Skip to main content

Sefydliad Arloesi Sero NetSero Net

Manteisio ar Bŵer Gwyrdd y Byd Academaidd: Cyfraniad Prifysgol Caerdydd at Sero Net

24 Ebrill 2025

 

Yn 2019, gwnaeth Prifysgol Caerdydd ddatgan argyfwng o ran yr hinsawdd, a chyhoeddi ein nod i ddatgarboneiddio ein campws yn llawn a’r gweithgareddau y mae’n eu cefnogi. Yn y blog hwn, yr Athro Roger Whitaker, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter, yn rhoi trosolwg o’r camau ymarferol a’r arweinyddiaeth ym maes ymchwil y mae Prifysgol Caerdydd wedi’u cymryd i gyrraedd sero net.

A ninnau wedi ein hysbrydoli gan Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, rydyn ni wedi addo creu prifysgol sy’n ffyniannus, yn wydn, yn iachach ac yn gyfrifol yn fyd-eang. Rydyn ni wedi ymrwymo i hyrwyddo ynni glân, lleihau gwastraff, annog bioamrywiaeth, a defnyddio ein harbenigedd sy’n arwain y byd er mwyn gwella ein hamgylcheddau lleol a byd-eang.

Fodd bynnag, mae nodau’n ddiystyr oni bai bod camau gweithredu yn dilyn. Felly, beth ydyn ni’n ei wneud i fynd i’r afael â’r her hon?

Dadfuddsoddi i ailfuddsoddi

Rydyn ni wedi cymryd camau ystyrlon i sicrhau bod ein campws, a’r gweithgarwch y mae’n ei gefnogi, yn ymateb yn addas i’r her o ran cynaliadwyedd. Mewn rhai mannau ar ein hystâd, rydyn ni wedi gosod paneli solar ar doeau, goleuadau LED, pympiau gwres o’r ddaear a systemau rheoli adeiladau clyfar i sicrhau bod adeiladau mor effeithlon â posibl. Rydyn ni hefyd yn newid i fflyd o gerbydau trydan. Hefyd, yn ddiweddar, dyfarnwyd ardystiad ‘ardderchog’ i gyfleuster cyfoes y Ganolfan Ymchwil Drosi gan BREEAM, dull asesu cynaliadwyedd o’r radd flaenaf ym maes yr amgylchedd adeiledig a seilwaith.

Dros y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi dechrau lleihau maint ein hystâd. Mae ffyrdd gwell o weithio, datblygiadau ym maes technoleg gydweithredol, a newid i arferion gweithio cyfunol wedi ein galluogi i ddadfuddsoddi mewn rhannau o’n hystâd sydd bellach yn hen-ffasiwn ac yn aneffeithlon. Yn ddiweddar, llofnododd ein His-Ganghellor, yr Athro Wendy Larner, y Concordat er Cynaliadwyedd Amgylcheddol Arferion Ymchwil ac Arloesi, sy’n cydnabod bod angen newid sut rydym yn cynnal ymchwil ac yn arloesi, yn ogystal â hyrwyddo atebion ehangach i effaith amgylcheddol ymchwil y brifysgol. Mae’r rhain yn gamau cyntaf cadarnhaol wrth i ni ymrwymiadau i gyrraedd sero net.

Ymchwil sy’n cael effaith

Ty Solcer

Mae ein hymrwymiad i gynnig atebion i ddatgarboneiddio’r amgylchedd adeiledig yn mynd y tu hwnt i newidiadau ymarferol ar ein campws ein hunain. Ers 2015, rydyn ni wedi ymwneud â phrosiect Tŷ SOLCER, sef y tŷ ynni-positif fforddiadwy cyntaf i gael ei adeiladu yn y DU ac fe’i gynlluniwyd i gynhyrchu mwy o ynni dros flwyddyn na sydd ei angen i wresogi, awyru, goleuo a phweru dyfeisiau yn yr adeilad. Mae’r data a gasglwyd wedi dangos yr effaith gadarnhaol y gall ‘ymagwedd systemau tai cyfan’ ei chael, ac mae wedi arwain at fuddsoddiadau grant gwerth miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygwyr awdurdodau preifat a lleol, gan arwain at adeiladu dros 1400 o dai fforddiadwy a charbon isel.

Mae ein Prosiect Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel yn gweithio i ddatgarboneiddio’r sector tai drwy gynnig gwasanaethau ôl-ffitio sy’n effeithlon o ran ynni. Mae’n cefnogi’r gwaith o drawsnewid Cymru i fod yn genedl sero net, drwy ganolbwyntio ar gynnwys technolegau ynni adnewyddadwy, gwell inswleiddio, a systemau rheoli ynni clyfar mewn cartrefi ac adeiladau, gyda’r nod yn y pen draw o wneud adeiladau yn fwy cynaliadwy a chost-effeithlon i’r rhieni sy’n eu defnyddio.

