O Chwilfrydedd i greadigaeth: cyflwyno brandiau newydd drwy weithio ar y cyd – pennawd i’w gadarnhau
17 Medi 2024Dewch i gwrdd â Karolo, un o’n tenantiaid yn Arloesedd Caerdydd –asiantaeth dylunio gwe i sefydliadau sy’n ceisio cael effaith. Mae gan Karolo gleientiaid ar draws ystod o ddiwydiannau, ac maen nhw’n gweithio i ddylunio gwefannau deallus, brandiau cofiadwy a rhoi atebion creadigol i ddylunio graffeg.
Yn 2011, roedd y dylunydd Mark Stevenson a’r datblygwr Chris Hardwick yn gydweithwyr ac yn ffrindiau oedd yn fwrlwm o syniadau. Gan gyfuno llygaid craff Mark am ddylunio a gwybodaeth dechnegol Chris, cafodd Karolo ei sefydlu i gynnig atebion dylunio creadigol ar gyfer pobl wych. Ers hynny, mae Karolo bellach yn dîm, ac yn gweithio ar y cyd â phrosiectau sy’n cynnwys cannoedd o gleientiaid.
Yn gwbl ganolog i’r cwmni mae gonestrwydd, chwilfrydedd, a’r awydd i feithrin cysylltiadau. Gan fod yn dueddol i fynd yn erbyn y dull ‘siôn bob swydd’, meysydd o arbenigedd yn unig mae’r tîm yn ei gynnig, ac i gyflawni’r hyn y maen nhw’n ei addo wrth gymryd balchder yn y canlyniadau. Gan roi’r naws yma ar waith, maen nhw wedi llwyddo i weithio â chleientiaid ar draws ystod eang o sectorau, gan gyflawni prosiectau niferus: o hyrwyddo jin sy’n enwog ar draws y byd, i ddechrau busnesau gan gynnwys cyrff addysgol a sefydliadau yn y sector cyhoeddus.
Awyrgylch cymunedol
Symudodd Karolo i swyddfeydd Arloesedd Caerdydd ym mis Ebrill 2024. Mae’r gofod pwrpasol ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnwys busnesau newydd, cwmnïau deillio a phartneriaid prifysgol, gan roi’r cymorth angenrheidiol i sefydliadau i wireddu eu syniadau.
Meddai Mark Stevenson, Cyfarwyddwr Creadigol, Karolo:
“Rwy’n lwcus iawn i gael gweithio yn yr adeilad sbarc|spark ac i fod yn un o’r nifer o fusnesau uchelgeisiol yn y gymuned. Mae’r adeilad ei hun yn cynnig ysbrydoliaeth i ddylunio. Gall y pethau bychain wneud gwahaniaeth mawr yn ein diwydiant ni, ac mae ymdrech y tîm arloesedd i wneud pethau’n haws i ni yn ein gwaith, yn gwbl amlwg.
“Rydyn ni’n gallu gweithio’n agos â’n ffrindiau ers amser maith ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR), gan ein bod wedi ein lleoli yn sbarc|spark. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ni ehangu ein rhwydwaith ac i weithio ary cyd â phobl mewn diwydiannau gwahanol.”
“Mae’r ystafelloedd cyfarfod a’r mannau cymunedol yn ei gwneud hi’n weithle delfrydol i’r tîm. Pleser oedd cael dod ar draws hen ffrindiau ac wynebau newydd o gwmpas yr adeilad. Rydyn ni’n edrych ymlaen at y cyfle i gyfarfod rhagor o gymuned sbarc|spark cyn bo hir.”
Cyfleoedd ar gyfer y dyfodol
Wrth i Mark barhau, dywedodd bod Karolo’n bwriadu defnyddio gwybodaeth a chyfleusterau’r Brifysgol:
“Bydd cael gafael ar unigolion dawnus amrywiol o’r Brifysgol o fudd wrth i ni ddatblygu’r busnes ymhellach. O wybod pa mor heriol yw dod o hyd i brofiad ym maes y diwydiant dylunio, rydyn ni’n awyddus i roi’n ôl. Rydyn ni’n cynnig y cyfle i gael profiad gwaith ac i rannu gwybodaeth am y profiad o reoli asiantaeth am dros 10 mlynedd.”
“Gan ein bod yn gweithio â’r tîm dyfodol myfyrwyr, dechreuodd Megan, myfyriwr graddedig diweddar o Brifysgol Caerdydd gyda ni – rydyn ni’n barod i fwrw ati yn sbarc|spark.”
Rhagor o wybodaeth
Tîm cyfeillgar a hyblyg sydd yn Karolo, gan gynnwys dylunwyr creadigol a datblygwyr deallus. Rhagor o wybodaeth am eu portffolio dylunio a sut i gysylltu â nhw.
Dysgwch ragor am y cyfleoedd sydd ar gael yn labordai, swyddfeydd a mannau cydweithio Arloesedd Caerdydd.