Cipolwg o Brifysgol Caerdydd
20 Mawrth 2013Blas o’r jolihoetian diweddar
Iawn – oni’n meddwl y byswn i’n rhoi yp-det bach i chi ar yr hyn dwi wedi bod yn ei wneud yr wthnosa diwetha ma. Mi wna i ddechra hefo Chwefror 21ain. Mi o’dd hi’n noson grôl hefo’r gymdeithas Gymraeg sef “Y Gym Gym” (cymdeithas y dylai pob myfyriwr Cymraeg eu hiaith ymuno â hi os ydyn nhw’n joio cymdeithasu yn iaith y nefodd, gwisgoedd ffansi gwallgo a wel – mwynhau ambell beintyn yr un pryd!). Thema’r crôl oedd pencampwriaeth y chwe gwlad a mi oedd yn rhaid i bawb oedd am fynychu wisgo fyny fel rhywbeth perthnasol â un o’r gwledydd. Iwerddon oedd dewis fy nwy ffrind a felly fe aethon nhw fel peintiau Guiness – mi wisgon nhw ddillad du i gyd, peintio telyn yr un ar eu bochau a thaflu llond lle o bowdwr talc ar eu gwalltiau i gael effaith “froth” trwchus peint o Guiness. Wir yr ‘wan – mi roeddan nhw’n edrych yn beintia’ bach da ond faswn i ddim wedi lecio bod hefo nhw drwy’r nos efo’r talc na’n chwythu i bob man! Er i’r ddwy fwynhau noson wych a choeliwch i fi- mi o’dd yna ddigon o straeon difyr, penderfynu methu’r crôl wnes i a’n ffrind arall Elin. Mi oeddan ni’n ffansi chenj bach a thrwy’r wythnos drwy gerdded i’r darlithoedd, mi oedd na hysbysebu ymhob man ei bod hi’n wythnos “Go Global” yn y brifysgol. Wythnos i ddathlu fod amryw o ddiwylliannau a chymunedau rhyngwladol yn bodoli yn y brifysgol a bod Caerdydd yn gyrchfan i fyfyrwyr o bob cwr o’r byd. Pam cyfyngu’n hunain felly i grôls y Gym Gym drwy’r adeg gyda’r holl bethau yma’n mynd ymlaen? Dyna ddewis felly mynd i noson “Refugee Rhythms” oedd yn rhan o’r wythnos “Go Global” yn yr Undeb. Yn chwarae fel prif fand y noson oedd “The Mankala Band”. Band regge o Fryste sy’n chwarae rhythmau Affrig drwy gyfuno offerynnau jazz yn y bwriad o greu awyrgylch ddawns bositif, egniol. Mi lwyddon nhw hynny i’r dim gyda’r lle dan ei sang yn mwynhau rhyddid y gerddoriaeth. Mi oedd hi’n braf gweld amrywiaeth o bobl, dod i nabod pobl newydd a cheisio bwydydd o Irac a Zimbabwe (er nad o’n i’r ffan mwyaf, waeth i mi fod yn onast ddim)! Mi ges i fy nghyffroi hyd yn oed fwy wrth sylweddoli fod yna ŵyl seidr a chwerw yn yr ystafell drws nesaf. Beth oedd rhaid gwneud felly? R’odd y noson “Refugee Rhythms” yn £5 a’r ŵyl seidr a chwrw’n £3. Er fod arian yn dynn, mi o’dd y cyfleoedd mor agored a chyffrous, un edrychiad rhwng Elin a fi- a dyna ni- mynd i’r ddwy oedd yr ateb! Pam ddim!! Unwaith ti’n byw ac unwaith ti’n stiwdant! Dyna fynd i fewn i’r neuadd lle roedd yna fandia’n canu gwerin a llwyth o fyfyrwyr yn sgipio rownd y lle fel petha gwyllt. AAAA!!! Mi o’n i ‘di gwirioni yn enwedig wrth dderbyn cwpan peint Gwynt y Ddraig “Ale and Cider Festival Society 2013”- y “souvenir” gora i mi ei gael erioed. Mi oeddech chi wedyn yn cerdded o amgylch yr amryw stondinau gyda’ch gwydr yn barod i brofi amryw o winoedd, seidr, cwrw a medd. Mi roedd gan bawb siart yn nodi melyster yr amryw seidr ond gan nad ydw i’r “connoisseur” gora’ mi oni’n gadal iddyn nhw ddewis drostai. Rhwng pob jochiad o seidr neu win cartref, roedd Elin a mi’n mynd nôl a blaen i’r “Refugee Rhythms”. Yn bendant gweld “The Mankala Band” oedd yr uchafbwynt, a mi fyddai’n edrych am eu gigiau nesaf heb os!!
Dyna ddigon o’n hanes i’n jolihoetian yn y ddinas. Mi oeddwn i’n meddwl y baswn i’n rhoi blas i chi o’r hyn wnes i rhwng darlithoedd wythnos yma. Dwi’n dilyn modiwl sgwennu creadigol ar hyn o bryd a ma’n ofynnol i mi gyflawni portffolio. Fy mwriad yw cyflawni cyfres o straeon byrion felly’r hyn wnes i er mwyn ceisio cael ysbrydoliaeth oedd mynd i ddarllen a sgwennu chydig mewn amryw gaffis ar Heol Crwys. 3 paned a 3 cacen mewn 3 caffi yn ddiweddarach a nid yn unig wnes i gyflawni gwaith ond dwi’n siwr mod i hefyd â’r arbenigedd I sgwennu adolygiada am gaffis Caerdydd. Dwi’n mynd i wirfoddoli gyda RNIB Caerdydd pnawn ma drwy’r SVC- sefydliad yr undeb sy’n annog myfyrwyr i wirfoddoli. Bydd rhaid i mi gael fy recordio’n darllen straeon plant er mwyn creu deunyddiau i blant dall. Rwbath I drio roi ar y Cv. Adawa I chi wbod sut a’th hi! Am y tro!

- Advice for Students
- After University
- Ail flwyddyn
- Application Process
- Application Process
- Applying to University
- Arian
- Aros gartref
- Aros mewn
- Astudio
- Byw oddi cartref
- Cardiff University Experiences
- Chwaraeon
- Clearing
- Clybiau a chymdeithasau
- Cooking
- Cyd-letywyr
- Cymraeg
- Darlithoedd
- Dim ond yng Nghaerdydd
- Exams
- Global Opportunities
- Guest posts
- Heb ei gategoreiddio
- Medic Tips
- Mynd allan
- Neuaddau Preswyl
- Open Day
- Opportunities
- Postgraduate Study
- Rhentu tŷ
- Student Heroes
- Student Life
- Studying Online
- Swyddi a phrofiad gwaith
- Teithio
- Things to do in Cardiff
- Top Tips
- Trydedd flwyddyn
- UCAS Application
- Why University?
- Ymgartrefu