a nodau ac amcanion y prosiect. Ar ôl cwblhau’r gwaith ymarferol a darganfod rhai canlyniadau, roedd gofyn i ni greu poster (fel byddai rhwyun yn ei wneud ar gyfer cynhadledd wyddonol) o rai o’r prif ganlyniadau ac roedd yna sesiwn cwestiwn ac ateb deg munud o hŷd yn seiliedig ar y poster hwn yn cael ei gynnal dros Zoom.
Mi wnes i fwynhau’r prosiect yn fawr gan ei fod yn gyfle i wario cyfnod estynedig yn ymchwilio i waith sy’n bodoli’n barod a chynall ymchwil newydd mewn maes oedd o ddiddordeb mawr i mi. Roedd hefyd yn gyfle i ddod i adnabod y pobl sy’n gweithio yn yr adran yn yr ysbyty yn well sy’n agor drysau ar gyfer prosiectau yn y dyfodol. Mae cwblhau prosiectau ymchwil yn ran pwysig o wneud ceisiadau am swyddi fel meddyg oherwydd mae’n dangos y gallu i ganfod diffygion o fewn practis mewn adran a chynnal gwella ansawdd.
Gobeithio bod y blog yma wedi rhoi gwell syniad i chi o un rhan pwysig o radd ymsang, sef y prosiect ymchwil a sut mae’r brifysgol wedi gallu addasu rhain y flwyddyn hon. Ychwanegwch sylwad os hoffwch i mi ysgrifennu am unrhyw beth penodol yn y dyfodol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs Meddygaeth yng Nghaerdydd neu’r radd ymsang ffarmacoleg, gallwch gysylltu â fi ar y platfform Unibuddy.
- Advice for Students
- After University
- Ail flwyddyn
- Application Process
- Application Process
- Applying to University
- Arian
- Aros gartref
- Aros mewn
- Astudio
- Byw oddi cartref
- Cardiff University Experiences
- Chwaraeon
- Clearing
- Clybiau a chymdeithasau
- Cooking
- Cyd-letywyr
- Cymraeg
- Darlithoedd
- Dim ond yng Nghaerdydd
- Exams
- Global Opportunities
- Guest posts
- Heb ei gategoreiddio
- Medic Tips
- Mynd allan
- Neuaddau Preswyl
- Open Day
- Opportunities
- Postgraduate Study
- Rhentu tŷ
- Student Heroes
- Student Life
- Studying Online
- Swyddi a phrofiad gwaith
- Teithio
- Things to do in Cardiff
- Top Tips
- Trydedd flwyddyn
- UCAS Application
- Why University?
- Ymgartrefu