Skip to main content

Cymraeg

Semester ym Mhrifysgol Caerdydd Mewn Chydig Eiria… Wel Bron Iawn!

28 March 2013
Cardiff University Buildings in the snow.

Pic:Tom Martin
© WALES NEWS SERVICE
Cardiff University Buildings in the snow. Pic:Tom Martin © WALES NEWS SERVICE

Dwi newydd dorri ffwrdd am y pasg a dwi wir ddim isho mynd heb flogio am rai o uchafbwyntia’r tymor.  Mashwr gen i y cewch i’ch diflasu am fy hanas i’n trio sgwennu traethoda dros y pasg yn itha buan (dwi’m isho chi gal cam-argraff o fywyd y ddinas).  Felly dyma ni!!

 Uchafbwyntia’r Gym Gym

Dawns Fawreddog y Gym Gym (y ball i chi a fi!)

I brofi bod na elfen o safon yn perthyn i’r Gym Gym (y Gymdeithas Gymraeg) mi gafon ni ddawns yng ngwesty’r Hilton. Pryd bwyd 3 chwrs, gwin ar ôl cyrra’dd, carpad coch a’r sbloets i gyd. Braidd yn posh i be dwi di arfar ond dyna ni, “cyfla i brofi petha newydd” di prifysgol mashwr.  Yn bersonol mi oni’n gweld y prif gwrs- y cyw iâr yn flasus iawn ond yn ôl fy ffrind dodd o’m ddigon “tender”.  Cyw iâr di cyw iâr ac os ydach i’n licio cyw iâr sa chi di joio’r prif gwrs.  Dyna rhoi Wil yn ei wely felly! Ella nad oddani cweit ddigon “classy” i be oeddan ni wedi ddisgwl gan ta jwg o goctel yn hytrach na gwin o’dd ar y bwrdd- ond be di’r ots, mi oddon blasu’n well prun bynnag.  Ar ôl tynnu llunia fo ffotograffydd proffesiynol a joio digon o fiwsig, coctels a gwin ffwrdd â phawb i Tiger Tiger.  Na’i ddim manylu am weddill y noson…mai  braidd yn niwlog ar ôl y coctels a’r gwin ond mi odd hi’n noson wych ac yn profi bod aeloda’r Gym Gym hyd yn oed yn meddu ar fymryn o steil!!

cyffyrddiada personol i'r bwrdd-  Ciwt de!

Trip Rygbi Paris

Mi odd y trip rygbi blynyddol i Baris y flwyddyn yma yn uchafbwynt heb os.  Cyn hyd yn oed dechra ar y daith mi oni di gwirioni bo ni’n cal trip bach ar y ferry (dwi’n itha hawdd i’m mhlesio dwi’n gwbod).  Ar ôl siwrna bws hir i Dover felly, dyma griw anfarth ohonan ni yn croesi’r môr, joio peintyn yr un pryd a manteisio ar y cyfle i brynu diod rhad yn y “duty free”.   Y cam nesa’?  Teithio holl ffordd  i Baris ar y bws a chyffroi hyd yn oed yn fwy wrth yfed y gwin rhad o’r duty free.  Cyrraedd yr hostel yn Paris, yr hogia’i gyd yn taflu chydig o ddŵr ar eu wyneba a’r genod yn g’neud run fath fo chydig o golur ac awê, ffwrdd â phawb i ganol y ddinas (peidiwch a gofyn i fi be o’dd enw’r ardal na’r baria) ond mi oedd y Gym Gym wedi trefnu i fynd i’r un lle â chriw Aber a Bangor.  Noson grêt a chyfla i ddal i fyny hefo ffrindia o golega erill ynghŷd a mwydro Ffrancwyr hefo fy Ffrangeg penigamp hunan honedig yr un pryd!!

Bora’r gêm mi o’dd na gyfla i gal gweld chydig o Baris a mynd i ardal y Tŵr Eiffel, coeliwch ne beidio mi lwyddodd criw da i godi mewn pryd!