Mae prosiect BuildZero, a grëwyd ar y cyd â phrifysgolion blaenllaw eraill yn y DU, yn ystyried sut y gellid cymhwyso egwyddorion yr economi gylchol i’r sector adeiladu leihau allyriadau a gwastraff y sector i ddim. Mae ein hymchwilwyr yn ystyried ffyrdd arloesol o ailbwrpasu deunyddiau adeiladu a ddefnyddir ar hyn o bryd, lleihau gwastraff adeiladu, a lleihau allyriadau sy’n gysylltiedig â datblygiadau newydd.

Prosiect Amburn

Rydyn ni’n ystyried y posibilrwydd y gall amonia fod yn danwydd di-garbon posibl. Mewn cydweithrediad â phartner yn y diwydiant, Flogas, mae ymchwilwyr y Sefydliad Arloesi Sero Net wedi bod yn profi boeler stêm amonia carbon isel cyntaf y byd ar safle’r brifysgol. Mae prosiect Amburn yn canolbwyntio ar ddefnyddio amonia fel ffordd o storio ynni ac yn ddewis amgen glân o ran tanwydd, yn enwedig mewn sectorau anodd eu datgarboneiddio fel morgludiant a’r diwydiannau trwm. Mae ymchwilwyr yn ymchwilio i nodweddion hylosgi amonia ac yn datblygu dulliau effeithlon ar gyfer ei gynhyrchu, ei storio a’i ddefnyddio i sicrhau mai effaith fach iawn y byddai’n ei chael ar yr amgylchedd.

Mae cydweithredu rhyngwladol yn rhan allweddol o’n strategaeth ymchwil. Rydym yn rhan o brosiect Ewrop gyfan o’r enw FASTER (Flexible Ammonia Synthesis Technology for Energy Storage) sy’n canolbwyntio ar drosi ynni solar a gwynt yn amonia. Oherwydd bod modd storio a chludo amonia’n rhwydd, mae ganddo botensial enfawr i leihau allyriadau carbon a chynhyrchu ynni effeithlon a glanach, yn ogystal â mynd i’r afael â’r amrywiadau tymhorol a geir wrth gynhyrchu a defnyddio ynni. Yn ddiweddar, gyda chydweithwyr yn Tsieina, rydym wedi datblygu ffordd newydd o greu hydrogen sy’n dileu allyriadau carbon deuocsid yn uniongyrchol yn eu tarddle. Drwy ddefnyddio bioethanol o wastraff fferm, ynghyd â dŵr poeth iawn a chatalydd deufetelaidd newydd, gall ein gwyddonwyr greu hydrogen at ddibenion ynni glân, sy’n gallu helpu i leihau allyriadau carbon.

Cydweithio â Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd

Dydy ymchwil dda ddim yn gallu bodoli ar ei phen ei hun, ac mae gofyn cael partneriaeth i roi hwb i arloesedd. Ers 2017, rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda Cardiff Capital Region ar sawl prosiect trawsnewidiol sydd wedi sicrhau cyllid sylweddol i ymchwil ac arloesi sylweddol yn y rhanbarth, gan gynnwys llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth arloesol gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd a sefydliadau addysg uwch a phellach eraill yn y De-ddwyrain yn 2024.

Mae gan ranbarth y De-ddwyrain botensial sylweddol i arwain y gwaith o sefydlu ar systemau ynni amgen. Mae gwaith CCR Energy (CCRE) o drawsnewid safle hen Orsaf Bŵer Aberddawan yn addo trawsnewid y rhanbarth cyfan ar sail twf glân. Gan adeiladu ar brosiect Amburn, byddwn yn adeiladu ac yn rhedeg boeler stêm amonia carbon isel yn Aberddawan, ac mae gennym ddyheadau hirdymor i sefydlu cyfleuster ymchwil amonia oddi ar y campws ac ar y safle. Byddwn yn archwilio i’r hyn sy’n bosibl gyda thechnoleg amaethyddol, gan ymchwilio i ffermio fertigol, tyfu amgylchedd dan reolaeth, a’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial. Mae tyrbinau llanw, defnydd lludw tanwydd wedi’i falu, systemau solar ffotofoltäig, a storio ynni hefyd yn feysydd diddorol rydyn ni’n awyddus i’w harchwilio gyda CCRE.

Cymryd rhan

Mae ein hymchwil wedi creu dyfodol gwell i bawb a bydd yn parhau i wneud hynny. Mae llu o ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan yn y gwaith. Holwch am ein Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth, fydd yn manteisio ar ein sgiliau a’n harbenigedd academaidd i helpu i wella eich cystadleurwydd, eich cynhyrchiant a’ch perfformiad. Cewch fynediad i lawer o’r cannoedd o dechnolegau a bron i gant o batentau yn ein portffolio eiddo deallusol drwy gysylltu â’n tîm Trosglwyddo Technoleg. Yn olaf, gallwch fanteisiwch ar ein cyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus, gan gynnwys cyfres o gyrsiau ar sero neta lansiwyd yn ddiweddar i hybu sgiliau gwyrdd.