Ystyried y posibiliadau: Mae Cisco yn symud i Arloesedd Caerdydd wedi creu cyfleoedd newydd
6 Mawrth 2025
Mae Cisco yn arweinydd technoleg ledled y byd sy’n cysylltu popeth gyda’i gilydd yn ddiogel i wneud unrhyw beth yn bosibl. Eu diben yw ysgogi dyfodol cynhwysol i bob un gan helpu cwsmeriaid i feddwl eto am eu cymwysiadau, ysgogi gweithio hybrid, diogelu eu mentrau, trawsnewid eu hisadeiledd, ac i gyflawni eu nodau cynaliadwyedd.
Mae Cisco y DU ac Iwerddon wrth wraidd dyfodol cynhwysol, yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid yn y sector cyhoeddus a’r sector breifat, gan gynnwys arbenigwyr blaenllaw’r wlad, o’r Asiantaeth Troseddu Genedlaethol a’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, i Bencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU (GCHQ) a’r Internet Watch Foundation.
Symudodd Cisco i ganolfan meithrin busnesau Arloesedd Caerdydd yn adeilad Sbarc|spark ar ddechrau 2024, gyda’r nod o gael lle i ddod a chwsmeriaid, partneriaid a chydweithwyr ynghyd yn yr awyrgylch gorau.
Adam Sims, Rheolwr Strategol Cyfrifon, sy’n myfyrio ar flwyddyn gyntaf Cisco yn Arloesedd Caerdydd a’r uchafbwyntiau sy’n gysylltiedig â bod yn sbarc.

“Rydyn ni wir yn mwynhau bod yn ein cartref newydd yn Arloesedd Caerdydd. Yn ogystal â bod mewn lleoliad cyfleus, mae’r cyfleusterau yn sbarc|spark yn wych ac wedi rhoi’r cyfle i ni dynnu sylw a dangos technoleg Cisco ar waith.’’
“Mae Cisco yn frwdfrydig am annog merched a menywod i ystyried addysg a gyrfaoedd ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, celf a mathemateg (STEAM) – mae’n rhan o ddiben ehangach o ysgogi dyfodol cynhwysol i bawb. Rydyn ni’n cynnal rhaglenni ar draws y Deyrnas Unedig.”
“Ym mis Mai 2024 cafodd digwyddiad hwyliog a rhyngweithiol o’r enw ‘Merched ym maes TG CISCO’ ei gynnal gyda myfyrwyr benywaidd ym mlwyddyn 7 ag 8, ar y cyd â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Yn ystod y gweithdy hwn, bu’r myfyrwyr yn dysgu popeth am Cisco, y rolau a’r gwahanol gyfleoedd sy’n gysylltiedig â gyrfa ym maes technoleg. Roedd yn ddigwyddiad llwyddiannus iawn gyda llawer o adborth cadarnhaol.”
“Bu’r myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys arddangos yr ap a gafodd ei ddylunio gan eu tîm ar ffurf cyflwyniad Dragons Den a gemau datrys problemau. Cafodd y gweithgareddau hyn eu cynllunio i helpu i ddatblygu ystod o sgiliau, gan gynnwys dylunio ar y cyd, meddwl cyfrifiadurol, cyfathrebu a meddwl yn feirniadol.
“Rydyn ni’n gweithio’n agos iawn gydag academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd ac rydyn ni’n falch iawn i gefnogi myfyrwyr trwy fentrau tebyg, gan gynnwys mentora myfyrwyr blwyddyn olaf sy’n arbenigo mewn technoleg.
“Menter arall llawn hwyl sydd gennyn ni yw Cysylltu â Siôn Corn – rhaglen dros y gwyliau dan arweiniad ein gweithwyr. Bob blwyddyn, rydyn ni’n ymweld ag ysbytai yng Nghymru er mwyn i blant (a’u rhieni!) allu cael sgwrs â Siôn Corn yn ei groto, heb iddyn nhw orfod gadael eu hysbytai, a hynny oll drwy ddefnyddio Cisco TelePresence. Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr Cisco, sy’n gwisgo i fyny fel corachod ac yn dod ag ysbryd y Nadolig ac anrhegion i bob plentyn y gallan nhw. Yn 2024 fe wnaethon ni gynnal y rhaglen gyda ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, gan ddod ag ychydig o hud y Nadolig i lawer o blant sy’n aros ar y wardiau dros yr ŵyl”
“Mae ein blwyddyn gyntaf yn sbarc|spark wedi ein galluogi i wneud cysylltiadau newydd a datgloi posibiliadau newydd – rydyn ni’n edrych ymlaen at weld beth fydd ar y gweill yn 2025!”
Mwy o wybodaeth
Darganfyddwch fwy am Cisco
I gael rhagor o wybodaeth am labordai, swyddfeydd a mannau cydweithio Cardiff Innovations.