Skip to main content

Adeiladau'r campws

Gweithio mewn ‘Symbiosis’ gyda chwmnïau deillio i ddiogelu eu heiddo deallusol

10 Mawrth 2025

Ym Mhrifysgol Caerdydd, rydyn ni’n falch o’n hanes o drosi ymchwil academaidd yn gwmnïau deillio a chwmnïau newydd arloesol, a ffurfio ac adeiladu partneriaethau cynhyrchiol mewn diwydiant. Yn y blog hwn rydyn ni’n cwrdd ag ychwanegiad newydd i deulu Arloesedd Caerdydd, Symbiosis IP, sy’n sôn am eu gwaith hanfodol yn troi uchelgeisiau ymchwil yn realiti busnes. 

Lee Samuel

Anaml y mae troi ymchwil academaidd yn fusnes llwyddiannus yn broses syml, rhywbeth y mae Lee Samuel, cyfarwyddwr ac atwrnai patentau Symbiosis IP, yn ei ddeall yn iawn.

“Mae gan sefydliadau ymchwil ac academaidd lawer o bethau pwysig i’w hystyried yn gynnar iawn yn y broses, yn enwedig mewn perthynas â’r eiddo deallusol yn eu gwaith,” eglura.

“Yn ogystal â phenderfynu pa fath o eiddo deallusol a allai fod ganddyn nhw, bydd angen i sefydliadau a busnesau newydd ystyried y ffordd orau o’i ddiogelu, ac a all yr eiddo deallusol hwnnw drosi’n fusnes hyfyw ymhellach ymlaen. Yn y gwyddorau bywyd yn benodol, lle mae’r ymchwil yn aml yn dechnegol a manwl iawn, mae’n haws dweud na gwneud.”

Serch hynny, dyna beth mae’r tîm yn Symbiosis IP yna i’w wneud i’w cleientiaid, gan ddarparu gwasanaethau cynghori masnachol mewn perthynas â thwrneiod patentau ac eiddo deallusol i sefydliadau ymchwil academaidd a busnesau o bob maint, o gwmnïau deillio cyfnod cynnar i gorfforaethau rhyngwladol.

“Ein harbenigeddau sylfaenol yw gwyddorau bywyd a chemeg, a lle bo angen gallwn ni hefyd dynnu ar arbenigedd technegol ym meysydd meddalwedd, electroneg a pheirianneg trwy ein cydweithwyr yn y twrneiod patentau Adamson Jones,” meddai Lee.

“Mae gan bob un o’r twrneiod patentau yn ein tîm gefndiroedd ymchwil yn y byd academaidd, ac maen nhw i gyd yn meddu ar raddau ôl-ddoethuriaeth a mwy. Mae hyn yn golygu bod gennym y wybodaeth angenrheidiol i balu’n ddyfnach i ddealltwriaeth o ymchwil yr academydd ac adeiladu syniad o’r hyn a all, neu na all, amddiffyn eiddo deallusol. Yn ogystal, rydyn ni’n gallu tynnu ar y wybodaeth dechnegol hon i archwilio’r ymchwil ac edrych ar ffyrdd o ychwanegu gwerth at yr eiddo deallusol ar ran ein cleientiaid.”

Pwy yw Symbiosis IP?

Sefydlwyd Symbiosis IP yn 2008 gan Julie Myint, Atwrnai Patentau Siartredig cymwys yn y DU ac Atwrnai Patentau Ewropeaidd Cofrestredig gyda chefndir mewn ffisioleg a sŵoleg.

Mae hi wedi’i lleoli yng Nghampws Arloesedd Prifysgol Caerdydd ochr yn ochr â Lee Samuel, a ymunodd â Symbiosis IP yn 2011 fel hyfforddai, ac sydd bellach yn gweithio fel cyd-gyfarwyddwr ac atwrnai patentau i’r busnes.

“Mae Symbiosis IP wedi tyfu’n sylweddol o ran maint a gallu ers ei sefydlu 25 mlynedd yn ôl,” meddai Lee. “Yn 2022, cafodd y busnes ei gaffael gan y grŵp gwasanaethau proffesiynol Gateley, a ehangodd ein galluoedd i wasanaethau cyfreithiol trwy Gateley Legal, yn ogystal â gwasanaethau nodau masnach a phatentau o fewn gwahanol feysydd technegol trwy Adamson Jones.”

