Gweithgareddau Allgyrsiol yn yr Ysgol Feddygol
16 Chwefror 2021Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr sy’n ymgeisio am le yn yr ysgol feddygol yn gwybod am bwysigrwydd gweithgareddau allgyrsiol: o brofiad gwaith i waith gwirfoddol i chwaraeon a’r celfyddydau. Ond beth am unwaith mae rhywun wedi cael lle? Mae mynd cam ymhellach na’r cwrs yn parhau i fod yn bwysig er mwyn gwneud unigolion yn fwy cystadleuol pan maent yn ymgeisio am le ar raglen hyfforddi neu am swydd penodol. Mae’n bwysig hefyd er mwyn cynnal cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, er mwyn hybu lles. Yn y blog yma, rwyf am ddisgrifio rhai o’r gweithgareddau allgyrsiol rydw i wedi cymryd rhan ynddyn nhw hyd yn hyn yn yr ysgol feddygol a disgrifio rhai o’r cyfleoedd eraill sydd yna y Mhrifysgol Caerdydd i fyfyrwyr.
Cymdeithasau
Mae yna nifer o gymdeithasau meddygol-benodol ym Mhrifysgol Caerdydd megis Cymdeithas Baediatreg, Clwb y Mynydd Bychan (Cymdeithas meddygol i siaradwyr Cymraeg), Cymdeithas Llawfeddygol a Chymdeithas Adolygu Meddygaeth. Mae’r holl gymdeithasau hyn yn trefnu sesiynau dysgu ac adolygu gyda myfyrwyr hŷn, meddygon neu gweithwyr iechyd ac academyddion eraill yn eu harwain: cyfle perffaith i atgoffa o ffeithiau pwysig cyn arholiad neu i wario amser ychwanegol yn dysgu am bwnc mae ganddoch chi ddiddordeb penodol ynddo. Mae hyn hefyd yn gyfle i fyfyrwyr hŷn ymarfer eu sgiliau addysgu, rhywbeth sy’n rhan bwysig o waith fel meddyg.
Mae rhai cymdeithasau hefyd yn cynnal rhaglenni gwirfoddoli. Mae nifer fawr o ymgeiswyr i’r ysgol feddygol yn trafod eu gwaith gwirfoddol ar ôl ysgol ac mae cyfle i barhau â’r gwaith pwysig yma yn y brifysgol. Mae’r Gymdeithas Baeditreg yn rhedeg sesiynau Achubwyr Asthma (Asthma Aware) i blant ysgolion cynradd yn ogystal â gwirfoddoli yn yr ystafell aros yn yr Uned Argyfwng Plant yn helpu gyda therapi chwarae. Dim ond un enghraifft yw hwn: mae llwyth o waith wirfoddol yn digwydd yn y brifysgol trwy’r Undeb Myfyrwyr a’i gymdeithasau.
Cynadleddau
Mae mynychu cynadleddau meddygol yn ffordd wych o ddangos diddordeb mewn maes penodol a datblygu gwybodaeth mwy manwl na beth mae’r cwrs yn ei gynnig. Mae hefyd yn ffordd effeithiol o rwydweithio a gwneud cysylltiadau â thiwtoriaid posib ar gyfer prosiectau ymchwil. Mae’r Gymdeithas Feddygol yn cynnal cynhadledd blynyddol mewn Cymraeg i feddygon a myfyrwyr ble mae cyflwyniadau hynod o ddiddorol gan arbenigwyr a gan fyfyrwyr yn cyflwyno prosiectau ymchwil. Ond does dim rhaid i gynhadledd fod yn un i feddygon, mae nifer fawr o gynadleddau yn cael eu trefnu gan fyfyrwyr i fyfyrwyr mewn nifer o feysydd ar draws y wlad. Yn ystod fy amser yn yr ysgol feddygol, rydw i wedi mynychu cynadleddau Iechyd Global, Oncoleg a Phaediatreg yng Nghaerdydd. Yn ogystal, rydw i wedi mynychu cynadleddau Paediatreg a Chardioleg ym Mirmingham. Yn aml, mae tystysgrif ar gael am fynychu cynadleddau ac mae’r rhain yn bwysig er mwyn dangos tystiolaeth o weithgareddau allgyrsiol a diddordeb yn y maes pan yn ceisio am le ar raglen hyfforddiant. Mae yna hefyd gyfle i gyflwyno gwaith yn y cynadleddau hyn, rhywbeth sy’n edrych yn drawiadol ar gais rhaglen hyfforddiant.
