Skip to main content

Adeiladau'r campws

Meithrin byd ymchwil ond a fydd yn aros yma? Sicrhau dyfodol disglair i ffiseg yn ne Cymru

10 Mawrth 2023

Mae’r Sefydliad Ffiseg (IOP) wedi bod yn edrych ar rôl ffiseg yn economi Cymru. Ar ôl ymweliad diweddar â Phrifysgol Caerdydd, mae cyn-reolwr polisïau’r IOP yng Nghymru, Richard Duffy, yn trafod yr atebion a allai fod yn sgîl dyfodiad y Campws Arloesi.

“Weithiau bydd yr ystadegau yn newid, ond mae’r stori’n aros yr un fath i Gymru. Degawdau o Ymchwil a Datblygu isel, gwariant isaf y pen ar ymchwil o blith gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr, a bod ar waelod y tablau cynhyrchiant yn gyson neu’n agos at fod ar y gwaelod.

Rydyn ni’n gyfarwydd iawn â’r dadleuon hyn. Cyfran annigonol o ffrydiau cyllido’r DU, diffyg seilwaith a sgiliau sylfaenol, absenoldeb cwmnïau y mae Cymry’n berchen arnyn nhw ac sydd â’u pencadlys yng Nghymru. Bellach, gallwch chi ychwanegu’r ffaith bod ffrydiau cyllido sylweddol yr UE wedi diflannu, gan fod y rhain wedi arfer lliniaru effaith y tri rheswm uchod.

Mae ein harolygon ein hunain yn dangos bod arloeswyr ffiseg yng Nghymru yn gorfod gohirio neu allanoli gweithgareddau arloesi oherwydd prinder y sgiliau, yn ogystal â bod yn fwy dibynnol ar gyllid yr UE, a fydd yn diflannu’n fuan, na’u cymheiriaid mewn rhannau eraill o’r DU.

Cymorth rhanbarthol

Os ydych chi wedi parhau i ddarllen y tu hwnt i’r newyddion diflas (a da iawn chi am ddarllen hyd yma), dyma newyddion ychydig yn fwy cadarnhaol.

Ymwelodd yr IOP â Phrifysgol Caerdydd yn ddiweddar i gwrdd â’r Athro Peter Smowton, pennaeth ffiseg ac arweinydd gwaith y sefydliad ar led-ddargludyddion cyfansawdd. Er inni ymdrin â llawer o’r heriau uchod—yn ogystal â’r problemau difrifol o ran diffyg sgiliau ac athrawon ffiseg yng Nghymru—roedden ni’n gallu gweld beth mae’r Brifysgol yn ei wneud.

Mae’r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn un o sawl rôl allweddol y mae’r Brifysgol yn ei chwarae yng nghlwstwr ehangach y lled-ddargludyddion cyfansawdd, sef CSconnected. Cysylltiad yw ystafell lân y Sefydliad rhwng y byd academaidd a byd diwydiant, a dyluniwyd y cyfleusterau ffabrigo’n benodol i gyd-fynd ag amodau byd diwydiant. Pontio ‘dyffryn marwolaeth’ bondigrybwyll a hynny ar wib.

Mae Canolfan MSc bwrpasol a Chanolfan Hyfforddiant Doethurol yr EPSRC yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar y clwstwr, tra bod prosiect arall a ariennir gan yr EPSRC, sef Canolfan Gweithgynhyrchu’r Dyfodol Drwy Led-ddargludyddion Cyfansawdd, yn sicrhau nad yw byd diwydiant y DU yn or-ddibynnol ar arloesi ym maes dylunio. Cydnabod sector amrywiol cyn strategaeth newydd y DU ym maes lled-ddargludyddion.

Efallai mai’r drafodaeth bwysicaf oedd yr awydd i sicrhau bod prosiectau o’r fath yn llwyddo fel y bydd gan fyd Ymchwil a Datblygu addysg uwch, sgiliau a’r cwmnïau deillio dilynol ddyfodol yn ne Cymru. Dim ond pan fyddwn ni’n creu digon o gwmnïau sy’n llwyddo yng Nghymru ac yn gwreiddio yn y gymuned ar yr adeg gywir y bydd y diffygion uchod yn cael eu datrys.

Dim rhagor o ‘gwmnïau sgriwdreifar’ sy’n cyrraedd ac yn ymadael â’r wlad cyn pen cenhedlaeth, ond yn hytrach cwmnïau cadarn a hyfyw sydd â seiliau cryf o ran Ymchwil a Datblygu ym maes ffiseg.

Cofleidio Ffiseg

Amdani, felly. Ffiseg, ffiseg, ffiseg. Llwyddo, llwyddo a llwyddo unwaith eto.

Ond yr hyn sy’n fantais ychwanegol i’r Ganolfan yw ei chymydog, sbarc | spark. Mae rhai o’r heriau sy’n effeithio ar ffiseg naill ai’n broblemau cymdeithasol ehangach neu’n lled ymwneud â’r pwnc ei hun. Prinder athrawon, ystrydebau am bynciau, yr angen i gynyddu addysg dechnegol.

Felly, er y gallwch chi bod weld y ffiseg flaengar sy’n berthnasol i fyd diwydiant yn digwydd mewn un adeilad, cewch ymweld â’r llall i drafod sut y gallem drafod rhai o’r materion hynny.

Cwestiynau am sut y bydd diwygiadau yn addysg Cymru yn effeithio hwyrach ar wyddoniaeth? Wel, mae WISERD drws nesaf. Ydych chi’n pryderu am gyfeiriad polisïau ymchwil ac arloesi? Gallwch chi wibio draw yno a siarad â phobl y CIPR. Eisiau mynd â’ch ymchwil ar led-ddargludyddion cyfansawdd i’r farchnad? Mae deorydd am y cwrt â chi.

Y pwynt yw bod y cyfleusterau’n cyd-fynd â’i gilydd mewn ffordd sy’n eu gwneud yn berthnasol i anghenion a heriau yng Nghymru. Hwyrach mai cwmni arferol y ddesg boeth fyddai hyn wedi bod yn y gorffennol, gan warantu lle i’r gwariwr uchaf.

Ond bellach, mae’r sefyllfa’n wahanol. Dyma adran ffiseg sy’n diwallu anghenion y diwydiant lleol, yn hytrach nag ymdrech gyffredinol i fod yn berthnasol yn fasnachol. Dyma wyddonwyr cymdeithasol sy’n rhannu lle â’r rheini sy’n cyflawni o ran polisïau yng Nghymru, gan rannu eu harbenigedd a’u canfyddiadau sy’n gweithio yn y Gymru ddatganoledig. Ac mae’n golygu bod problem ‘dau ddiwylliant’ C. P. Snow yn edrych ychydig yn llai anodd ar Heol Maendy, sy’n heulog heddiw.

Ac roedd fy brechdan yn neis iawn hefyd.”

Richard Duffy

I gael rhagor o wybodaeth am waith yr IOP yng Nghymru, cysylltwch â physics@iopwales.org