Ehangodd gwasanaethau Symbiosis IP ei hun ymhellach fyth gyda phenodiad arbenigwyr trwyddedu a masnacheiddio eiddo deallusol, Andrew Tingey ac Amy Lam, yn 2023.

“Rydyn ni bellach yn un o’r ychydig gwmnïau atwrneiaeth patentau – os nad yr unig un – yn y DU sydd ag arbenigwyr sy’n gallu cynnig cyngor amddiffyn a masnacheiddio, o baratoi eiddo deallusol ar gyfer trwyddedu i fuddsoddi neu werthu. Rydyn ni felly mewn sefyllfa unigryw i roi cyngor ar bob elfen o ymchwil drosi, o ddechrau’r broses i’r diwedd,” meddai Lee.

Mae rhai o’r tîm Symbiosis IP

Pam Arloesedd Caerdydd?

Mae Symbiosis IP wedi ymrwymo i gefnogi cwmnïau newydd a chwmnïau deillio cyfnod cynnar ers ei sefydlu.

“Y nod erioed fu gwasanaethu cymuned academaidd y DU, a all, o’i meithrin yn iawn, gael effaith sylweddol ar economi’r DU,” meddai Lee.

“Yn anffodus, y tu allan i’r ‘Triongl Aur’ bondigrybwyll yn Llundain, Rhydychen a Chaergrawnt, mae cwmnïau deillio yn aml yn ei chael hi’n anodd cael gafael ar y cyllid a’r cymorth proffesiynol sydd eu hangen arnyn nhw i gyrraedd y cam prawf cysyniad a sicrhau buddsoddiad preifat.”

Mewn adroddiad gan Symbiosis IP yn dadansoddi teimladau ymhlith swyddfeydd trosglwyddo technoleg prifysgolion (TTOs), mynegodd ymatebwyr eu rhwystredigaeth gyda chanllawiau diweddar a gynlluniwyd i gefnogi cwmnïau deillio rhanbarthol, gan awgrymu bod dosbarthu cyllid a gwasanaethau cymorth yn decach yn bwysicach.

“Roedd y canllawiau’n canolbwyntio ar leihau cyfrannau ecwiti, ac nid dyna oedd y broblem i lawer o TTOs,” meddai Lee. “Iddyn nhw, roedd yn ymwneud yn fwy â chydnabod amrywiaeth ecosystem cwmnïau deillio’r DU a sicrhau nad yw adnoddau’n cael eu sianelu i dde-ddwyrain Lloegr yn unig.”

Gan dynnu sylw at Adolygiad Annibynnol Cwmnïau Deillio Prifysgolion 2023, a argymhellodd wella mynediad at hyfforddiant, cyngor a chymorth, meddai Lee: “Rydyn ni bob amser wedi anelu at fod ‘ar lawr gwlad’ i’n cleientiaid, fel petai, gan gynnig mynediad cyflym a hawdd at y cyngor a’r gefnogaeth sydd eu hangen ar fusnesau cyfnod cynnar mewn perthynas â’u heiddo deallusol.

“Dyna pam y dewison ni Arloesedd Caerdydd fel un o’n lleoliadau: i fod ynghanol yr academyddion a’r sylfaenwyr y mae angen ein cefnogaeth ni arnyn nhw i gyrraedd y cam nesaf yn eu taith fusnes.”

Yn ogystal â Chaerdydd, mae aelodau o’r tîm hefyd wedi’u lleoli yn Efrog, Sheffield a Llundain, gyda chefnogaeth bellach yn cael ei chynnig gan Adamson Jones yn Nottingham, Birmingham a Leeds.

“Ond nid yw hynny’n golygu mai dim ond yr ardaloedd hyn rydyn ni’n eu gwasanaethu,” meddai Lee. “Rydyn ni’n fodlon teithio ar draws y DU i gefnogi ein cleientiaid a gweld yn uniongyrchol sut maen nhw’n gweithio a beth sydd ei angen arnyn nhw.

“Mae ein nod yn fwy na darparu amddiffyniad patent a fydd yn casglu llwch ar ôl ychydig flynyddoedd – mae’n ymwneud â harneisio eiddo deallusol busnes a’i ddefnyddio’n strategol i ryddhau cymaint o werth â phosibl, boed ar y camau cynnar o sicrhau cyllid, neu ar y ffordd i uno neu gaffael.”