Ieithoedd
Mae nifer o fyfyrwyr wedi dysgu iaith dramor yn y gorffenol ac mae gan rai gymhwyster TGAU neu Lefel A mewn pwnc ieithyddol: roedd gen i gymhwyster TGAU mewn Almaeneg. Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig gwersi iaith yn rhad ac am ddim trwy Ieithoedd i Bawb. Mae sawl lefel ar gael felly mae’n bosib parhau gyda dysgu gorffenol neu dewis iaith hollol newydd. Roeddwn i wedi cael egwyl o ddwy flynedd i ffwrdd o Almaeneg felly dechreuais i gyda lefel A2. Mae’r gwersi yn para dwy awr ac mae un bob wythnos. Fel arfer mae dewis o amser a diwrnod. Byddech yn cael eich dysgu gan diwtor mewn grŵp bach o fyfyrwyr ac yn ymarfer darllen, ysgrifennu, gwrnando a siarad yr iaith. Mae cyfathrebu yn hynod o bwysig mewn Meddygaeth felly gall y gallu i siarad iaith ychwanegol fod yn fuddiol.
Chwaraeon
Mae nifer o ymgeiswyr i’r ysgol feddygol yn gwneud rhyw fath o chwaraeon ac mae rhai yn gapten eu tîm ysgol neu dîm lleol. Gall hyn barhau yn yr ysgol feddygol. Yn ogystal â phrif dimau chwaraeon y brifysgol, mae yna nifer o dimau chwaraeon meddygol sy’n hyfforddi ar amseroedd sy’n gyfleus ac yn gweithio o amgylch yr amserlen prysur. Mae gan bob tîm bwyllgor yn cynnwys capten a gall y sgiliau feithrinir fel arweinydd yn y maes chwaraeon fod o fudd ar y wardiau: mae’n bwysig bod meddygon yn gallu bod yn arweinwyr a rheoli sefyllfa straenus.
Casgliad
Gobeithio bod y blog yma wedi dysgu dau beth i chi. Yn gyntaf, ei bod yn bosib parhau i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol pan yn yr ysgol feddygol. Yn ail, ei fod yn bwysig i wneud hynny! Mi fyddwn i’n hapus i ateb unrhyw gwestiynau am weithgareddau penodol. Os fyddwch chi’n hoffi darllen mwy am y cwrs meddygaeth ei hun, rwyf eisioes wedi ysgrifennu blogiau am ddysgu ar sail achosion a’r llwybr addysg wledig. Awgrymwch unrhyw bynciau fyddech chi’n hoffi i mi ysgrifennu amdanynt yn y sylwadau isod.
- Advice for Students
- After University
- Ail flwyddyn
- Application Process
- Application Process
- Applying to University
- Arian
- Aros gartref
- Aros mewn
- Astudio
- Byw oddi cartref
- Cardiff University Experiences
- Chwaraeon
- Clearing
- Clybiau a chymdeithasau
- Cooking
- Cyd-letywyr
- Cymraeg
- Darlithoedd
- Dim ond yng Nghaerdydd
- Exams
- Global Opportunities
- Guest posts
- Heb ei gategoreiddio
- Medic Tips
- Mynd allan
- Neuaddau Preswyl
- Open Day
- Opportunities
- Postgraduate Study
- Rhentu tŷ
- Student Heroes
- Student Life
- Studying Online
- Swyddi a phrofiad gwaith
- Teithio
- Things to do in Cardiff
- Top Tips
- Trydedd flwyddyn
- UCAS Application
- Why University?
- Ymgartrefu