Y Gym Gym o flaen y twr Eiffel!

Ar ôl bora diwylliedig felly, dyna fynd i wylio’r gem mewn bar yn y pnawn, mi a’th rhai hefyd i’r Stade de France i wylio’r gêm.  Mi oeddan ni gyd (heblaw’r criw a aeth i’r stadiwm i wylio’r gêm) gyda’n gilydd a wedi’n gwasgu mewn un bar cyfyng.  Awyrgylch ffantastig yn enwedig wrth i Gymru drechu Ffrainc 16-6!!  Rheswm pellach i ddathlu a do wir- mi lwyddon ni wneud hynny am weddill y noson a gweddill y daith adra!!

Crôl Steddfod

Ma’r crôl steddfod yn un o uchafbwyntia blynyddol y Gym Gym a ma’n ofynnol i’r flwyddyn gyntaf wisgo fel derwyddon wedi eu urddo mewn gwyrdd, yr ail flwyddyn i wisgo glas a’r drydedd i wisgo fel y derwyddon anrhydeddus mewn gwyn.  Dyma’r crôl:

Mi odd na ddigon o antur wrth i’r holl dderwyddon ymlwybro hyd strydoedd Caerdydd felly.  Digon o antur a digon o bobl yn sbio’n hurt arnom ni ‘fyd, ond ma hynny’n rhan o’r hwyl!   Un o’r petha dwi’n ei fwynhau fwya am grôls y Gym Gym ydi pam dani’n diweddu’r noson yng Nghlwb Ifor Bach.  Ma’r Gym Gym yn meddiannu’r llawr ucha i gyd gyda DJ sy’n bloeddio cerddoriaeth Gymraeg drwy’r nos.  O Meic Stevens i Edward H, O Bryn Fôn i Huw Chiswell, o Eden i Mega, o’r Ods i’r Bandana, dani’n symud trwy’r degawda drwy ganeuon cyfarwydd. A ma’n rhaid i mi ddeud, dwi’n siŵr mod i wedi mynd ar nerfa’r DJ yn “requestio” John ac Alun sawl gwaith, dwi’n gallu bod mor cŵl weithia… Fy ffordd fy hun ges i prun bynnag- mi o’dd y “Chwarelwr” i’w glwad ar ei ora!! HAHA!

Gêm ola’ pencampwriaeth y chwe gwlad neu CYMRU’N RHOI CWEIR I LLOEGR!

Dwi ddim am dreulio llawar o amsar yn manylu ar hyn.  Ma pawb yn gwbod be di’r sgôr erbyn hyn hehe (ddalltoch chi be nesi’n fyna ;p) Wel, mi wnai fanteisio ar y cyfla i’ch hatgoffa chi- 30-3 i Gymru yn erbyn Lloegr!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!! MI ODD Y MOCHYN DU DAN EI SANG ( Y DAFARN DYLSACH I YN BENDANT EI DDEFNYDDIO YN YSTOD TYMHORA RYGBI YNG NGHAERDYDD.  DOES ‘NA DDIM RHAID DWEUD FOD YNA HEN DDATHLU WEDDILL Y DIWRNOD/NOSON.  Un peth arall dwi am eich rhybuddio chi ynglŷn â dewis Caerdydd fel prifysgol – mi gewch chi ddigon o fisitors o adra adega gêm isio aros hefo chi, ond hynny sy’n creu’r hwyl!

Stryd Harriet  yn dathlu’r fuddugoliaeth:

Dwi’n meddwl y dylwn i gloi’r blog yma ar nodyn y fuddugoliaeth: CYMRU 30 Lloegr 3!!!!!!!!!!!!!!! Dyna sy’n braf ‘ma, dachi yng nghanol bwrlwm  y gema rygbi.. na’i jest y’ch hatgoffa chi… CYMRU 30 – LLOEGR 3!